Plentyn â nam golwg 'wedi syfrdanu' gan y dechnoleg i wylio pêl-droed

RyderFfynhonnell y llun, Kirsty Goddard
Disgrifiad o’r llun,

Defnyddiodd Ryder Goddard, sy'n 10 oed, benset realiti rhithiol i gael gwell golwg ar y cae yn stadiwm pêl-droed Caerdydd

  • Cyhoeddwyd

Mae bachgen 10 oed o Gaerdydd sydd â nam golwg wedi gallu profi gêm bêl-droed ei hoff dîm mewn ffordd hollol newydd diolch i benset realiti rhithiol - neu Virtual Reality (VR).

Dywedodd Ryder Goddard fod y dechnoleg wedi ei helpu i weld y gêm llawer cliriach nag erioed o'r blaen.

Cafodd ddefnyddio'r ddyfais mewn gêm gartref clwb pêl-droed Caerdydd yn erbyn Luton Town yn gynharach y mis hwn.

Mae'r cwmni GiveVision yn datblygu'r dechnoleg er mwyn helpu pobl â nam golwg i fwynhau digwyddiadau chwaraeon a hamdden yn well.

RyderFfynhonnell y llun, Kirsty Goddard
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Ryder a'i deulu docynnau tymor gyda chlwb pêl-droed Caerdydd

Am flynyddoedd, mae Ryder wedi bod yn dilyn gemau pêl-droed Caerdydd drwy sylwebaeth gan ei rieni gan nad oedd yn gallu gweld y gemau'n glir.

Ond yn ystod gêm ddiweddar, lle enillodd Caerdydd 3-1 yn erbyn Luton Town, cafodd y cyfle i fenthyg benset realiti rhithiol a newidiodd y ffordd roedd yn gallu gwylio'r gêm.

Wrth ddisgrifio'r profiad fe roddodd sgôr o "100 allan o 10", gan ddweud y gallai "weld popeth".

Mae'r penset yn caniatáu i ddefnyddwyr weld y chwaraewyr a'r cae yn well.

Dywedodd Ryder: "Fel arfer, y cyfan y gallaf ei weld yw cwpl o siapiau a chysgodion, felly rwy'n chwilio am grysau glas Caerdydd ar y cae".

Pan fydd ei dîm yn sgorio, meddai, mae'n aml yn gorfod aros am ymateb y dorf i wybod beth sydd wedi digwydd.

Ond dywedodd fod y penset "llawer gwell" a'i fod yn "gallu gweld popeth - yr holl goliau, yr amddiffyn, ac arbedion y gôl-geidwad. Roedd yn anhygoel."

Ychwanegodd, trwy'r penset, fod ganddo "ddewis i edrych o gwmpas y stadiwm neu wylio'r gêm, ac i chwyddo mewn ac allan o'r cae pryd bynnag".

RyderFfynhonnell y llun, Kirsty Goddard
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Ryder y cyfle i fenthyg y penset gan y cwmni GiveVision i'w helpu i weld y gêm yn well

Cafodd Ryder ei eni gyda microphthalmia a coloboma, cyflwr lle mae un neu ddau lygad yn llai datblygedig na'r arfer.

Dywedodd ei fam Kirsty nad yw'r cyflwr yn ei ddal yn ôl, a'i fod yn mynd ar y "roller coasters mwyaf, y sleidiau dŵr mwyaf ac yn chwarae pêl-droed".

Dywedodd ei dad, David fod Ryder fel arfer yn dibynnu ar sylwebaeth ei rieni a sŵn y dorf i ddilyn y gêm.

Cysylltodd David â GiveVision, cwmni yn y DU sy'n datblygu technoleg a all wella digwyddiadau chwaraeon ac adloniant i bobl â nam golwg, gan feddwl y byddai'r penset yn "wych i Ryder".

Dywedodd Stan Karpenko o GiveVision fod dros filiwn o gefnogwyr yn y DU ar hyn o bryd yn methu profi gemau byw yn llawn oherwydd problemau golwg.

Dywedodd fod tua un cefnogwr â nam golwg ymhlith pob 3,000 o bobl sy'n mynd i gemau yn y DU.

Ychwanegodd: "I roi hynny mewn persbectif, yn Stadiwm Principality yng Nghaerdydd, rydym fel arfer yn gweld bron i 25 o ddefnyddwyr fesul gêm, a tua 15 yn Crystal Palace ac Edgbaston."

Er bod yr offer ar gael mewn nifer gyfyngedig o leoliadau chwaraeon, dywedodd fod y cwmni'n bwriadu helpu llawer mwy o leoliadau i fabwysiadu eu technoleg.

"Gan nad yw llawer o leoliadau'n cynnig y gwasanaeth hwn ar hyn o bryd, rydym yn benthyg y penset i gefnogwyr am ddim i helpu cefnogwyr fel Ryder a'i deulu i fwynhau'r profiad o wylio'r gêm."

'Diwrnod gorau erioed'

Dywedodd mam Ryder ei bod yn emosiynol iawn yn ystod y gêm wrth weld faint roedd y ddyfais yn ei helpu.

Dywedodd mai stadiwm Caerdydd yw "ei hoff le yn y byd, felly mae dilyn y gêm, a gallu dod â phethau'n agosach ato trwy'r penset wedi bod yn fuddiol iawn iddo".

Dywedodd ei fod "wedi cael ei syfrdanu braidd gan y cyfan", a'i fod wedi dweud mai dyna oedd y "diwrnod gorau erioed".

"Roeddwn i'n teimlo'n emosiynol iawn, gan wybod pa mor angerddol yw e am Gaerdydd. Gwnaeth i ni sylweddoli faint mae e wedi'i golli."

Dywedodd ei rieni fod y profiad hefyd yn "chwerwfelys" gan mai benthyg y penset yn unig a wnaeth Ryder.

"Mae'n teimlo fel ein bod ni wedi rhoi'r cyfle hwn iddo, a nawr rydym wedi'i gymryd oddi wrtho i ryw raddau," meddai Kirsty.

Mae'r teulu bellach yn trafod gyda'r clwb sut y mae modd gwneud mwy o ddigwyddiadau'n hygyrch iddo yn y dyfodol, tra eu bod hefyd yn gobeithio y gall siarad am ei brofiad helpu i godi ymwybyddiaeth.

Dywedodd ei dad ei fod yn gobeithio y bydd y dechnoleg ar gael i Ryder ym mhob gêm yn y dyfodol ac i bobl eraill sydd ei hangen hefyd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.