Jane Dodds yn ymddiheuro i'r sector digartref am fethu pleidlais

Jane DoddsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Jane Dodds wedi methu 50% o'r pleidleisiau yn ystod y ddwy flynedd lawn ddiwethaf yn y Senedd a 63% yn 2026

  • Cyhoeddwyd

Methodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig bleidlais ar fil digartrefedd yn y Senedd fis diwethaf, oedd yn golygu na wnaeth y gwelliannau - yr oedd hi'n eu cefnogi - lwyddo i basio.

Dywedodd ar BBC Politics Wales: "Mae'n ddrwg gen i am fethu hynny, doeddwn i ddim yn gwybod bod gwelliannau hollbwysig."

Methodd Laura Anne Jones, AS Reform, y bleidlais hefyd a pe bai un wedi bod yn bresennol ac wedi pleidleisio yn erbyn y llywodraeth, yna byddai wedi pasio.

Roedd y gwelliannau i'r bil yn ceisio rhoi mwy o bwyslais ar awdurdodau lleol i amddiffyn dioddefwyr camdriniaeth, i ddarparu cyngor annibynnol ac i weithio mewn ffordd fwy ataliol.

Jane Dodds ydy'r unig aelod Democrataidd Rhyddfrydol yn y Senedd a dywedodd iddi "ddweud yn glir iawn wrth y sefydliadau a dynnodd sylw at hyn a denu sylw'r cyfryngau, y dylwn i fod wedi bod yno a dwi'n ymddiheuro am hynny".

Dywedodd yr elusen ddigartrefedd Cymorth Cymru ei bod hi'n "hynod siomedig a rhwystredig bod cynifer o welliannau wedi gorffen mewn pleidlais gyfartal ac wedi methu â phasio yn y pen draw, oherwydd nad oedd rhai ASau yn y Senedd i roi eu pleidlais.

"Mae tair blynedd a hanner o waith wedi mynd i mewn i ddatblygu'r ddeddfwriaeth hon, gan gynnwys ymgysylltu gyda dros 300 o bobl sydd â phrofiad personol o ddigartrefedd, oedd eisiau gweld eu profiadau'n cael eu hadlewyrchu yn y bil."

'Dwi'n aelod unigol'

Mae Jane Dodds wedi methu 50% o'r pleidleisiau yn ystod y ddwy flynedd lawn ddiwethaf yn y Senedd a 63% yn 2026.

Mae hi wedi bod yn absennol am 39% o bleidleisiau ar gyfartaled dros y pum mlynedd diwethaf.

Mewn ymateb, dywedodd ei bod yn "aelod unigol, dwi'n rhywun sydd heb neb o'm cwmpas a dwi'n arweinydd plaid hefyd".

"Pan fo blaenoriaethau llwyr, dwi wedi bod yno ar gyfer y ddeddfwriaeth sydd wedi'i phasio."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.