Arestio bachgen 13 oed a chloi Ysgol Gymunedol Porth

- Cyhoeddwyd
Mae bachgen 13 oed o Bontypridd wedi cael ei arestio ar amheuaeth o wneud bygythiadau i ladd.
Dywedodd Heddlu De Cymru mewn datganiad ddydd Gwener fod Ysgol Gymunedol Porth wedi'i chloi fel "mesur rhagofalus".
Does dim adroddiadau bod unrhyw un wedi eu hanafu ac fe ychwanegodd yr heddlu fod y bachgen yn parhau yn y ddalfa.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.