
10 Awst 2010
Mae pobl wedi defnyddio sylweddau fel meddyginiaeth neu i newid y ffordd mae'r corff neu'r meddwl yn gweithio ers miloedd o flynyddoedd, ond gall bod yn ddibynol ar unrhyw sylwedd olygu trafferthion iechyd, cymdeithasol neu gyda'r gyfraith.
Dengys yr astudiaethau hirdymor blynyddol 1 fod tua 37% o'r boblogaeth wedi arbrofi gyda chyffur anghyfreithlon ar ryw bwynt yn eu bywydau. Er mai alcohol yw un o'r prif gyffuriau sy'n cael ei gam-ddefnyddio yn ein cymdeithas, mae pryder mawr am gyffuriau eraill a'r niwed maent yn ei wneud 2.
Mae rhai arbenigwyr yn dadlau y dylai trafodaeth am natur niwed o'r fath gynnwys cyffuriau cyfreithlon gymaint â rhai angyfreithlon. Gall cam-ddefnydd tawelyddion fel Valium, er enghraifft, greu yr un lefel o ddibyniaeth a niwed â llawer o'r cyffuriau sydd ym mhenawdau'r papurau newydd. Yn aml, daw'r penawdau dadleuol yn sgil sefyllfa wleidyddol, nid y ffeithiau.
Ers y saithdegau cynnar, mae'r gyfraith yn rhannu cyffuriau anghyfreithlon i mewn i grwpiau A, B ac C. Mae cocên, heroin ac ecstasi yng ngrŵp A, rhai sy'n atynnu'r cosbau mwyaf llym am feddiant neu ddelio, tra mae grŵp B yn cynnwys canabis, ac mewn rhai amgylchiadau, amffetaminau a thawelyddion. Daw steroidau anabolig a chyffuriau fel ketamine yn grŵp C.
Dadl sawl arbenigwr yw na yw'r sustem yma'n adlewyrchu gwir niwed cyffuriau, a bod y dystiolaeth dros rhoi cyffur fel ecstasi yn grŵp A, er enghraifft, yn wan, pan mae'r cyffuriau eraill yn yr un grŵp yn gwneud llawer mwy o ddifrod 3.
Ar y funud, o'r cyffuriau anghyfreithlon, canabis yw'r un sydd yn cael ei ddefnyddio fwyaf, ac mae hyn wedi bod yn wir ers rhai blynyddoedd, er bod defnydd o'r cyffur wedi lleihau yn ddiweddar 4. Dros y deg mlynedd diwethaf, mae cynnydd mawr wedi bod yn nefnydd cyffur fel cocên, yn enwedig gyda phobl yn cymeryd y cyffur yma tra'n yfed yn drwm 5.
Mae'r cwestiwn o ddibyniaeth ar rai o'r sylweddau yma yn un gymhleth. Yn feddygol, dibyniaeth yw chwant am rywbeth heb y gallu i'w reoli, er bod yna ganlyniadau niweidiol clir yn gorfforol a chymdeithasol i'r unigolyn. Yn sicr, gyda chyffuriau fel heroin, mae 'na ddibyniaeth gorfforol a seicolegol cryf yn gallu datblygu ar ôl ei ddefnyddio'n weddol reoliadd am ychydig o wythnosau 6.
Mae defnyddiwr sy'n ddibynnol yn gorfod cymryd mwy er mwyn cael yr un teimladau pleserus, neu hyd yn oed i osgoi teimlo'n wael. Ar wahân i heroin, mae llawer o'r cyffuriau eraill yn fwy tueddol o greu dibyniaeth seicolegol. Er bod newidiadau i'r ymennydd wrth ddefnyddio cyffur fel cocên dros amser, rhai sydd hefyd yn creu rhai effeithiau corfforol, does dim y ddibyniaeth gorfforol gryf yn yr un ffordd.
Gall rhywbeth sy'n dechrau fel pleser achlysurol neu ffordd o leddfu poen ddatblygu i fod yn arferiad rheolaidd, cyn troi i fod yn ddibyniaeth niweidiol yn y pendraw. Mae hyn mor wir i ysmygu sigarét ag i gymryd heroin. Mae rhai pobl yn fwy tueddol o gael problemau gyda chyffuriau am resymau seicolegol a chymdeithasol, a hyd yn oed genetig, ond y gwir yw bod potensial i unrhyw un o unrhyw oedran neu ddosbarth cymdeithasol gael problem o'r fath.
Os ydych chi neu rywun agos yn poeni am ddefnydd o sylweddau, mae'n well cael y wybodaeth orau am y risgiau sy'n bodoli er mwyn lleihau'r niwed, ac weithiau mae angen help i wneud hyn. Mae'r dolenni yma yn rhoi'r wybodaeth fwyaf cyfredol a manylion ble i fynd os oes angen cymorth bellach arnoch chi.
Ffeithiau sydyn
- Mae mwy nag un allan o bob tri pherson wedi arbrofi gyda cyffur anghyfreithlon ar ryw bwynt yn eu bywydau
- Dibyniaeth yw pan mae chwant mawr am sylwedd, heb y gallu i'w reoli, er bod yna ganlyniadau niweidiol clir yn gorfforol a chymdeithasol
- Os ydych chi'n credu eich bod yn defnyddio unrhyw sylwedd yn rheolaidd neu'n aml er mwyn gallu teimlo'n iawn, bod hynny'n alcohol, tawelyddion, cyffur arall neu gyfuniad o gyffuriau, efallai byddai'n werth cael gair gyda'ch doctor neu asiantaeth arbenigol lleol.
Cysylltiadau
Dan 24/7
Cyngor dwyieithog, yn gyfrinachol am ddim, i unrhyw un yng Nghymru sydd am gael mwy o wybodaeth ynglŷn â chyffuriau ac alcohol. Gwybodaeth am asiantaethau sy'n lleol i chi.
0800 633 5588
www.dan247.org.uk
Talk to Frank
Cyngor clir am unrhyw gyffur, trwy e-bost neu trwy ffonio'r llinell gymorth. Manylion lle i gael help yn lleol.
0800 77 66 00
www.talktofrank.com
1 Ffynhonnell: http://uk.sitestat.com/homeoffice/rds/s?rds.hosb1209pdf&ns_type=pdf&ns_url=%5bhttp://www.homeoffice.gov.uk/rds/pdfs09/hosb1209.pdf%5d
2 Ffynhonnell: http://www.crimeandjustice.org.uk/estimatingdrugharms.html
3 Ffynhonnell: http://www.crimeandjustice.org.uk/opus1714/
Estimating_drug_harms.pdf
4 Ffynhonnell: http://uk.sitestat.com/homeoffice/rds/s?rds.hosb1209pdf&ns_type=pdf&ns_url=%5bhttp://www.homeoffice.gov.uk/rds/pdfs09/hosb1209.pdf%5d
5 Ffynhonnell: http://www.drinkingwithcharlie.co.uk
6 Ffynhonnell: http://www.talktofrank.com
Mwy
Cysylltiadau Rhyngrwyd
Dibyniaeth ar gyffuriau
Golwg ar yr agweddau cyfreithiol a meddygol o gymryd cyffuriau a beth i'w wneud os ydych chi'n poeni am eich defnydd o sylweddau, neu am rywun agos ichi. This is a page in Welsh about the legal and medical implications of taking drugs and what to do if you're worried about your use of substances, or someone close to you. Click on Vocab for help with Welsh.


