Byw â diabetes dros gyfnod yr ŵyl yn gallu bod yn 'heriol'

I Rhys, mae adeg yma'r flwyddyn yn gofyn am fwy o gynllunio a gofal
- Cyhoeddwyd
I lawer, mae'r Nadolig a'r flwyddyn newydd yn gyfnod i fwyta, yfed a dathlu gyda theulu a ffrindiau.
Ond i bobl sy'n byw gyda diabetes math un, gall yr ŵyl ddod â heriau ychwanegol.
Yn ôl Diabetes UK, mae dros 12 miliwn o bobl yn y Deyrnas Unedig bellach yn byw gyda diabetes.
Mae'r elusen wedi lansio ymgyrch, Strike Out Stigma, sy'n annog pawb i herio'r camddealltwriaeth ynghylch diabetes.
Mewn arolwg, roedd dros hanner y bobl a gafodd eu holi'n credu mai'r rheswm bod gan bobl diabetes math un yw nad ydyn nhw wedi gofalu'n iawn am eu hunain.
'Annheg' bod cynllun atal diabetes ddim ar gael i bawb
- Cyhoeddwyd10 Mehefin 2025
Pancreas artiffisial i'w gynnig i fenywod beichiog â diabetes
- Cyhoeddwyd3 Mai 2025
'Tsunami' diabetes gydag un o bob pump wedi cael diagnosis
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2025
Mae Rhys Hughes, 23 oed o Lanfair Pwllgwyngyll, Ynys Môn, wedi byw gyda diabetes math un ers iddo fod yn 10 oed.
Dywedodd bod ei fywyd yn "cael ei reoli gan Glefyd y Siwgr bob dydd", ond erbyn hyn mae wedi dysgu sut i fwynhau ei fywyd fel unrhyw un arall.
"Ti wastad yn gorfod checio lefelau gwaed chdi" meddai.
"Os tisho mynd allan i ddreifio, ti'n gorfod checio dy lefelau gwaed oherwydd ti'm yn cael dreifio os mae o rhy uchal neu isal.
"Mae o'n gallu dy wneud di'n hwyr i bethau. Mae o yn chainio chdi i lawr bach."
Ychwanegodd: "Mae o fwy o frwydr pan ti'n ifanc yn bendant. Pan ti'n mynd allan hefo dy ffrindiau a mynd i'r siop a phrynu pethau ac ati.
"Ti'n surrounded wedyn gan bo' nhw'n mynd a phrynu bar o siocled, diod ac ati, a ti yna'n gorfod mynd trwy bob dim i weld os gai brynu fo. A rhan amla' yn gorfod rhoi petha'n ôl ar ôl darllen cefn yr eitemau.
"Mae plant yn trio dod i dermau hefo diabetes a dalld pam tydi nhw ddim yn cael bwyta fel pawb arall. Ond mae'r stigma dal yn bodoli yn bendant" meddai.
Yng Nghymru, mae 226,575 o bobl wedi'u cofrestru gyda diabetes - a dim ond 10% o'r rheini sydd â math un.
'Lot ddim yn deall'
Mewn arolwg gan Diabetes UK, roedd dros hanner y bobl a gafodd eu holi'n credu nad oedd pobl â diabetes math un wedi gofalu'n iawn am eu hunain.
Mae 74% o'r rheini sydd â diabetes yn dweud bod pobl yn gwneud rhagdybiaethau annheg am yr hyn na allen nhw ei wneud oherwydd diabetes.
Mae hyn wedi profi'n wir i Rhys ar sawl achlysur meddai.
"Swn i bendant yn dweud mae pawb sydd hefo clefyd y siwgr wedi cael rhywun yn dod atyn nhw wrth iddyn nhw fwyta yn dweud, 'wyt ti yn cael hwnna?' neu 'ti ddim i fod i fwyta hwnna'.
"Ond y peth yw, ti'n cael os ti'n cymryd yr inswlin yn addas. Tydi lot o bobl ddim yn deall sut mae diabetes yn gweithio."
'Addysg gynnar yn allweddol'
Mae Emma Davies, Dietegydd Arweiniol Clinigol ar gyfer atal diabetes ar gyfer Bwrdd Iechyd Hywel Dda, yn credu bod addysg gynnar yn allweddol ar gyfer newid y ffordd y mae pobl yn meddwl.
"Dyw bywyd nhw ddim yn gorfod bod yn fwy anodd na un neb arall" meddai.
"Mae'n hollbwysig eu bod nhw ddim yn teimlo fel eu bod yn mynd i gael eu gadael allan.
"Drwy fod yn drefnus ac ymwybodol, mae pawb yn gallu cymryd rhan yn nathliadau'r Nadolig a'r flwyddyn newydd."
Yn ôl Emma Davies mae diabetes math un yn fwy cymhleth ac does dim gymaint o wybodaeth amdano.
Ond mae'n pwysleisio bod modd ei reoli yn ystod cyfnodau prysur.
"Mae eisiau gwybod o flaen llaw beth yn union sydd yn mynd i fod ar y bwrdd, addasu'r inswlin yn ôl y bwyd, a chadw llygaid ar y lefelau siwgr yn y gwaed.
"Adeg yma mae lot mwy o fwyd a diod felly mae yn anoddach" meddai.
'Stigma yn dal i fod yn broblem'
Nod ymgyrch Strike Out Stigma gan Diabetes UK yw annog pawb i herio rhagdybiaethau negyddol ynghylch diabetes a gwella'r dealltwriaeth ohono.
Dywedodd Prif Weithredwr yr elusen, Colette Marshall, fod stigma yn dal i fod yn broblem.
"Mae pobl yn cael eu gwneud i deimlo mai eu bai nhw yw e os bod ganddyn nhw Clefyd y Siwgr. Mae hynny'n gwbl anghywir, dylai neb deimlo cywilydd.
"Rydym yn galw ar bawb, ffrindiau a theuluoedd, ysgolion, cyflogwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol i symud heibio'r camwybodaeth a'r barn sy'n ymwneud â Chlefyd y Siwgr. Gyda'n gilydd, gallwn greu cymdeithas sy'n arwain gyda dealltwriaeth."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.