Canser y fron

Merch yn archwilio ei bron

09 Awst 2010

Canser y fron yw'r canser mwyaf cyffredin sy'n effeithio ar ferched yng Nghymru, gyda tua 2,500 yn cael y clefyd bob blwyddyn. Er hyn, mae'r nifer sy'n marw o'r math yma o ganser wedi gostwng yn sylweddol dros y pymtheg mlynedd diwethaf 1.

Nid yw darganfod lwmp ar y fron yn arwydd o ganser bob tro. Mae tua naw allan o bob deg lwmp fel arfer yn rhywbeth arall: gall fod yn cyst, fibroadenoma neu'n rhywbeth o'r enw fibroadenosis, er enghraifft.

Mae'r fron yn rhan weddol gymleth o'r corff. Y peth cyntaf i'w wneud os ydych chi'n bryderus yw mynd at eich doctor i wneud yn siwr, yn enwedig os ydych yn dod ar draws y symptomau yma:

  • Lwmp anarferol, neu deimlo darn wedi tewhau yn y fron.
  • Newid mewn maint neu siâp un neu'r ddwy fron.
  • Chwydd neu lwmp yn y cesail.
  • Brech o gwmpas, neu ar, y deth.
  • Llif o hylif o'ch teth, efallai gyda ychydig o waed.
  • Y deth wedi suddo rhywfaint.
  • Unrhyw boen sy'n dod yn y fron neu'r gesail tu allan i'r cyfnod o fislif.

Mae'n bwysig mynd i'r arfer o archwilio eich hun yn rheolaidd.

Mae canser y fron hefyd yn rhywbeth sy'n tueddu i effeithio ar ferched hŷn - ond ddim bob tro. I ferched o dan 50 sy'n pryderu oherwydd hanes teuluol o ganser, y peth gorau i'w wneud yw cael gair gyda'ch meddyg unwaith eto, i weld os oes angen prawf genetig arnoch chi.

Ar hyn o bryd, mae arbenigwyr yn credu mai'r ffactorau eraill sy'n gallu cynyddu'r risg yw yfed gormod yn rheolaidd, dechrau'r mislif yn gynnar yn eich bywyd neu gael plant yn weddol hwyr: mae'r lefelau o estrogen yn y corff dros eich bywyd yn cael effaith. Mae na dystiolaeth hefyd bod bod dros eich pwysau neu gael Therapi Amnewid Hormonau (HRT) yn gallu cynyddu'r risg o ddatblygu'r cyflwr.

Os yw'n cael ei ddarganfod yn ddigon buan, mae'r siawns o wella yn uchel 2.

I ferched dros 50, mae Bron Brawf Cymru yn cynnig sgrinio drwy famograffi bob tair blynedd. Mae dros 150,000 o ferched yn cael eu sgrinio bob blwyddyn, gydag o leiaf treuan o'r rhai gyda chanser y fron yn cael eu pigo i fyny o'r broses sgrinio. Os ydych wedi'ch cofrestru gyda meddyg teulu cewch fanylion am hyn yn awtomatig. Mae mwy o fanylion am hyn yn y dolenni.

Ffeithiau sydyn

  • Mae'r math yma o ganser yn fwy tueddol o effeithio ar ferched dros 50 oed, ond mae ffactorau fel bod dros bwysau ac yfed gormod o alcohol yn cynyddu'r risg hefyd.
  • Er mai hwn yw un o'r canserau mwyaf cyffredin i ferched, os yw'n cael ei ddal yn gynnar, mae siawns uchel o wella.
  • Tydi bob lwmp ar y fron ddim yn ganser - mae tua 90% ohonynt oherwydd cyflwr arall fel arfer.

Cysylltiadau

Bron Brawf Cymru

Mae Bron Brawf Cymru yn cynnig sgrinio drwy famograffi bob tair blynedd i ferched dros 50 mlwydd oed yng Nghymru. Os ydych o dan 50 ac yn pryderu oherwydd hanes teuluol, y peth gorau i'w wneud yw cael gair gyda'ch meddyg.
www.screeningservices.org.uk

Breast Cancer Care

Help i'r sawl sydd yn byw gyda'r math yma o ganser. Llinell gymorth genedlaethol am ddim sy'n cynnig cyngor i bwy bynnag sydd ei angen, gan gynnwys y teulu.
0808 800 6000
www.breastcancercare.org.uk

Breakthrough Breast Cancer

Gwybodaeth safonol am ganser y fron, ewch i wefan Breakthrough Breast Cancer.
breakthrough.org.uk

Breastcancer.org

Gwefan sy'n rhoi gwybodaeth safonol am y math yma o ganser.
www.breastcancer.org

Tenovus

Cynigir gwasanaeth dwyieithog dros y ffôn a chwnsela i'r sawl sy'n byw gyda chanser, eu teuluoedd a'u gofalwyr.
0808 808 10 10
www.tenovus.org.uk

Galw Iechyd Cymru

Gwybodaeth fanwl a chlir am y cyflwr, y symptomau, diagnosis a thriniaeth.
0845 46 47
www.nhsdirect.wales.nhs.uk

Patient.co.uk

Ffynhonnell o wybodaeth feddygol safonol am unrhyw fater i wneud ag iechyd; un sy'n cael ei ddefnyddio a'i ddatblygu gan ddoctoriaid a nyrsys.
www.patient.co.uk

1 Ffynhonnell: http://info.cancerresearchuk.org/news/archive/cancernews/2009-03-04-wales-announces-fall-in-breast-cancer-deaths
2 Ffynhonnell: http://www.cancerscreening.nhs.uk/news/005.html


Canser y fron

Beth yw symptomau canser y fron, pa help sydd ar gael a beth yw'r ffactorau all gynyddu eich risg o'i ddatblygu. This is page in Welsh about breast cancer, what factors may increase your risk of developing the disease and the help available. Click on Vocab for help with Welsh.

Crefydd

Croes

Straeon

Erthyglau am wahanol agweddau o fywyd crefyddol Cymru.

Cipolwg ar Gymru

Lluniau

Teulu

Straeon doniol, difyr a thrist gan bobl fel chi ar y thema 'Teulu'.

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.