Dibyniaeth - Alcohol

Rhiwyn yn cymeryd potel o win o focs.

Mae yfed alcohol yn rhan o fywyd llawer o oedolion yng Nghymru, wrth i ni fod yn gymdeithasol, dathlu gyda ffrindiau a pherthnasau, neu fel rhywbeth i'w fwynhau gyda phryd o fwyd. Ond mae 'na ochor dywyll i hyn: mae'r ymchwil diweddaraf 1 yn dangos fod tua mil o bobl y flwyddyn yng Nghymru yn marw yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol oherwydd faint o alcohol maent yn ei yfed.

I bobl hŷn, mae peth ymchwil yn dangos y gall yfed cymhedrol fod yn fuddiol ac yn help gyda chlefyd y galon a strôc 2. Ond beth yw cymhedrol?

Yn ôl y cyngor swyddogol, golyga hyn ddim mwy na 3-4 uned o alcohol y dydd i ddynion, a 2-3 uned i ferched. Yn fras, mae peint o gwrw neu seidr arferol (4% alcohol) ychydig dros ddwy uned, tra mae gwydriad o win maint arferol (175ml, 12-13%) tua'r un peth.

Yn nhermau iechyd, mae'r arbenigwyr yn cynghori yfed ddim mwy na hyn yn ddyddiol. Mae rhwng tua 22-50 uned yr wythnos i ddynion neu 15-35 i ferched yn cael ei ystyried yn beryglus, tra mae unrhyw beth dros hynny'n niweidiol. Goryfed achlysurol ('binge') yw unrhyw beth dros chwe uned mewn diwrnod i ferched, neu wyth i ddynion.

Ond mae rhai pobl yn yfed yn aml, yn drwm ac yn methu stopio. Yn ôl arbenigwyr, daw'r ffin rhwng yfed trwm a dibyniaeth, sef alcoholiaeth, i lawr i faint o reolaeth sydd gan yr unigolyn dros ei yfed, a faint o effaith mae hyn yn ei gael ar bob agwedd o fywyd, gan gynnwys iechyd, bywyd proffesiynol a pherthynas gydag eraill. Os yw unigolyn yn cario mlaen i yfed, er fod hynny'n cael effaith glir ar ei fywyd o neu hi, gall hyn cael ei ddiffinio fel alcoholiaeth.

Ceir ymchwil sy'n dangos fod yna elfen enetig mewn canran uchel o bobl sy'n mynd yn ddibynnol ar gyffuriau fel alcohol, er bod yr elfennau seico-gymdeithasol lawn mor bwysig.

Mae canllawiau clir sy'n diffinio dibyniaeth yn feddygol e.e. os oes rhaid yfed yn y bore er mwyn gallu wynebu'r diwrnod. Mae 'na brofion sydyn ar gael i ddarogan os yw'r lefel yfed yn niweidiol - mae'n bosib gwneud y rhain ar-lein, ac mae'r cysylltiadau yma i chi. Ond os ydych chi'n poeni am eich yfed chi eich hunain neu bobl eraill, mae na sawl lle i gael cefnogaeth erbyn hyn, gan gychwyn gyda'ch doctor.

Yn anffodus, alcohol yw un o'r ychydig gyffuriau sydd yn gallu lladd wrth i bobl geisio dianc y ddibyniaeth, felly mae'n rhaid i rywun sydd â phroblem gael help proffesiynol i ddadwenwyno'r corff. Mae hyn ar wahân i'r peryglon o wenwyno wrth oryfed mewn un sesiwn, neu'r damweiniau, difrod a thrais sydd yn aml yn digwydd oherwydd problem alcohol.

Mae faint sy'n cael ei yfed yng Nghymru ymysg rhai grwpiau cymdeithasol dipyn yn uwch na'r hyn sy'n cael ei ystyried yn iach. Mae patrymau yfed ymysg rhai o'n pobl ifanc ymysg rhai o'r gwaethaf yn ôl astudiaethau byd eang 3: mae yna fwy o bobl ifanc 13 mlwydd oed yn yfed o leiaf unwaith yr wythnos yng Nghymru na sydd yn Lloegr a'r Alban. O astudiaeth oedd yn cymharu 40 gwlad, roedd bechgyn Cymru yn bedwerydd yn ôl y mesur yma, tra mae'r merched yn drydydd ar restr oedd yn cymharu'r gwledydd. Gellir ystyried yfed yn gynnar mewn bywyd fel mesur o broblemau yn nes ymlaen.

Ffeithiau sydyn

  • Er fod llawer o oedolion yng Nghymru yn mwynhau yfed yn gymhedrol, mae yna ganran o'r boblogaeth ble mae'r lefel yfed yn niweidiol, weithiau'n farwol 4.
  • Mae'r ganran yna wedi cynyddu dros y blynyddoedd, ac mae 'na fwy o broblemau ymysg yr ifanc yng Nghymru yn ôl astudiaethau rhyngwladol safonol.
  • Mae yna dipyn o gefnogaeth ar gael i'r sawl sy'n poeni am eu hyfed, ond y peth cyntaf i'w wneud yw cydnabod eich bod yn yfed gormod a mynd i weld eich doctor am gyngor - gall o neu hi eich cyfeirio at help arbenigol lleol, os oes angen 5.

Cysylltiadau

DAN 24/7

Cyngor cyfrinachol am ddim ynglŷn â chyffuriau ac alcohol. Gwasanaeth dwyieithog.
0800 633 5588
www.dan247.org.uk

Know your limits

Safle'r sustem iechyd sy'n edrych ar yfed yn ddiogel.
units.nhs.uk

Drinkline

Cyngor cyfrinachol am ddim i'r sawl sy'n poeni am eu hyfed nhw'u hunain neu rywun arall.
0800 917 8282

Alcohol Concern

Gwybodaeth safonol am agweddau gwahanol o alcoholiaeth, a chysylltiadau i ffynonellau help eraill hefyd.
www.alcoholconcern.org.uk

Al-Anon

Cefnogaeth i deuluoedd neu ffrindiau pobl sydd â phroblem alcohol, os ydynt yn dal i yfed neu ddim. Mae grwpiau a chyfarfodydd ar draws Cymru, gyda manylion am rhain ar y wefan. Mae ganddynt wasanaeth wedi ei anelu at bobl yn eu harddegau, Alateen.
www.al-anonuk.org.uk

Profion

Mae sawl prawf cydnabyddedig i helpu i gael diagnosis o yfed yr unigolyn, gan gynnwys AUDIT, y Paddington Alcohol Test a'r CAGE. Mae rhai o'r rhain ar gael ar lein, ac yn werth eu cysidro os ydych chi'n poeni am eich yfed:
Down your drink: www.downyourdrink.org.uk

1 Ffynhonnell: http://www.wales.nhs.uk/sites3/docopen.cfm?orgid=568&id=117868
2 Ffynhonnell: http://www.patient.co.uk/health/Alcohol-and-Sensible-Drinking.htm
3 Ffynhonnell: http://www.euro.who.int/InformationSources/Publications/Catalogue/20080616_1
4 Ffynhonnell: http://wales.gov.uk/docs/phhs/publications/091208cmoannualreport08en.pdf
5 Ffynhonnell: http://www.wales.nhs.uk/sites3/Documents/568/Alcohol%20and%20Health%20in%20Wales%5FWebFinal%5FE.pdf


Dibyniaeth ar alcohol

Cyngor ynglŷn â beth i'w wneud os ydych chi'n credu eich bod chi neu rywun arall yn gor-yfed neu'n ddibynnol ar alcohol. This is a page in Welsh giving advice on what to do if you think you or someone else is drinking too much or might be dependant on alcohol. Click on Vocab for help with Welsh.

Crefydd

Croes

Straeon

Erthyglau am wahanol agweddau o fywyd crefyddol Cymru.

Cipolwg ar Gymru

Lluniau

Teulu

Straeon doniol, difyr a thrist gan bobl fel chi ar y thema 'Teulu'.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.