Mam ifanc wedi marw ar ôl cymryd gorddos o dabledi lladd poen - cwest

 Llun agos o wyneb Sarah Thompson, sy'n fam ifanc, yn edrych ar y camera.
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Sarah Thompson, 34, ei darganfod yn farw yn ei chartref yng Nghei Connah fis Medi

  • Cyhoeddwyd

Bu farw mam i ddau blentyn o ogledd Cymru ar ôl cymryd gorddos o dabledi lladd poen, mae cwest wedi clywed.

Cafodd Sarah Thompson, 34, ei darganfod yn farw yn ei chartref yng Nghei Connah, Sir y Fflint ar 28 Medi gan ei merch 16 oed.

Roedd Ms Thompson yn dioddef gyda phroblemau iechyd meddwl, ers llawdriniaeth i dynnu ei laryncs o'i gwddw yn 2015 o ganlyniad i ganser.

Doedd y tabledi lladd poen, Tapentadol, sy'n achosi i rywun gysgu, ddim yn gyffuriau roedd hi wedi eu cael ar bresgripsiwn. Nid yw'n glir sut y cafodd Ms Thompson y tabledi.

Cytunodd y crwner gyda'i theulu nad oedd y gorddos yn fwriadol gan fod Ms Thompson eisiau byw a bod yno i gefnogi ei phlant.

Cofnododd y crwner John Gittins mai anffawd oedd ei marwolaeth yn y cwest yn Rhuthun, ac mai niwmonia oedd yr achos yn sgil gorddos o Tapentadol.

Dywedodd bod Ms Thompson hefyd wedi cymryd tabledi i golli pwysau, o'r enw Clenbuterol, ond doedd dim tystiolaeth feddygol fod hyn wedi cyfrannu at ei marwolaeth.

'Cyfres o amgylchiadau trasig'

Clywodd y cwest yn Rhuthun fod Ms Thompson wedi cael triniaeth ar ei gwddf yn 2015 ar ôl cael diagnosis o ganser ar ei gwddf, a defnyddio tiwb tracheostomy i'w helpu i anadlu.

Effeithiodd hyn ar ei hiechyd meddwl ac roedd hi'n ddioddef o fwlio ar y cyfryngau cymdeithasol.

Roedd profion yn dangos fod lefel uchel o'r tabledi Tapentadol yn ei chorff.

Dywedodd ei mam, Gail, wrth y cwest fod ei merch wedi cymryd y tiwb tracheostomy allan o'i gwddf yr un pryd a chymryd y tabledi lladd poen.

Roedd y cyffur wedi effeithio arni cyn iddi allu rhoi'r tiwb yn ôl yn ei gwddf.

Clywodd y cwest bod ei chariad tuag at ei phlant yn rheswm i fyw.

Er bod Ms Thompson wedi colli dros bum stôn yn ystod misoedd olaf ei bywyd, dywedodd y crwner nad oedd y cyffuriau roedd hi'n eu cymryd at golli pwysau wedi cyfrannu at ei marwolaeth.

Ychwanegodd ei fod "yn cydymdeimlo gyda theulu Sarah a bod rhain yn gyfres o amgylchiadau trasig".

"Mae'n amlwg y bydd pawb oedd yn ei charu yn ei cholli'n fawr."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.