
27 Hydref 2010
Mae diabetes (diabetes mellitus) - y clefyd melys neu glefyd y siwgr - yn gyflwr hirdymor cronig a chyffredin iawn sy'n cael ei achosi gan ormod o glwcos (siwgr) yn y gwaed, gan na all y corff ei ddefnyddio'n iawn.
Fel arfer, caiff lefel siwgr yn y gwaed ei reoli gan hormon o'r enw inswlin, sy'n cael ei gynhyrchu gan y pancreas, ac mae inswlin yn angenrheidiol i fywyd. Gyda diabetes, nid yw'r corff yn gallu torri'r glwcos i lawr i greu egni.
Y rheswm am hyn yw naill ai prinder inswlin i symud y glwcos, neu am nad yw'r inswlin sydd yno yn gweithio'n iawn.
Ceir dau fath o ddiabetes. Diabetes Math 1 yw pan na all y corff gynhyrchu inswlin o gwbl. Mae'n ymddangos fel arfer mewn pobl dan 40 oed. O'r ddau brif fath o ddiabetes, Math 1 yw'r lleiaf cyffredin, gan effeithio ar tua 15% o bobl sydd â diabetes 1. Does neb yn deall yn iawn beth yw'r union achos dros y math yma, er y credir ei fod yn gyflwr awtoimiwn yn y rhan fwyaf o achosion: mae system imiwnedd y corff yn camgymryd sylwedd naturiol yn y corff fel rhywbeth niweidiol, ac mae'n ymosod arno.
Mae'r math yma yn dueddol o redeg mewn teuluoedd, felly gall fod achos genetig dros yr adwaith awtoimiwn hefyd. Os oes perthynas agos, fel rhiant, neu frawd neu chwaer, gyda diabetes Math 1, mae tua 6% o siawns y byddwch yn datblygu'r cyflwr eich hun 2. Y risg i bobl nad oes ganddynt berthynas agos â diabetes Math 1 yw tua 0.4%.
O'r ddau brif fath o ddiabetes, Math 2 yw'r mwyaf cyffredin, gan effeithio ar tua 85% o bobl â diabetes. Gyda'r math yma, mae'r corff yn dal i allu cynhyrchu ychydig o inswlin, ond dim digon, neu nid yw'r inswlin mae'r corff yn ei wneud yn gweithio'n iawn. Gall hyn ddeillio o fod dros bwysau.
Ymddengys y math yma fel arfer mewn pobl dros 40 oed, ond mewn pobl o dras Asiaidd neu Affricanaidd-Caribïaidd mae i'w gael yn aml mor gynnar â 25 mlwydd oed. Yn ddiweddar hefyd, mae'r cyflwr wedi'i ganfod yn amlach mewn plant, a rhai o'r rheini mor ifanc â 7 oed.
Eto fyth, does neb yn deall yn iawn beth yw union achos diabetes Math 2. Er hyn, mae llawer o ffactorau sy'n gwneud datblygu'r cyflwr yn fwy tebygol, gan gynnwys bod yn ordrwm, pan mae'r celloedd yn eich corff yn llai tebyg o ymateb i effeithiau inswlin. Mae ffactor risg genetig hefyd ac rydych yn fwy tebygol o ddatblygu'r cyflwr os oes gennych berthynas agos fel rhiant neu frawd neu chwaer sydd â diabetes Math 2.
Prif symptomau diabetes yw teimlo'n sychedig iawn, cynhyrchu gormod o wrin (mynd i'r tŷ bach yn aml), blinder eithriadol, a cholli pwysau a nychdod y cyhyrau (colli trymder y cyhyrau).
Does dim modd gwella diabetes yn llwyr, ond nod triniaeth yw cadw lefelau glwcos eich gwaed mor normal â phosibl, a rheoli eich symptomau er mwyn atal problemau iechyd rhag datblygu yn ddiweddarach yn eich bywyd.
Yn ogystal â chael triniaeth feddygol, mae nifer o ffyrdd y gallwch drin y cyflwr eich hun, gan gynnwys gwneud ymarfer corff yn rheolaidd, a bwyta diet iach.
Ffeithiau sydyn
- Mae tua 146,000 o bobl Cymru'n gwybod bod diabetes arnyn nhw 3, neu bron i bump ymhob cant o'r boblogaeth - mae'n debyg bod degau o filoedd o bobl eraill yn byw gyda'r cyflwr heb ei wybod.
- Mae diabetes ar gynnydd yng Nghymru a thrwy'r byd.
- Mae 80% o bobl sy'n datblygu diabetes math 2 yn ordrwm neu'n ordew ac yn tueddu i beidio â gwneud digon o ymarfer corff.
- Heb ei drin a'i reoli'n iawn, gall diabetes arwain at glefyd y galon, strôc, dallineb, clefyd yr arennau, a doluriau'r traed yn arwain at golli rhan o'r goes 4.
Cysylltiadau
Diabetes UK Cymru
Yr elusen diabetes fwyaf ym Mhrydain. Mae gwybodaeth ymarferol a defnyddiol am y cyflwr ar eu gwefan gan gynnwys manylion grwpiau cefnogol lleol ar draws Cymru. Ceir llinell ffôn ar gyfer pobl sydd â diabetes yn ogystal â'u ffrindiau, teulu a'u gofalwyr.
0845 120 2960
Galw Iechyd Cymru
Gwasanaeth cyngor a gwybodaeth iechyd sydd ar gael 24 awr y dydd. Ffoniwch os ydych yn teimlo'n anhwylus ac yn ansicr beth ddylech wneud, neu i gael gwybodaeth iechyd ar amrywiaeth eang o gyflyrau, triniaeth a gwasanaethau iechyd lleol. Gwefan ddefnyddiol hefyd.
0845 46 47
http://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/encyclopaedia/d/article/diabetes,math2?locale=cy
Patient UK
Gwybodaeth iechyd safonol ar y we gan ddoctoriaid a nyrsys.
1 Ffynhonnell: http://www.diabetes.org.uk/Guide-to-diabetes/Introduction-to-diabetes/What_is_diabetes
2 Ffynhonnell: http://www.patient.co.uk/health/Diabetes-Type-1.htm
3 Ffynhonnell: http://www.diabetes.org.uk/In_Your_Area/Cymru/Diabetes-yng-Nghymru
4 Ffynhonnell: http://www.nhsdirect.wales.nhs.uk/encyclopaedia/d/article/diabetes
Mwy
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Diabetes
Gwybodaeth am diabetes (y clefyd melys) a rhai o'r ffactorau sy'n gallu achosi dau fath gwahanol o'r cyflwr, Math 1 a Math 2. Information about diabetes and the factors that can cause both types of the disease, Type 1 and Type 2. Click on Vocab for help with Welsh.


