
22 Ebrill 2010
Ar gyfartaledd, mae yna fwy o bobl dros 60 oed yn byw yng Nghymru nag yng ngweddill gwledydd y Deyrnas Unedig, ac mae canran uchel o'r rhai dros 65 oed yn byw ar eu pen eu hunain.
Heb amheuaeth, gall heneiddio ddod â chymhlethdodau iechyd i ni gyd. Wrth i'r corff gael ei niweidio'n naturiol dros y blynyddoedd, mae'n bur debygol bod dirywiad mewn iechyd o ryw fath o flaen pawb.
Hefyd, wrth i bobl fyw yn hirach, mae'r anghenion gofal yn newid, er fod rhai yn aros yn annibynnol yn bell i mewn i henaint tra mae eraill yn gorfod derbyn help llaw gan y teulu neu mewn cartref.
Wedi dweud hyn i gyd, mwynheir iechyd gwell gan fwy o bobl hŷn nag erioed, yn rhannol oherwydd bod sustemau iechyd a gofal safonol ar gael erbyn hyn, ond hefyd wrth i bobl ddewis edrych ar ôl eu hunain drwy fwyta'n iach a chadw'n heini.
Daw rhai o'r prif broblemau i bobl hŷn yng Nghymru oherwydd cyflyrau cyffredin megis clefyd y galon, strôc, canser, clefyd Alzheimer a chymhlethdodau gydag organau fel yr arennau. Mae'r esgyrn yn fwy bregus wrth i ni heneiddio, gyda mwy o glefydau'n effeithio ar y cymalau, sy'n ei gwneud hi'n anoddach i ni symud.
Ffactor cryf arall y tu cefn i iechyd pawb yw ein hetifeddiaeth enynnol unigol, gall achosi pob math o'r afiechydon uchod ond mae yn ffordd dda o ddarogan pa mor hir mae rhywun yn byw. Os gwnaeth mam a dad neu daid a nain fyw yn hir, mae 'na siawns dda y byddwn ninnau hefyd.
Ar yr un pryd, mae beth rydym ni'n ei fwyta a'i yfed, faint o ymarfer corff yr ydym yn ei wneud, faint o straen dyddiol yr ydym yn ei ddioddef neu os ydym yn ysmygu neu beidio i gyd yn cael effaith ar ein iechyd hirdymor. Yn naturiol felly, mae'n fwy tebygol mai'r bobl hŷn o'n cwmpas yw'r rhai sydd wedi dilyn diet synhwyrol, yfed yn gymedrol a pheidio ysmygu.
Ffeithiau sydyn
- Ar gyfartaledd yng Nghymru, mae dynion yn byw i fod yn 77 oed tra mae merched yn byw i fod yn 81oed.
- Mae tua chwarter poblogaeth Cymru dros 60 mlwydd oed.
- Mae 1 o bob 3 person dros 65 oed, a thua hanner y rhai dros 85 oed, yn byw ar eu pen eu hunain 1
Cysylltiadau
Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru
Yn hollol unigryw i Gymru mae'r Comisiynydd Pobl Hŷn yn llais annibynnol yn y llywodraeth sy'n edrych ar ôl buddiannau pobl hŷn.
08442 640 670
www.olderpeoplewales.comAge UK
Gall Age UK roi cyngor a chymorth ar ystod o bynciau sy'n effeithio ar fywydau pobl hŷn.
0800 169 6565
www.ageuk.org.uk/Age Cymru
029 2043 1555
www.ageuk.org.uk/cymru/Cyswllt â'r Henoed
Gyda thros 30 grŵp a 200 o wirfoddolwyr ar draws Cymru, mae'r elusen yma'n ceisio sicrhau fod pobl hŷn dros 75 oed yn cael cyswllt rheolaidd gydag eraill.
0800 716 543
www.contact-the-elderly.org.ukCroesffyrdd Cymru
Gwasanaeth sy'n gofalu am y gofalwyr gan gynnig cymorth ymarferol a seibiant i ofalwyr ar draws Cymru, gyda phresenoldeb drwy gynlluniau lleol ar draws y wlad.
0845 450 0350
wwww.crossroads.org.uk1 Ffynhonnell: Ffocws Ystadegol ar Bobl Hŷn yng Nghymru 2008
Mwy
Heneiddio
Golwg ar ein poblogaeth hŷn ac ar rai o'r problemau iechyd sy'n gallu datblygu wrth inni heneiddio. This is a page in Welsh about our ageing population and some of the health problems that can develop as we get older. Click on Vocab for help with Welsh.


