Cyhuddiadau terfysg: 'Dynion yn paratoi i ymosod ar fosg a mynwent Iddewig'

Rhys Edwards (chwith) a Talan Vincent (dde)
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y lluniau yma o Rhys Edwards (chwith) a Talan Vincent (dde) eu cymryd yn 2022/23 pan roedden nhw'n ddisgyblion ysgol - lluniau wedi'u cael gan Newyddion S4C

  • Cyhoeddwyd

Mae dau ddyn wedi ymddangos yn y llys wedi eu cyhuddo o gynllwynio ymosodiad terfysgol yn erbyn targedau Mwslimaidd ac Iddewig yng Nghaerdydd.

Mae Rhys Edwards, o'r Mynydd Bychan, a Talan Vincent, o'r Eglwys Newydd - y ddau'n 18 - wedi cael eu cyhuddo o gynllunio ymosodiadau ar Fosg Madina a mynwent Iddewig yng Nghaerdydd rhwng 1 Hydref ac 16 Tachwedd eleni.

Honnodd yr erlynydd, Christopher Hewertson, fod y diffynyddion wedi ymchwilio i sut i gael gafael ar reiffl awtomatig AR15.

Ychwanegodd mai'r honiad yw eu bod hefyd am gael offer argraffu 3D soffistigedig er mwyn gallu argraffu rhannau gwn.

Mosg Madina
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r diffynyddion wedi cael eu cyhuddo o gynllunio ymosodiad ar Fosg Madina yn ardal Cathays

Mae'r ddau hefyd yn cael eu cyhuddo o gynllunio i yrru fan, â phlatiau rhif ffug, am yn ôl i fyny at ddrysau Mosg Madina - fel na allai neb ddianc cyn iddyn nhw ddechrau saethu arfau awtomatig.

Honnir hefyd eu bod wedi trafod llwytho fan gyda 1,000kg o ffrwydron amoniwm nitrad, a sut fyddai modd iddyn nhw gael gafael ar swm o'r fath heb ddenu sylw.

Roedden nhw wrthi'n cynllunio hefyd sut y byddan nhw'n dianc o'r lleoliad, yn ôl y cyhuddiad.

Clywodd y llys fod y ddau wedi bod yn trafod trwy ap o'r enw Discord, a bod Mr Edwards wedi trafod ei fwriad i ladd Iddewon a Mwslimaidd a gwneud honiadau am "ragoriaeth ei hil ei hun".

Honnir bod Mr Vincent wedi cael lluniau o'r awyr o leoliadau posib i dargedu, gan gynnwys y fynwent Iddewig ger Parc y Rhath, a synagog yn y brifddinas.

Mynwent Iddewig
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y fynwent Iddewig ger Parc y Rhath yn darged arall i'r ddau, yn ôl yr erlyniad

Mae'r ddau wedi cael eu cyhuddo o baratoi gweithredoedd terfysgol.

Mae'r cyhuddiad yn dweud eu bod wedi "ymchwilio ac ymweld â lleoliadau'r ymosodiadau ac wedi gwneud trefniadau i gael gynnau".

Fe awgrymodd y ddau ddiffynnydd, a ymddangosodd drwy linc fideo, yn y gwrandawiad yn Llys yr Old Bailey ddydd Gwener y byddan nhw'n pledio'n ddieuog ar sail diffyg bwriad i gymryd rhan mewn gweithredoedd terfysgol.

Dywedodd cynrychiolydd ar gyfer Mr Edwards fod rhai o'i sylwadau ar Discord yn ddim mwy na "rage-baiting".

Mae disgwyl i achos tair wythnos o hyd gael ei gynnal yn Llys y Goron Bryste yn Chwefror 2027.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol