3 Llun: Marc Griffiths
- Cyhoeddwyd
Dros y penwythnos fe fydd Marc Griffiths yn nodi carreg filltir go arbennig – 25 mlynedd o ddarlledu ar BBC Radio Cymru. Ers sawl blwyddyn bellach, mae'n diddanu'r genedl ar nos Sadwrn yn chwarae ceisiadau gwrandawyr.
Yma, mae wedi dewis tri llun sy'n bwysig iddo.
Grav

Pan dwi'n edrych ar y llun yma dwi'n teimlo ton o falchder. Balchder fy mod i wedi cael y fraint aruthrol i adnabod y cawr o Fynyddygarreg, Ray Gravell. Yn fentor, yn gydweithiwr chwaraeus, ond yn bwysicach oll, yn ffrind annwyl a didwyll.
Roedd cael y cyfle i weithio gyda Grav ar raglen y Gorllewin ar BBC Radio Cymru yn brofiad bythgofiadwy. Boreau cynnar llawn sbort a drygioni – chwerthin tan i ddagrau'n llifo. Roedd Grav yn berson unigryw, llawn egni a bwrlwm.
Bob bore byddai Grav yn ffonio'n gynnar iawn 'mond i wneud yn siŵr fy mod i wedi dechrau ffordd i'r stiwdio, ac wrth gwrs, i wneud yn siŵr bod 'na dishgled o de iddo fe cyn i'r rhaglen ddechrau.
Ar ddiwedd y rhaglen byddai rhaid mynd i gael bwyd ar y ffordd adre. Yn aml, y bydden ni'n galw mewn yng Nghaffi Rhiannon yn Cross Hands i gael brecwast. Roedden ni'n cerdded i mewn a ffeindio sedd a fan'na bydde Grav, yn cloncian a chwerthin wrth ddrws y caffi yn rhoi'r byd yn ei le gyda hwn a'r llall. Roedd pawb eisiau siarad gyda Grav. Dwi'n gweld ei eisiau'n fawr iawn.
Cerddoriaeth fyw

Dwi wrth fy modd gyda cherddoriaeth fyw ac yn cael cymaint o bleser wrth chwarae ceisiadau'r gwrandawyr selog ar y rhaglen bob nos Sadwrn. A dyna beth sy'n hyfryd ar nos Sadwrn, cael bod yn gwmni i bobl tra eu bod nhw'n paratoi swper, neu ar y ffordd nôl o rywle yn y car.
Mae'r dewis o geisiadau sy'n amrywio o John ac Alun i AC/DC yn gwneud y rhaglen ar nos Sadwrn yn unigryw, heb os!
Mae'r llun teulu yma o'r Wŷl ar Ynys Wyth. Ry'ni wedi bod yn mynd yno ers sawl blwyddyn bellach a phrofi cerddoriaeth fyw gan rai o'r enwau mwyaf eiconig, o Tom Jones a'r Stereophonics i Robbie Williams a Blondie, i enwi dim ond rhai.
Ry'n ni'n edrych ymlaen yn fawr i fynd eto ym mis Mehefin.
Tomos a Wayne Rooney

'Nôl yn 2016 cafodd Tomos y mab gyfle i fod yn fascot i dim pêl droed Abertawe. Yn gefnogwr brwd o'r Swans roedd Tomos wrth ei fodd ac yn hynod gyffrous i gyrraedd y twnel cyn y gêm rhwng Abertawe a Man U. Ac yn y twnel cyn i'r chwaraewyr fynd ar y cae, dyma gamerau Sky Sports yn dal wyneb Tomos, wedi ei syfrdanu wrth weld pwy oedd wrth ei ymyl e – ie, neb llai na'r chwaraewr enwog Man U ar y pryd, Wayne Rooney.
Aeth y clip o Tomos yn feiral o fewn eiliadau.
Ychydig o fisoedd ar ôl i hyn ddigwydd, rwy'n cofio cael galwad gan Catrin sydd yn gweithio i Radio Cymru yn dweud wrtha'i eu bod nhw wedi cael galwad gan gwmni Chevrolet yn yr Unol Daleithiau i ddweud eu bod nhw'n chwilio amdanaf ac yn gofyn i mi gysylltu gyda nhw.
Doedden ni wir ddim yn credu hyn ar y pryd ac yn meddwl bod rhywun yn tynnu fy nghoes, ond, ar ôl ychydig o oriau mi nes i ffonio'r person yn ôl a gwir oedd y gair, merch yn gweithio i adran y wasg yn Chevrolet oedd yno ac yn dweud eu bod nhw wedi gwirioni ar y clip o Tomos yn edrych ar Wayne Rooney ac yn gofyn i ni fel teulu a fyddai ddiddordeb gan Tomos gwrdd â Wayne!
A na, nid breuddwyd oedd hyn. Cafodd Tomos drip i Carrington, safle hyfforddi Man U i gwrdd â Wayne Rooney a'r holl chwaraewyr a gofynwyd iddo gyflwyno fideo arbennig am fascots Chevrolet yng nghwmni Wayne Rooney.
Diwrnod bythgofiadwy i ni gyd fel teulu.
Hyd heddiw mae'r clip yn dal i gylchdroi ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn dod a gwên i'r wyneb bob tro.
Caniatáu cynnwys TikTok?
Mae’r erthygl hon yn cynnwys deunydd gan TikTok. Gofynnwn am eich caniatâd cyn llwytho unrhyw beth, gan y gallai YouTube ddefnyddio cwcis neu dechnoleg arall. Mae’n bosib eich bod am ddarllen polisi cwcis TikTok, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. Er mwyn gweld y cynnwys dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae rhaglen Marc Griffiths ar BBC Radio Cymru rhwng 18:30 a 21:00 nos Sadwrn.
3 Llun: Chris Roberts yn Japan
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2025
3 Llun: Lluniau pwysicaf Tanwen Cray
- Cyhoeddwyd8 Medi 2025
3 Llun: Lluniau pwysicaf Dilwyn Morgan
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2025
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.