Rhai'n ystyried symud eu cychod ar ôl difrod 'anghredadwy' i gamlas

Canal Llangollen
Disgrifiad o’r llun,

Mae sawl perchennog cychod ar gamlas yn Sir Ddinbych methu symud eu cychod

  • Cyhoeddwyd

Mae perchnogion cychod ar gamlas yn Sir Ddinbych yn ystyried llogi craeniau i symud eu cychod i rannau eraill o'r gamlas, ar ôl difrod ar lannau'r gamlas yn Sir Amwythig cyn y Nadolig.

Parhau mae'r ymchwiliad i achos y rhwyg yn rhan o gamlas Llangollen ger ardal Whitchurch ar 22 Rhagfyr pan wnaeth tri bad cul fynd yn sownd.

Fe wnaeth rhai cychod fynd yn sownd mewn ffos fwdlyd enfawr ac eraill yn sownd ar ochr Gymreig y bwlch.

Ni wnaeth unrhyw un gael eu brifo yn y digwyddiad.

Yn ôl Glandŵr Cymru [Canal & River Trust] bydd angen peiriannau trwm i drwsio y rhan o'r gamlas sydd wedi dymchwel.

Gallai'r gwaith atgyweirio hynny gymryd misoedd i'w hadfer, medden nhw.

Winsh
Disgrifiad o’r llun,

Bydd rheolwr Marina Whitchurch yn helpu i winsio cychod allan o'r gamlas mewn ychydig o wythnosau

Fe wnaeth Josh Taylor ffilmio'r difrod i'r gamlas gyda drôn ar gyfer ei sianel ar y cyfryngau cymdeithasol.

"Anghredadwy" oedd ei ddisgrifiad o'r dinistr.

"Roedd dau gwch yno, dŵr yn llifo i lawr ac roeddwn i'n dechrau poeni fod hyn am fod cymaint yn waeth pe bai rhywun yn brifo neu'n marw - heb sôn am golli cartrefi."

Canal
Disgrifiad o’r llun,

Gallai'r gwaith atgyweirio ar y gamlas cymryd misoedd

Mae Daniel Weir, 42, o Brestatyn, a'i wraig Danielle, 40, wedi bod yn byw ar gwch ar y gamlas ers chwe mis.

Mae Daniel yn gweithio ym maes technoleg gwybodaeth, ac roedd y cwpl yn bwriadu byw a gweithio ar eu cwch yn llawn amser.

Ond erbyn hyn ni allant deithio y tu hwnt i Whitchurch nes bod y gamlas wedi'i thrwsio ac maen nhw'n meddwl y bydd hynny'n cymryd o leiaf naw mis

"Daethom i Langollen yn wreiddiol ar gyfer y Nadolig ac yna ein cynllun ym mis Chwefror oedd gadael yr ardal er mwyn teithio i'r de ar gyfer y gwanwyn a'r haf, ond yn amlwg ni'n sownd yma nawr," meddai Daniel.

Un opsiwn posib i'r cwpl yw rhentu craen er mwyn symud y cwch, ond mae'n gostus.

"Mae'n debyg byddai'n costio rhwng £1500 a £2000 i symud y cwch i ardal newydd.

"Dim ond unwaith o'r blaen i ni wedi bod i'r ardal yma felly ar hyn o bryd ni'n ceisio gwneud y gorau o'r sefyllfa a mwynhau ble ydyn ni, ond gyda sôn bydd y gwaith atgyweirio ar y gamlas yn cymryd blwyddyn byddai'n rhwystredig os ydyn ni dal yma Nadolig nesaf.

"Mae'n bosib byddwn ni'n talu i symud os yw hynny'n digwydd."

Llun menyw gwallt melyn sy'n gwisgo cot goch yn sefyll o flaen cwch ar gamlas
Disgrifiad o’r llun,

Mae Annemarie wedi gorfod treulio'i gwyliau cyfan yn ardal Llangollen ar ôl y difrod i'r gamlas

Roedd Annemarie Corrin, sy'n dod o Ynys Manaw, ar ei gwyliau ar gwch yn ardal Llangollen pan aeth hi'n sownd yna hefyd oherwydd y difrod i'r gamlas.

"Mae wedi tarfu ar ein holl gynlluniau," meddai Annemarie.

"Dim ond wythnos oedden ni fod treulio yma dros y Nadolig ac yna symud ymlaen i Gaer. Ni wedi gallu aros yn y marina hyfryd hwn ger Llangollen a dod i 'nabod yr ardal yn dda iawn sydd wedi bod yn hwyl, ond mae wedi troi'r gwyliau cyfan wyneb i waered."

Ychwanegodd: Bydd rhaid i'r cwmni gwyliau sy'n berchen ar y cwch ni wedi rhentu dalu i gael e allan o'r gamlas a nôl i ble maen nhw wedi'i leoli, felly dwi'n teimlo drostyn nhw."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig