Gwobr 'Chwaraewr y Flwyddyn' arall i Halfpenny
- Cyhoeddwyd

Leigh Halfpenny oedd 'chwaraewr y gyfres' ar daith y Llewod i Awstralia dros yr haf a nawr mae wedi ennill teitl 'Chwaraewr y Flwyddyn' Clwb Awduron Rygbi'r Undeb 2013.
Mae cefnwr Cymru, Leigh Halfpenny, wedi ennill gwobr 'Chwaraewr y Flwyddyn' Clwb Awduron Rygbi'r Undeb 2013.
Leigh Halfpenny oedd 'chwaraewr y gyfres' ar daith y Llewod i Awstralia dros yr haf a nawr mae wedi ennill y wobr yma.
Mae'r wobr yn un o lawer yng nghasgliad Halfpenny.
Fe gasglodd y chwaraewr 25 oed dlws Pat Marshall mewn cinio yn Llundain nos Lun.
Mae cyn enillwyr y tlws yn cynnwys Martin Johnson, Jonny Wilkinson, Sam Warburton, Jonah Lomu a Lawrence Dallaglio.
Dywedodd cadeirydd clwb yr awduron, Adam Hathaway:
"Roedd Leigh yn enillydd amlwg ein pleidlais ac yn dderbynydd teilwng o'r wobr, nid yn unig am ei berfformiadau dros y Llewod ond hefyd ei ymddangosiadau yn y Chwe Gwlad yn gynharach yn y flwyddyn."
Gwobrau di-ri
Roedd Leigh Halfpenny ar restr fer 'Chwaraewr y Flwyddyn' y Bwrdd Rygbi Rhyngwladol ac fe gafodd ei enwi'n 'Chwaraewr y Bencampwriaeth' ar ôl helpu Cymru gipio teitl y Chwe Gwlad ym mis Mawrth.
Mae hefyd wedi ennill 'Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn' BBC Cymru a daeth yn ail i bencampwr Wimbledon, Andy Murray, yng ngwobr 'Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn' y BBC.
Fe sgoriodd Halfpenny 49 o bwyntiau yn ystod tair gêm brawf y Llewod, gan dorri record Neil Jenkins am y nifer fwyaf o bwyntiau mewn cyfres, gan gynnwys 21 yn y trydydd prawf 41 -16 yn Sydney.
Fe roddwyd gwobr arbennig am gyfraniad oes i hyfforddwr Cymru a'r Llewod, Warren Gatland.
Mae o'n ymuno â'r cyn-enillwyr, Syr Clive Woodward, Cliff Morgan, Jim Telfer a Syr Ian McGeechan
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Rhagfyr 2013

- Cyhoeddwyd26 Tachwedd 2013

- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2013
