Canser

Celloedd y corff

27 Hydref 2010

Problem gyda chelloedd y corff yw canser. Mae'r corff wedi ei adeiladu o wahanol fathau o gelloedd, rhannau pwysig o'n horganau, gwaed, esgyrn, croen a'n cyhyrau. Mae'r celloedd yma'n cael eu creu, yn byw ac yn marw trwy'r adeg.

Canser yw pan mae rhywbeth o'i le gyda'r DNA sy'n rheoli'r celloedd, ac yn achosi iddynt dyfu allan o reolaeth. Wrth dyfu fel hyn, maent yn creu tiwmor, sy'n gallu bod yn anfalaen ('benign') neu'n niweidiol. Os yn niweidiol, gall dyfu'n gyflym a lledaenu o gwmpas y corff, gan effeithio ar yr organau a thyfu mewn llefydd eraill 1. Mae rhai mathau o ganser yn fwy ymosodol ar y corff nag eraill.

Gall canser ddigwydd i unrhyw un, ond mae rhai ffactorau yn gwneud i ni fod yn fwy tebygol o ddatblygu rhai mathau o ganser.

Mae'r ffactorau sy'n gyffredin i ddatblygiad sawl canser yn cynnwys ein hoedran, bod mewn cysylltiad gyda rhai cemegau sy'n cael eu hystyried yn garsinogenig (achosi canser), ein ffordd o fyw, ein himiwnedd a'n hetifeddiaeth enynnol. Yr hynaf ydych chi, y mwy tebygol ydych chi o ddatblygu canser, ond gall eich ffordd o fyw cael effaith mawr hefyd, gan gynnwys beth rydych yn ei fwyta, os ydych yn yfed gormod o alcohol, neu os ydych yn ysmygu yn enwedig. Mae peidio ysmygu yn torri'r risg o gael sawl math o ganser.

Mae tua 21 gwahanol fath o ganser cyffredin, sy'n achosi tua 90% o ganserau. Ar ôl clefyd y galon, hwn yw un o'r prif broblemau iechyd yng Nghymru, gyda thros 8,000 o bobl yn marw bob blwyddyn 2 o wahanol fathau o ganser.

Amcangyfrifir fod un o bob tri dyn a dau o bob saith dynes yn cael diagnosis o ganser cyn cyrraedd 75 oed.

Y canserau mwyaf cyffredin yng Nghymru yw canser y fron, y brostad, ysgyfaint a'r coluddyn, ac mae'r rhain yn cyfrif am tua hanner yr holl ganserau. Mae'r gyfradd gyffredinol o achosion o ganser yn uwch yng Nghymru nag yn Lloegr, ond yn is nag yn yr Alban, er bod amrywiaeth yn hyn yn ôl y math o ganser 3.

Bydd canser yn effeithio ar bron i bawb ar ryw bwynt yn eu bywydau, unai'n uniongyrchol neu trwy deulu neu ffrindiau.

Er bod hyn yn ffaith drist o ystyried pa mor ddifrifol yw'r cyflwr, rhaid cofio fod y driniaeth a'n dealltwriaeth o bob math o ganser yn well nag erioed, yn enwedig os yw'r canser yn cael ei ddarganfod yn fuan. Mae'r ffigyrau yng Nghymru yn dangos fod siawns rhywun o guro canser yn gwella o flwyddyn i flwyddyn 4.

Ffeithiau sydyn

  • Y canserau mwyaf cyffredin yng Nghymru yw canser y fron, y brostad, yr ysgyfaint a'r coluddion.
  • Er bod elfen o lwc enynnol gyda rhai mathau o ganser, mae eich ffordd o fyw yn gallu cael effaith mawr ar eich siawns o ddatblygu'r cyflwr, yn enwedig os ydych yn ysmygu.
  • Mae gwella eich deiet a gwneud mwy o ymarfer corff yn gallu helpu i atal canser.

Cysylltiadau

Tenovus

Gwasanaeth ffôn ddwyieithog, sy'n cynnig cyngor i'r sawl sy'n byw gyda chanser, eu teuluoedd a'u gofalwyr. Maent yn cynnig gwybodaeth ar sut i osgoi canser, pa brofion sydd i'w disgwyl, triniaeth, gofal a gwasanaethau cefnogi lleol.
0808 808 10 10
www.tenovus.org.uk

Macmillan

Cyngor ymarferol trwy'r wefan neu'r llinell gymorth, yn ogystal â'r miloedd o nyrsys hyfforddedig arbenigol ar draws y Deyrnas Unedig. Ceir gwybodaeth glir iawn am bob math o ganser ar y wefan.
0808 808 2020
www.macmillan.org.uk

CancerHelp

Gwasanaeth gwybodaeth gynhwysfawr i'r sawl sy'n byw gyda chanser, yn rhan o Cancer Research UK.
www.cancerhelp.org.uk

Rhwydwaith Ymchwil Canser Cymru

Gwybodaeth am dreialon triniaethau canser ac astudiaethau eraill gan gynghorau ymchwil, grwpiau ymchwil academaidd ac elusennau canser yng Nghymru.
www.wales.nhs.uk/sites3/home.cfm?orgid=464

Galw IECHYD Cymru

Mae Galw IECHYD Cymru yn llinell gymorth sy'n darparu gwybodaeth am iechyd a gwasanaethau iechyd ar hyd a lled Cymru. Mae'r llinell wedi ei staffio gan nyrsys profiadol, 24 awr y diwrnod.
0845 4647
www.nhsdirect.wales.nhs.uk

Patient.co.uk

Ffynhonnell o wybodaeth feddygol safonol am unrhyw fater i wneud ag iechyd, un sy'n cael ei defnyddio a'i datblygu gan ddoctoriaid a nyrsys.
www.patient.co.uk

1 Ffynhonnell:http://www.patient.co.uk/health/Cancer-A-General-Overview.htm
2 Ffynhonnell: http://wales.gov.uk/dhss/publications/health/strategies/
designedcancer/designedcancerw.pdf?lang=cym

3 Ffynhonnell: http://www.statistics.gov.uk/statbase/Product.asp?vlnk=14059
4 Ffynhonnell: http://www.wales.nhs.uk/sites3/page.cfm?orgid=242&pid=18138


Canser

Gwybodaeth am y mathau mwyaf cyffredin o ganser a rhestr o'r sefydliadau sy'n gallu rhoi cyngor am y gwahanol driniaethau sydd ar gael. This is a page in Welsh about the most common types of cancer and the institutions that can give you advice on the different treatments available. Click on Vocab for help with the Welsh.

Crefydd

Croes

Straeon

Erthyglau am wahanol agweddau o fywyd crefyddol Cymru.

Cipolwg ar Gymru

Lluniau

Teulu

Straeon doniol, difyr a thrist gan bobl fel chi ar y thema 'Teulu'.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.