Cau ysgolion yng Nghaerdydd: Ymchwilio i 'gyfathrebu maleisus'

Mae Ysgol Uwchradd Llanisien yn un o ddwy ysgol sydd wedi bod ar gau
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n dweud eu bod yn ymchwilio i achos o gyfathrebu maleisus wedi i ddwy ysgol yng Nghaerdydd fod ar gau oherwydd bygythiadau.
Cafodd Heddlu'r De neges nos Sul yn gwneud bygythiadau i achosi niwed gydag arfau i bobl yn Ysgol Uwchradd Llanisien ac Ysgol Uwchradd y Dwyrain, yn Trowbridge.
O ganlyniad, mae'r ddwy ysgol wedi bod ar gau ddydd Llun a dydd Mawrth.
Mae'r llu bellach wedi cadarnhau eu bod hefyd wedi derbyn negeseuon nos Lun yn ymwneud ag Ysgol Uwchradd Gatholig Illtud Sant yn Nhredelerch.

Mae Ysgol Uwchradd y Dwyrain yn Trowbridge hefyd wedi bod ar gau
Dywedodd yr heddlu fod ymholiadau eang wedi'u cynnal, bod gwybodaeth wedi cael ei asesu a bod gwaith chwilio wedi cael ei gynnal yn yr ysgolion.
"Does dim tystiolaeth wedi'i ganfod o unrhyw berson yn mynychu unrhyw un o'r ysgolion yn peri bygythiad," meddai'r llu.
"Rydym yn deall bod digwyddiadau'r wythnos yma wedi achosi pryder ac aflonyddwch i rieni a'r gymuned.
"Tra bod yr ymchwiliad yn parhau i benderfynu ar darddiad y cyfathrebu maleisus, rydym yn gofyn i bobl atal rhag lledaenu sibrydion a chamwybodaeth, a dim ond rhannu gwybodaeth o ffynonellau swyddogol.
"Diolchwn i'r ysgolion, y rhieni a'r gymuned ehangach am eu cefnogaeth a'u dealltwriaeth."
Dyw'r llu ddim wedi manylu ynglŷn â phryd y bydd yr ysgolion yn ailagor.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.