Y Wladfa: Ydyn ni'n rhamantu stori o goloneiddio?

Lewis Jones gydag aelodau o'r llwyth Tehuelche, tua 1867Ffynhonnell y llun, Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Lewis Jones gydag aelodau o'r llwyth Tehuelche, tua 1867

  • Cyhoeddwyd

Yn 1865 cyrhaeddodd 153 o ymfudwyr o Gymru arfordir Yr Ariannin, gyda'u bryd ar greu bywyd newydd. Mae'r Gymraeg dal i'w chlywed yn nhalaith Chubut ym Mhatagonia, 160 o flynyddoedd yn ddiweddarach.

Mae hi'n stori gyfarwydd, gyda dyfalbarhad yr ymfudwyr i oroesi a ffynnu yn cael ei ganmol.

Ond mae'r stori yn anghyflawn ac yn cael ei or-ramantu, yn ôl Dr Lucy Taylor, Uwch Ddarlithydd mewn Astudiaethau America Ladin ym Mhrifysgol Aberystwyth, gydag elfen allweddol ar goll o'r hanes, sef yr effaith ar y bobl oedd yno yn barod.

Tawelu llais y brodorion

Ar y cyfan, roedd perthynas y Cymry gyda'r brodorion yn un da, meddai Dr Taylor, gyda'r ddwy ochr yn elwa.

"Roedd y bobl frodorol wedi gwneud cysylltiad gyda'r Cymru i farchnata, ac yn y dechrau roedd y marchnata yn fantais i'r Cymry ac i'r bobl frodorol, achos cyn hynny roedd rhaid iddyn nhw fynd tua 200 milltir ymhell dros dir anodd iawn [i fasnachu].

"Ond pan oedd yr Ariannin yn dechrau cymryd drosodd y tir brodorol, wedyn roedd y problemau yn dechrau."

Roedd gwladwriaeth Yr Ariannin yn awyddus i gael gwared ar bobl frodorol y wlad, ac i droi pawb yn 'Archentwyr' – gan gynnwys y setlwyr o wledydd eraill, fel y Cymry. Ond y trigolion cynhenid gafodd hi waethaf.

"Roedd y milwyr wedi dod lawr o'r gogledd lawr i'r de ac oedden nhw eisiau sgubo'r bobl a'u cael nhw oddi ar y tir, achos oedden nhw eisiau y tir ar gyfer yr Ariannin.

BrodorionFfynhonnell y llun, Llyfrgell Genedlaethol Cymru

"Ac roedd yna ddigon o drais pan oedd y bobl yn ymladd yn erbyn y milwyr. Roedden nhw'n lladd nhw ond hefyd roedd y rhan fwyaf wedi eu casglu fewn i wersylloedd fel concentration camps.

"Roedd gwragedd a phlant yn cael eu symud i weithio mewn tai yn Buenos Aires, a'r dynion yn cael eu symud i ymuno â'r fyddin, a rhai eraill yn mynd i'r gogledd i'r plantations siwgr.

"Roedden nhw eisiau cael gwared ar y brodorion, ac eisiau eu troi nhw yn citizens o'r Ariannin. Ond oedden nhw wastad yn cael eu hystyried fel second class citizens.

"Roedd eu cymdeithas wedi cael eu chwalu a'u hieithoedd wedi cael eu tawelu. Fel ydych chi'n gallu dychmygu os ydych chi'n hollti teuluoedd, roedd hwn yn cael effaith ofnadwy ar y gymdeithas."

Dod yn Archentwyr

Mae ambell i ddyfyniad yn nyddiaduron y Cymry yn sôn eu bod yn teimlo fod beth oedd yn digwydd i'r brodorion yn annheg. Ond o bosib yn bwysicach i'r Cymry, oedd yr awydd i gadw partneriaid masnachu, ac i ledu maint eu gwladfa newydd, eglurodd Dr Taylor ar raglen Dei Tomos ar BBC Radio Cymru.

"Mae'n rhaid inni ystyried fod y marchnata gyda'r brodorion yn beth pwysig iawn yn economi'r Cymry. Ac hefyd achos oedden nhw ddim yn cael trafferth gyda'r brodorion, doedd y Cymry ddim eisiau newid y status quo.

"A pheth arall i'w ystyried, dim ond cwpl o flynyddoedd ar ôl i hynny ddigwydd, roedd y Cymry wedi ymuno gyda'r fyddin i marcho fyny i'r Andes i drio cymryd y tir yn Esquel a Trevelin.

"Felly roedden nhw'n mynd o amddiffyn y bobl frodorol, i gymryd tir y brodorion yn yr Andes, ac yn gweithio gyda'r fyddin yn lle eu beirniadu."

Pobl yn teithioFfynhonnell y llun, Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Dechrau ar daith archwilio i'r Andes, 1892

Perthynas eithaf cymhleth oedd gan y Cymry gyda Llywodraeth yr Ariannin. Ar un llaw, roedden nhw yn awyddus i sefydlu cymdeithas annibynnol, Gymraeg, er gwaethaf y ffaith fod y Llywodraeth am iddyn nhw ddod yn rhan o'r Ariannin, fel y sefydlwyr eraill oedd wedi cyrraedd y wlad.

Ond ar y llaw arall, roedd y Cymry yn derbyn cymorth Llywodraeth eu gwlad newydd yn ddi-gwestiwn.

Beth sydd hefyd rhaid i ni ei gofio am y stori rydyn ni'n ei dysgu am y Wladfa, meddai Dr Taylor, yw mai stori arweinwyr y gymuned Gymraeg yno rydyn ni wedi ei chlywed; y rhai ag addysg, y rhai pwerus, oedd i gyd o'r un farn.

Nhw oedd yn gobeithio am fersiwn o wlad annibynnol; rhyw 'Gymru newydd' dros y dŵr.

"Rwy'n credu bod e'n pwysig iawn bod ni'n ystyried mwy am ein heffaith fel Cymry yn mynd i Batagonia."

Dr Lucy Taylor ar Raglen Dei Tomos ar BBC Radio Cymru

Beth sy'n llai amlwg yn yr archifau, yw llais y bobl gyffredin, ac roedd eu safbwynt nhw yn wahanol, meddai.

"Roedd y rhan fwyaf ohonyn nhw eisiau mynd i'r wlad, eisiau byw yn dda, eisiau magu teulu, byw bywyd eitha tawel ac roedd rhain yn hapus i feddwl, 'ni'n rhan o'r Ariannin nawr, a ni'n gwneud y gorau allan ohono fe'.

"Pan oedd Llywodraeth yr Ariannin wedi helpu'r Cymry ar ôl y llifogydd drwg iawn 1900, roedd hwn yn dangos pa mor bwysig oedd e i gael gwladwriaeth sydd yn gallu camu mewn a helpu ti."

Dr Lucy TaylorFfynhonnell y llun, Dr Lucy Taylor
Disgrifiad o’r llun,

Dr Lucy Taylor yw awdur llyfr Global Politics of Welsh Patagonia: Settler Colonialism from the Margins, lle mae hi'n pwysleisio pwysigrwydd adrodd y darlun cyflawn am hanes y Wladfa

Dianc rhag coloneiddio drwy goloneiddio eraill

Mae Dr Taylor o'r farn fod y stori rydyn ni'n ei chlywed yn yr ysgol ac ar y cyfryngau am y rheiny a adawodd Cymru ac ymsefydlu ym Mhatagonia yn anghyflawn, a'i bod hi'n hen bryd i ni edrych eto ar yr elfennau sy'n aml ar goll o'r hanes.

"Ambell waith mae pobl yn dweud 'dydy'r Cymru ddim yn gallu bod yn goloneiddwyr achos ni wedi cael ein coloneiddio'. Ond mae'n eithaf amlwg bod ni'n gallu bod y ddau beth ar yr un pryd.

"Roedd y Cymry oedd yn mynd i'r Wladfa yn meddwl yn gryf eu bod nhw'n cael eu coloneiddio gan Loegr a San Steffan. Ond hefyd roedden nhw wedi dewis coloneiddio fel eu dull o ddatrys eu problem.

Llwyth Saca Mata, Kaques, Teca, Patagonia, 1893Ffynhonnell y llun, Archifau a Chasgliadau Arbennig Prifysgol Bangor
Disgrifiad o’r llun,

Llwyth Saca Mata, Kaques, Teca, Patagonia, 1893

"Rwy'n credu bod e'n bwysig iawn bod ni'n ystyried mwy am ein heffaith fel Cymry yn mynd i Batagonia. Doedden nhw ddim o reidrwydd eisiau gormesu yn fwriadol.

"Ond roedd sefydlu [Y Wladfa] wedi cael effaith fawr ar y cymunedau brodorol achos oedd e'n rhan o broses coloneiddio Yr Ariannin.

"Roedd y Cymry yna, ac roedden nhw'n rhan o'r broses.

"Dyna beth dwi'n meddwl sydd yn bwysig ystyried nawr yw: Ydyn ni'n gallu cario ymlaen i fyw gyda'r stori ramantus o arwriaeth a llwyddo yn erbyn anawsterau?

"Neu ydy hi'n amser i ni agor ein llygaid ac agor ein meddylfryd i feddwl, beth yw ein heffaith ni yna? Oes rhaid i ni ail-ystyried ac oes rhaid i ni wneud rhywbeth am y sefyllfa yma?"

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.