Tân wnaeth ddinistrio ysgubor ar Ynys Môn 'yn un bwriadol'

Y tânFfynhonnell y llun, Janet Thomas
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i'r ysgubor yn Llannerch-y-medd nos Wener

  • Cyhoeddwyd

Cafodd tân a wnaeth ddinistrio ysgubor ar Ynys Môn ei gynnau yn fwriadol, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn credu.

Dywedodd y gwasanaeth iddyn nhw gael eu galw i adeilad amaethyddol yn Llannerch-y-medd am 20:00 ddydd Gwener, 6 Mawrth.

Roedd chwe chriw o ddiffoddwyr yno pan fu'r tân ar ei anterth.

Ychwanegon nhw fod yr ysgubor a'i chynnwys wedi cael eu dinistrio'n llwyr gan y fflamau, a'u bod yn credu i'r tân gael ei gynnau yn fwriadol.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.