Dyn wedi marw yn dilyn tân mewn eiddo yn Y Rhyl

Ffordd Bryn CwninFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaeth tân eu galw am 10:47 fore Sul i dân mewn eiddo domestig ar Ffordd Bryn Cwnin

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn wedi marw yn dilyn tân mewn eiddo yn Y Rhyl dros y penwythnos.

Cafodd y gwasanaeth tân eu galw am 10:47 fore Sul i dân mewn eiddo domestig ar Ffordd Bryn Cwnin yn y dref.

Dywedodd Gwasanaeth Tan ac Achub Gogledd Cymru bod corff dyn wedi cael ei ganfod yn yr eiddo.

Nid yw wedi cael ei adnabod yn ffurfiol eto, meddai'r gwasanaeth.

Mae ymchwiliad i achos y tân yn cael ei gynnal ar y cyd rhwng y gwasanaeth tân a Heddlu'r Gogledd.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig