
27 Hydref 2010
Bu cynnydd cyffredinol yn y nifer o bobl gyda heintiau rhywiol dros y degawd diwethaf, a phobl ifanc sy'n tueddu i gael eu heffeithio fwyaf gan hyn, yn enwedig os nad ydynt yn ymarfer rhyw ddiogel 1.
Mae hyd yn oed haint rhywiol ddifrifol o'r enw syffilis, oedd gynt wedi diflannu, wedi ail ymddangos mewn rhai llefydd 2.
Er fod y ffigyrau'n waeth i'r ifanc, gall unrhyw un sy'n cael rhyw ddal clefyd rhywiol os nad ydynt yn ymarfer rhyw diogel, ac mae rhai o'r clefydau mwyaf cyffredin yn gallu cael effaith am oes.
Mae yna ymchwil erbyn hyn yn dangos hefyd fod llawer o bobl dros 45 oed yn cymryd gymaint o risg â phobl ifanc, gyda chynnydd felly yn niferoedd o bobl hŷn sy'n dal clefydau o'r fath 3.
Er bod sôn am glefydau fel HIV/AIDS ers yr Wythdegau, haint difrifol iawn sy'n dal i ladd bobl dros y byd, mae clefydau eraill fel gonorrhoea, chlamydia a dafadennau ('warts') yn hefyd yn gallu cael effaith mawr ar fywydau pobl. Chlamydia yw'r haint fwyaf cyffredin yn y Deyrnas Unedig, a gall arwain at anffrwythlondeb os nad yw'n cael ei drin.
Mae'r cynnydd yn yr haint yma yn rhannol oherwydd ei fod ar brydiau yn anodd ei ganfod - nid oes gan 70% o ferched a 50% o ddynion sydd wedi dal yr haint unrhyw symptomau amlwg 4. Bu dros 120,000 o achosion newydd yn 2008 5, felly mae'n broblem iechyd rhywiol ddifrifol erbyn hyn, er fod y driniaeth i wella'r cyflwr yn un weddol hawdd, sef cwrs antibiotig fel arfer.
Yn ôl arbenigwyr, un o'r problemau yw fod pobl yn dal yn anghyfforddus yn sôn am iechyd rhywiol i gymharu ag iechyd cyffredinol. Nid yw'r negeseuon clir am gael rhyw diogel, ddaeth ar ôl i HIV/AIDS ddod i'r amlwg, bellach mor gryf ymysg pobl ifanc, er, oherwydd problem chlamydia, mae mwy yn cael ei wario ar gyfleu'r neges honno.
Mae'r mudiadau isod yn gallu cynnig cyngor os ydych chi angen gwybod mwy am ryw diogel neu os ydych yn ofni eich bod wedi cael haint rhywiol. Er mai eich doctor yw'r person cyntaf i'w weld, mae'n bosib hefyd mynd yn syth at eich Meddygfa Genhedlol Droethol - clinig 'GUM' - a gallwch gael hyd i'ch un lleol yn syth o rai o'r gwefannau neu linellau isod.
Ffeithiau sydyn
- Mae 'na gynnydd yn y niferoedd o bob oedran sydd yn dal rhai mathau o haint rhywiol dros y blynyddoedd diwethaf.
- Mae chlamydia yn broblem fawr ymysg pobl ifanc, yn effeithio ar un o bob 12 merch o dan 20 oed.
Cysylltiadau
Llinell Wybodaeth Iechyd Rhywiol
Gwybodaeth a chyngor am atal cenhedlu, dulliau atal cenhedlu brys, condomau, heintiau rhywiol a phrofion beichiogrwydd. Mae manylion eich gwasanaeth iechyd rhywiol lleol ar gael hefyd.
0800 567 123
www.condomessentialwear.co.uk
Family Planning Association
Cyngor am atal cenhedlu, heintiau rhywiol a sut i gynllunio am fabi, ond hefyd beth i'w wneud os ydych yn beichiogi'n annisgwyl. Gwybodaeth drylwyr ar gael drwy'r wefan a'r llinell gymorth, gan gynnwys lleoliad eich clinig GUM lleol.
0845 122 8690
www.fpa.org.uk
RUThinking
Os ydych o dan 18 oed, mae'r wefan yma'n cynnig gwybodaeth a chyngor am ryw a iechyd rhywiol. Gallwch eu ffonio yn rhad ac am ddim.
0800 28 29 30
www.ruthinking.co.uk
Galw IECHYD Cymru
Mae Galw IECHYD Cymru yn llinell cymorth sy'n darparu gwybodaeth ar iechyd a gwasanaethau iechyd ar hyd a lled Cymru, yn cynnwys y clinigau iechyd rhywiol agosaf. Mae'r llinell wedi ei staffio gan nyrsys profiadol, 24 awr y diwrnod.
0845 4647
www.nhsdirect.wales.nhs.uk
Patient.co.uk
Ffynhonnell o wybodaeth feddygol safonol am unrhyw fater sy'n ymwneud ag iechyd, ac sy'n cael ei ddefnyddio a'i ddatblygu gan ddoctoriaid a nyrsys.
www.patient.co.uk
1 Ffynhonnell: http://www.hpa.org.uk/web/
HPAweb&HPAwebStandard/HPAweb_C/1203348026613
2 Ffynhonnell: http://www.eurosurveillance.org/ViewArticle.aspx?ArticleId=497
3 Ffynhonnell: http://www.rpsgb.org/pdfs/pr090402.pdf
4 Ffynhonnell: http://www.patient.co.uk/health/Chlamydia-in-Women.htm
5 Ffynhonnell: http://www.avert.org/stdstatisticuk.htm
Mwy
Iechyd rhywiol
Gwybodaeth am yr heintiau rhywiol sydd ar gynnydd yng Nghymru a'r camau i'w cymryd i arfer rhyw diogel. This is a page in Welsh about sexually transmitted diseases that are on the increase in Wales and how to practice safe sex. Click on Vocab for help with Welsh.


