Cyhuddo dyn 18 oed o dreisio wedi digwyddiad mewn clwb nos

Mae'r honiad yn ymwneud â digwyddiad yng nghlwb nos Sands yn Saundersfoot
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 18 oed wedi cael ei gyhuddo o dreisio yn dilyn digwyddiad mewn clwb nos yn Sir Benfro.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod yr honiad yn ymwneud â digwyddiad yng nghlwb nos Sands yn Saundersfoot yn oriau mân bore Sul, 14 Rhagfyr.
Cafodd Joshua Probert ei arestio ar amheuaeth o dreisio, ac fe gadarnhaodd yr heddlu ddydd Mercher ei fod bellach wedi cael ei gyhuddo.
Mae disgwyl iddo ymddangos yn y llys yn Abertawe ddydd Iau.