Clefyd y galon

Doctor yn mesur pwysau gwaed claf.

10 Awst 2010

Clefyd coronaidd y galon yw un o'r problemau iechyd mwyaf yng Nghymru. Mae'n lladd o leiaf 6,000 o bobl y flwyddyn 1, os nad mwy yn ôl rhai. Mae rhywun yn marw o drawiad ar y galon bob chwe munud ym Mhrydain.

Mae'r clefyd yma'n datblygu wrth i'r prif rydwelïau coronaidd gulhau. Rhain sy'n cyflenwi gwaed i'r galon, ac felly'n cyflenwi ocsigen: gan mai cyhyr yw'r galon, mae angen ocsigen i weithio'n iawn. Os nad yw'r galon yn cael ocsigen, gall cyflwr o'r enw angina ddatblygu, gan achosi poen yn y frest, arwydd clir o glefyd y galon. Os yw'r rhydwelïau'n culhau yn gyfan-gwbl, oherwydd clot gwaed er enghraifft, gall achosi trawiad ar y galon 2.

Ond pam mae hyn yn digwydd? Fel arfer, mae'r rhydwelïau'n culhau wrth i fraster gronni ynddynt, gan atal llif y gwaed a chreu cyflwr o'r enw atherosglerosis. Mae sawl ffactor yn gallu cyfrannu at y broses yma, ond mae hefyd yn gyfuniad o lwc a ffordd o fyw, fel gyda sawl cyflwr iechyd arall.

Daw'r lwc, neu anlwc, o'ch etifeddiaeth enetig: os oes perthynas agos wedi cael trawiad ar y galon cyn 55 mlwydd oed, mae'n syniad da i gadw golwg agosach ar iechyd eich calon. Ond eich ffordd o fyw - beth rydych yn ei fwyta, faint o ymarfer corff a faint o straen sy'n cael ei roi ar y galon yn ddyddiol trwy ysmygu neu yfed - yw'r ffactor bwysig arall.

Yn amlwg, mae rhai o'r dewisiadau yma o fewn ein rheolaeth, ond mae'r ffeithiau hefyd yn dangos yn glir fod cysylltiad rhwng clefyd y galon a ffactorau amgylcheddol fel tlodi, addysg a dosbarth cymdeithasol. Mae'r ardaloedd ble mae clefyd y galon ar ei waethaf ymysg y cymunedau mwyaf tlawd yng Nghymru 3. Mae anghyfartaledd iechyd yn ffaith yn ein cymunedau: os ydych chi'n cael eich geni mewn tlodi mae eich disgwyliad oes yn mynd i fod yn llai nag os ydych yn cael eich geni mewn ardal gyfoethog. Mae'r effaith ar ystadegau clefyd y galon yr un peth, gyda mwy yn cael eu heffeithio mewn ardaloedd difreintiedig.

Ond mae 'na bethau syml fedrwch chi ei wneud i edrych ar ôl iechyd eich calon, yn ôl meddygon. Mae cadw golwg ar eich diet yn syniad da i ddechrau, gan sicrhau eich bod yn bwyta mwy o lysiau a ffrwythau, a llai o fraster sy'n creu colesterol sy'n culhau'r rhydwelïau - felly llai o gig coch, menyn, llaeth llawn, caws a sglodion.

Mae pawb yn cytuno erbyn hyn fod ysmygu yn wael i'ch iechyd, felly gwell peidio. Cynghorir yfed yn gymedrol hefyd: 3-4 uned o alcohol y dydd i ddynion, 2-3 i ferched, dim mwy. Mae'n bwysig gwneud ychydig o ymarfer corff, sef hanner awr o gael allan o wynt tua phum gwaith yr wythnos os yn bosib: gall hyn fod yn feicio i'r gwaith, nofio neu chwaraeon, rhyw weithgaredd rydych yn ei fwynhau. Yn olaf, mae doctoriaid hefyd yn awgrymu ei bod hi'n syniad dysgu sut i ymlacio, gwneud rhywbeth i anghofio straen y dydd, boed hynny'n fynd am dro neu gael bath hir.

Ffeithiau sydyn

  • Er gall eich genynnau olygu eich bod yn datblygu clefyd y galon, mae effeithiau amgylcheddol a dewisiadau personol yn gallu cyfrannu at eich tebygolrwydd o'i gael neu beidio.
  • Ymysg y pethau gallwch wneud i leihau'r tebygolrwydd o'i gael yw atal rhag ysmygu, yfed alcohol yn gymedrol a bwyta'n iach gyda amrywiaeth o lysiau a ffrwythau a ddim gormod o fraster dirlawn ('saturated fats') fel sydd mewn cig coch, menyn, sglodion a caws.
  • Mae tystiolaeth bod gwneud rhyw fath o ymarfer corff i'ch cael allan o wynt am hanner awr, bum gwaith yr wythnos, a dysgu sut i ymlacio, yn helpu i osgoi clefyd y galon.

Cysylltiadau

Galw Iechyd Cymru

Gwybodaeth fanwl a chlir am y cyflwr, y symptomau, diagnosis a thriniaeth.
0845 46 47
www.nhsdirect.wales.nhs.uk/encyclopaedia/c/article/coronaryheartdisease?locale=cy

British Heart Foundation Cymru

Elusen sy'n canolbwyntio ar sut i leihau'r achosion o glefyd y galon yng Nghymru, trwy gyfuniad o ymgyrchoedd iechyd, lobïo am wasanaethau a datblygu ymchwil perthnasol.
0300 330 3311
www.bhf.org.uk

Dim Smygu Cymru

Yr un peth gallwch chi ei wneud i wella iechyd y galon, a'ch iechyd yn gyffredinol, yw stopio ysmygu. Mae help ar gael o'r wefan a'r llinell gymorth yma.
0800 085 2219
www.stopsmokingwales.com

Patient.co.uk

Ffynhonnell o wybodaeth feddygol safonol am unrhyw fater i wneud ag iechyd, un sy'n cael ei ddefnyddio a'i ddatblygu gan ddoctoriaid a nyrsys.
www.patient.co.uk

1 Ffynhonnell: http://www.wales.nhs.uk/sites3/page.cfm?orgId=719&pid=23515
2 Ffynhonnell: http://www.2minutes.org.uk/movie1.htm
3 Ffynhonnell: http://www2.nphs.wales.nhs.uk:8080/hiatdocs.nsf/61c1e
930f9121fd080256f2a004937ed/ccc94afbeb418b99802572740031dc2e/$FILE/
20060926_HealthStatusandKeyDeterminantsHNA2006_V2a_compressed.doc


Clefyd y galon

Beth yw'r ffactorau sy'n achosi clefyd y galon a beth allwch chi ei wneud i wneud eich gorau i osgoi problemau gyda'ch calon. This is a page in Welsh about the causes of coronary disease and how you can reduce your chances of developing heart problems. Click on Vocab for help with the Welsh.

Crefydd

Croes

Straeon

Erthyglau am wahanol agweddau o fywyd crefyddol Cymru.

Cipolwg ar Gymru

Lluniau

Teulu

Straeon doniol, difyr a thrist gan bobl fel chi ar y thema 'Teulu'.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.