Carcharu dyn ddefnyddiodd ddynion bregus fel 'caethweision rhyw' i wneud elw

Cafodd Dafydd Evans ei garcharu ddydd Llun
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Gaerdydd wnaeth ddefnyddio dynion bregus fel "caethweision rhyw" er mwyn gwneud elw wedi cael ei garcharu.
Cafwyd Dafydd Evans, o'r Ais yng Nghaerdydd, yn euog o reoli puteindra er mwyn elwa, bod â lluniau anweddus o blant a bod ag eiddo anghyfreithlon - arian - yn ei feddiant.
Dywedodd Heddlu De Cymru ei fod wedi defnyddio ei fflat yng nghanol y brifddinas i reoli puteindra gan ddynion ifanc, a wnaeth hyd at £40,000 iddo.
Dydd Llun cafodd ei garcharu am dair blynedd a naw mis.
'Ffantasïau afiach, llygredig'
Dywedodd yr heddlu bod Evans wedi dod i'w sylw ar ôl i ddyn o Dwrci gysylltu gyda thîm caethwasiaeth fodern y llu.
Roedd Evans wedi dod i gyswllt gyda'r dyn ar-lein ar wefan i deithwyr yn chwilio am lety.
Fe ddaeth y dyn yn amheus ar ôl sgwrsio gydag Evans - a ddywedodd bod ganddo fusnes tylino yn y ddinas.
Wrth chwilio ei gartref, daeth yr heddlu o hyd i wely tylino yn yr ystafell fyw, nwyddau ar gyfer rhyw a dillad isaf bechgyn.
Fe wnaeth yr heddlu hefyd ganfod lluniau o gam-drin plant ar ffonau gafodd eu canfod, a darganfod bod Evans yn cynnig i bobl gael rhyw gyda dynion ifanc oedd yn gweithio iddo.
Clywodd achos llys bod y lluniau anweddus o blant yn rhai categori A ac C.
Roedd hefyd yn cynnig teithio dramor i gwrdd â chleientiaid.
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Robyn Allen bod Evans yn bedoffeil wnaeth "fanteisio ar bobl fregus a'u defnyddio nhw fel caethweision rhyw er mwyn gwneud elw i'w hun ac i gyflawni ei ffantasïau afiach, llygredig ei hun".
Ychwanegodd ei fod wedi "gwneud miloedd o bunnau o redeg ei fenter frwnt o'r fflat foethus yng Nghaerdydd".
Dywedodd bod gwybodaeth wedi ei rannu gyda phartneriaid dros y byd fel bod unrhyw un oedd yn rhan o weithredoedd Evans yn cael eu dal.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.