Dyn o Wynedd yn euog o droseddau terfysgol

Fe gafodd yr achos yn erbyn Ashton Rees ei gynnal yn Llys y Goron Lerpwl
- Cyhoeddwyd
Mae llys wedi cael dyn 21 oed o Wynedd yn euog o droseddau terfysgol.
Roedd Ashton Rees, o ardal Bangor, yn gwadu pedwar cyhuddiad o feddu ar wybodaeth all fod yn ddefnyddiol i berson gyflawni neu baratoi gweithred derfysgol.
Fe gafodd ei erlyn yn dilyn "ymchwiliad manwl" dan arweiniad uned Plismona Gwrth-Derfysgaeth Cymru - partneriaeth sy'n cynnwys pedwar llu heddlu Cymru.
Fe safodd ei brawf yn Llys y Goron Lerpwl mewn achos a barodd am bedwar diwrnod.
Fe fydd yn cael ei ddedfrydu ddiwrnod olaf mis Mawrth.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.