Tenor o Armenia yn ennill gwobr newydd Syr Bryn Terfel

David Karapetian a Syr Bryn TerfelFfynhonnell y llun, Kirsten McTernan
Disgrifiad o’r llun,

David Karapetian yn dathlu ennill y gystadleuaeth newydd gyda Syr Bryn Terfel

  • Cyhoeddwyd

Mae tenor o Armenia wedi ennill cystadleuaeth newydd Syr Bryn Terfel ac yn dweud ei fod yn "cadw iaith yn fyw drwy ganu".

Drwy ennill Gwobr y Gân Syr Bryn Terfel bydd David Karapetian yn derbyn gwobr o £15,000.

Nod y gystadleuaeth, sy'n cael ei rhedeg mewn partneriaeth â Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yw hyrwyddo talent newydd drwy wahanol ieithoedd.

Dywedodd David Karapetian ei fod yn "hynod ddiolchgar am y cyfle i rannu fy angerdd dros ganu" ac roedd "yn arbennig iawn cael canu yn fy iaith fy hun".

Roedd y cystadleuwyr i gyd, sy'n israddedigion o brifysgolion cerddoriaeth ar draws y DU, yn gorfod perfformio rhaglen oedd yn cynnwys tair cân.

Roedd yn rhaid i un gân ddathlu eu hiaith a'u diwylliant eu hunain, ac roedd yn rhaid iddyn nhw berfformio un gân osod Gymreig, sef 'Pan ddaw'r nos' gan Meirion Williams.

Fe ddewisodd David Karapetian gân Arminaidd, Կռունկ, (The Crane) gan Komitas yn rhan o'i berfformiad.

"Gan fy mod yn dod o wlad fach sydd â hanes mor gyfoethog, mae'n golygu llawer i allu helpu i gadw ein diwylliant a'n hiaith yn fyw trwy gân."

Dywedodd fod caneuon Arminaidd yn rhan o'i ddiwylliant "sydd ddim yn cael ei chlywed yn aml yn y byd perfformio ehangach".

"Felly roedd cael y cyfle i'w rhannu â chynulleidfaoedd newydd yn hynod ystyrlon."

Dywedodd hefyd ei fod yn "hynod ddiolchgar am y cyfle i rannu fy angerdd dros ganu. Roedd gweithio gyda Syr Bryn yn gwireddu breuddwyd i mi".

'Mor falch o'r gystadleuaeth'

Dywedodd Syr Bryn Terfel ei fod "mor falch" o'r gystadleuaeth ac yn teimlo'n lwcus "i fod wedi byw pob eiliad o'r pedwar diwrnod".

Aeth ymlaen i ddweud: "Gweithiodd y rheini a gyrhaeddodd y gystadleuaeth derfynol mor ddiwyd ar eu repertoire dewisol a pharatoi fy nghân ddewisol 'Pan ddaw'r nos' i safon mor uchel.

"Rhaid i mi ychwanegu hefyd fod y myfyrwyr wedi bod yn glod i'w conservatoires."

Mi fydd y gystadleuaeth yn cael ei chynnal bob dwy flynedd - eleni, un cystadleuydd o Gymru gymerodd rhan, sef Charlotte Crane o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig