Cymuned yn camu i mewn i brynu unig siop lyfrau Cymraeg Sir Conwy

Llun o du allan i siop Bys a Bawd yn LlanrwstFfynhonnell y llun, Bys a Bawd Pawb
Disgrifiad o’r llun,

Siop Bys a Bawd sy'n berchen i gymuned Llanrwst

GanDelyth Robyns
BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

A hithau'n Ddiwrnod y Llyfr, mae 'na newyddion da i'r unig siop lyfrau Cymraeg yn Sir Conwy.

Yn Llanrwst mae'r gymuned wedi llwyddo yn eu hymgyrch i ddiogelu dyfodol siop lyfrau Bys a Bawd.

Cafodd Bys a Bawd ei sefydlu dros 70 mlynedd yn ôl, a gan fod y perchnogion presennol yn ymddeol, llwyddodd grŵp lleol Bys a Bawd Pawb i ddenu cyfranddalwyr i fuddsoddi yn y fenter a chadw'r siop ar agor.

Dywedodd y grŵp: "Rydyn ni'n falch iawn o gyhoeddi bod Bys a Bawd bellach yn swyddogol yn nwylo'r gymuned - union flwyddyn ers agor y cynnig cyfranddaliadau!"

Llun o rhai o bwyllgor Bys a Bawd Pawb yn y siop Ffynhonnell y llun, Nia Clwyd
Disgrifiad o’r llun,

Criw Bys a Bawd Pawb yn y siop yn paratoi ar gyfer y gwaith o adnewyddu

Y gred yw mai dyma'r tro cyntaf i siop lyfrau Cymraeg ddod dan berchnogaeth y gymuned.

Agorodd Bys a Bawd ei drysau am y tro cyntaf yn 1955 gan Dafydd ac Arianwen Parry - hon oedd y siop lyfrau Cymraeg gyntaf yng Nghymru.

Mae'r perchennog presennol, Dwynwen Berry wedi ymddeol, ac yn 2023 rhoddodd y busnes, y siop a'r ddwy fflat ar werth.

Yn anffodus ni fu llawer o ddiddordeb a chysylltodd Cyngor Llyfrau Cymru â Menter Iaith Conwy i ofyn a fyddent yn cefnogi pryniant y busnes dan arweiniad y gymuned.

Bellach mae pwyllgor Bys a Bawd Pawb wedi llwyddo yn eu hymgyrch i godi dros £125,000 i sicrhau bod y siop yn aros ar agor ac yn nwylo'r gymuned.

Mae'r grŵp yn gyfuniad o unigolion lleol, sy'n dweud eu bod yn awyddus i ddod ag egni a brwdfrydedd newydd i'r siop.

Pwyllgor Bys a BawdFfynhonnell y llun, Bys a Bawd Pawb
Disgrifiad o’r llun,

Aelodau o bwyllgor Bys a Bawd Pawb gafodd ei sefydlu flwyddyn yn ôl

Nia Clwyd Owen yw Cadeirydd Pwyllgor Bys a Bawd Pawb, a dywedodd bod y grŵp yn "falch iawn o gyrraedd y nod a phrynu'r siop i'r gymuned".

"Mae hi wedi bod yn flwyddyn anodd" i'r pwyllgor, meddai, gan ychwanegu: "Fyddai hyn ddim yn bosib a fyddan ni ddim fan hyn heddiw heblaw fod Menter Iaith Conwy wedi cychwyn y syniad."

Dywedodd mai pwrpas y cynllun i brynu'r siop yn y tymor hir ydy "sicrhau bod yna ddarpariaeth o siop lyfrau Cymraeg yn Sir Conwy, a fyddan ni'n gallu cynnig gwahanol weithgareddau er mwyn i'r gymuned elwa a bod yn rhan o'r fenter efo ni".

Llun o Nia Clwyd Owen, Cadeirydd Bys a Bawd PawbFfynhonnell y llun, Nia Clwyd
Disgrifiad o’r llun,

Nia Clwyd Owen yw Cadeirydd Bys a Bawd Pawb, sydd wedi llwyddo i brynu'r siop

Y cam nesaf fydd "cau'r siop am ychydig o fisoedd er mwyn adnewyddu'r siop", meddai.

"Mi fydd yn edrych yn wahanol.

"Yn ogystal â siop llyfrau, mi fydd yn hwb cymunedol lle fyddan ni'n gallu cynnig gwahanol weithgareddau er mwyn i'r gymuned elwa a bod yn rhan o'r fenter efo ni.

"Rydyn ni'n gwybod bod y siop yn bwysig iawn i'r gymuned, ac fe wnawn ein gorau glas i leihau unrhyw anghyfleustra."

Y gobaith yw y bydd siop pop-up yn agor dros dro gyda'r Fenter Iaith er mwyn gallu cynnal y gwasanaeth yn Llanrwst.

Mewn datganiad ychwanegodd pwyllgor Bys a Bawd Pawb:

"Hoffem ddiolch yn fawr i Dwynwen Berry am ei blynyddoedd o wasanaeth yn y siop. Rydyn ni'n dymuno pob hapusrwydd iddi yn ei hymddeoliad.

"Ein nod oedd prynu siop lyfrau Bys a Pawb yn Llanrwst a'i redeg fel busnes cymunedol a fydd yn darparu buddion cymdeithasol a diwylliannol i dref Llanrwst, ac yn gwarchod yr iaith Gymraeg i Ddyffryn Conwy i gyd."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Straeon perthnasol