Cyrsiau newydd yn Llanbed i 'ddatblygu sgiliau ar gyfer gyrfa mewn ffermio'

FfensioFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Ceredigion
Disgrifiad o’r llun,

Fe fydd cyrsiau ategol fel plygu perthi a defnyddio peiriannau yn ddiogel hefyd yn cael eu cynnig ar y safle

  • Cyhoeddwyd

Bydd dau lefel o brentisiaethau amaethyddol yn cael eu cynnig i ddisgyblion ar fferm yn Llanbedr Pont Steffan yn y dyfodol.

Yn ôl Cyngor Sir Ceredigion, sydd wedi prynu fferm Llettytwppa yn ddiweddar, fe fydd cyfle i astudio Prentisiaeth Sylfaen Lefel 2 a Phrentisiaeth Lefel 3 ar y safle.

Nod y prentisiaethau, meddai'r cyngor, yw "datblygu sgiliau ymarferol a gwybodaeth ar gyfer gyrfa mewn ffermio".

Daw'r prosiect fel rhan o weledigaeth ehangach y cyngor i gefnogi economi wledig Ceredigion ac i ddarparu sgiliau i bobl ifanc sydd eu hangen arnynt i aros yn eu cymunedau i "ddysgu, byw a llwyddo".

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies, arweinydd Cyngor Sir Ceredigion eu bod yn awyddus i sicrhau bod y cynlluniau'n "adlewyrchu anghenion y diwydiant" ac yn "rhoi'r sgiliau perthnasol i'n pobl ifanc".

Mae Fferm Llettytwppa, sydd yn 134 cyfer, yn ffinio â champws Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan.

Fis Gorffennaf, fe ddaeth y cyhoeddiad bod Cyngor Sir Ceredigion wedi prynu'r eiddo gwerth tua £1.8m wedi benthyciad gan Lywodraeth Cymru.

Daeth hynny fel rhan o gynllun i ddarparu addysg alwedigaethol ôl-16 ar gampws y brifysgol, wedi i 200 mlynedd o addysgu israddedig ddod i ben yno.

Wrth ddatgelu rhagor o gynlluniau ar gyfer Fferm Llettytwppa ddydd Iau, fe ddywedodd Cyngor Sir Ceredigion y bydd cyrsiau amaethyddol a garddwriaethol yn cael eu darparu, ynghyd â chyrsiau ategol megis plygu perthi, defnyddio peiriannau yn ddiogel, mecaneg amaethyddol ac amaethyddiaeth gynaliadwy.

Creu pocerFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Ceredigion
Disgrifiad o’r llun,

Roedd diwrnod agored ar Fferm Llettytwppa ddechrau'r wythnos, lle y cafodd disgyblion flas o'r gwahanol gyrsiau

Dywedodd Prys Lewis - sydd wedi ei benodi yn rheolwr ar y fferm a thiwtor - mai'r bwriad yw "dysgu sgiliau traddodiadol yn ogystal â sgiliau newydd" i'r bobl ifanc.

"Rydym yn disgwyl y bydd llawer iawn am fanteisio ar y cyfle gwych hwn i fynychu'r cyrsiau hyn," meddai.

Bydd y Brentisiaeth Sylfaen Lefel 2 yn addas i ddechreuwyr neu'r rhai sydd â rhywfaint o brofiad, gan ganolbwyntio ar egwyddorion amaethyddiaeth fel cynhyrchu cnydau, ffermio cymysg a gofalu am stoc anifeiliaid dros gyfnod o tua 24 mis.

Ar ôl cwblhau Lefel 2, gellir symud ymlaen i'r Brentisiaeth Lefel 3, sy'n datblygu sgiliau uwch ar gyfer rolau fel rheolwr fferm neu dechnegydd amaethyddol.

Prys Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Prys Lewis sydd wedi ei benodi yn rheolwr ar y fferm a thiwtor

Er mwyn sicrhau bod y cyrsiau yn ymateb i anghenion y diwydiant, cafodd digwyddiad ymgysylltu ei gynnal gan Gyngor Sir Ceredigion ddechrau Rhagfyr gyda rhanddeiliaid allweddol o'r sector amaethyddol.

Yn eu plith roedd undebau amaethyddol, Mudiad y Ffermwyr Ifanc, busnesau lleol, ffermwyr lleol a phobl ifanc sydd â diddordeb mewn amaeth.

Yn ystod y digwyddiad ymgysylltu fe ddywedodd Eifion Evans, Prif Weithredwr Cyngor Sir Ceredigion, y bydd y cyrsiau amaethyddol, sef "cam cyntaf" y datblygiadau, yn cael eu cynnig ar Fferm Llettytwppa o fis Medi nesaf ymlaen.

Dywedodd Twm, 14 oed o Ysgol Henry Richard, ei fod yn bwysig cael cyfle i ddweud ei farn.

"Ni yw'r dyfodol a phobl fel ni yw asgwrn cefn Ceredigion," meddai.

"Mae cael nosweithiau fel hyn lle mae pobl sydd wedi bod yn y maes ers blynyddoedd yn rhannu syniadau wedi bod yn bwysig iawn."

Twm
Disgrifiad o’r llun,

Mae cael cyfleoedd i rannu syniadau gyda phobl o fewn y diwydiant yn werthfawr, medd Twm

Er yn cydnabod bod darlun negyddol yn cael ei baentio o'r sector ar hyn o bryd, dywedodd Aled Davies, Cynghorydd Sirol NFU Cymru dros Geredigion a Sir Benfro, fod y cynlluniau yn cynnig gobaith.

"Mae pethau negyddol o fewn amaethyddiaeth, popeth ar hyn o bryd, ond mae bob tro cyfleoedd yn mynd i fod yna," meddai.

"Mae hwn yn gyfle arall nawr i amaethyddiaeth gymryd rhan mewn modd positif."

Trin defaidFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Ceredigion
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y disgyblion drwsio beiciau cwad, ffensio, pwyso wŷn, creu pocer â ffwrnais nwy a mwy yn ystod y diwrnod agored

Gweld cyfle i gadw pobl yn yr ardal roedd Geraint Jones, sy'n gweithio yn CCF Clunderwen.

"Pwy bynnag bydd yn mynd i fan 'na, byddan nhw'n dod i weithio am ddiwrnod fan hyn a fan draw.

"Falle bydd ffermio ddim yn beth iddyn nhw yn y diwedd ond falle awn nhw i weithio yn rhywle agos yn yr ardal yn gwerthu beiciau modur neu fel mechanics," ychwanegodd.

Bryan Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies eu bod yn awyddus i sicrhau bod y cynlluniau'n "adlewyrchu anghenion y diwydiant"

Roedd cyfle hefyd i ddisgyblion ysgol Blwyddyn 10 i 13 sy'n dilyn cyrsiau amaethyddol neu alwedigaethol yn ysgolion y sir i fynychu diwrnod agored ar Fferm Llettytwppa ddechrau'r wythnos, gyda diwrnod agored arall ddydd Iau.

Cafodd y disgyblion flas ar weithdai megis sut i drwsio beiciau cwad, ffensio, pwyso wŷn, creu pocer â ffwrnais nwy ac yn y blaen.

Dywedodd y Cynghorydd Bryan Davies: "Mae sefydlu Fferm Llettytwppa fel lleoliad i gynnig cyrsiau a phrofiadau ymarferol i bobl ifanc a dysgwyr gydol oes Ceredigion, a hynny o fewn y sir, yn hollbwysig.

"Rydym yn awyddus i sicrhau bod y cynlluniau'n adlewyrchu anghenion y diwydiant ac yn rhoi'r sgiliau perthnasol i'n pobl ifanc."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.