Archifau Chwefror 2011

Dodd Com

Categorïau:

Criw C2Criw C2|16:07, Dydd Mawrth, 22 Chwefror 2011

Sylwadau (0)

Helo!

Catrin Herbert yma eto!

Dwi 'di bod yn cyflwyno gyda Gruff ers dros wythnos nawr a dwi ffili credu taw dim ond 2 sioe sy 'da ni ar ôl! Wythnos diwetha' ces i'r fraint a'r anrhydedd o gael (er yn answyddogol) agor yr Eisteddfod Rhyng-golegol. Cefais yr her gan Gruff i gystadlu mewn dau o'r cystadleuthau o restr yr Eisteddfod, sef y limerig a'r ddeuawd ddoniol.

Diolch o galon i fy ffrind annwyl Catrin Tomos o Fangor am gytuno i neud ffwl llwyr o'i hun gyda fi ar Dodd Com, drwy ganu ein fersiwn, ymm...unigryw ni o "Paid a Bod Ofn" gan Eden fel ein cais ni ar gyfer y Ddeuawd Ddoniol! Mae'n deg i ddweud nad oedd Gruff yn hollol siwr y bydde ni'n ennill y gystadleuaeth petawn ni wedi cystadlu'n iawn, ond ddoe daeth un o drefnwyr y Steddfod Rhyng-Gol sef Aled Thomas i sôn am lwyddiant y penwythnos ac i roi ei farn ar fy ngeisiadau i a dwi'n siwr taw jest bod yn neis oedd e, ond roedd ganddo fe pethau lot neisach i ddweud amdanyn nhw na Gruff. Ond yn anffodus, y barn cyffredinol oedd bod ein deuawd ddim cweit o'r safon orau! Caerdydd enillodd y Steddfod felly llongyfarchiadau iddyn nhw ac i bawb arall wnaeth gymeryd rhan.

Roedden ni hefyd yn lwcus iawn o gael cwmni Gerallt Rhys yn y stiwdio nos Wener dwetha'. Roedd e yma'n rhoi ei farn ar draciau'r wythnos yn 'Bin neu Sbin', dewisodd e i roi sbin i "Kids" gan Take That, er, dwi ddim yn siwr ei fod e wedi dwli gormod ar ddim un o'r traciau! Ond ewch i wylio fideo o bois Take That yn canu'r gân yn y Brits i weld os 'y chi'n cytuno gyda Gerallt.

Dwi'n edrych mlaen at y sioe heno 'ma, gan y byddwn ni'n chwarae sengl newydd sbon Creision Hud, sef "Bedd". Dyma eu trydedd sengl nhw eleni. Mae'r band o Fangor yn mynd i fod yn rhyddhau un sengl bob mis am y chwe mis nesa.

Dwi heb ei chlywed hi eto, on dos yw hi unrhyw beth fel y ddw arall sef "She Said" a "Cyllell", dylse hi fod yn hollol wych!

clawr bedd

Byddwn ni hefyd heno yn cael sgwrs gyda Mari a Mirain o Ysgol Maes yr Yrfa,

nhw fydd yn adolygu ffilm newydd Justin Bieber i ni, sef "Never Say Never". Ac wrth gwrs bydda' i unwaith eto'n gweini hoff bryd pawb o'r dwrnod, y Tatws Poeth!

Hwyl am y tro!

Catrin

Cerddoriaeth i gyd-fynd hefo cyfres Unnos

Categorïau:

Criw C2Criw C2|04:29, Dydd Mercher, 16 Chwefror 2011

Sylwadau (0)

Mae Dyl Mei yn fy sicrhau os wnewch chi glicio ar y linc yma fe allwch chi glywed dewisiadau Dyl i gyd-fynd hefo pob un o Sesiynau Unnos y gyfres yma. Croesi bysedd y bydd yn gweithio i chi...

Nid ydy'r BBC yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol, nac, yn wir, am Dyl Mei.

Ed Holden rhoi diweddariad tra'n gwneud paned

Categorïau:

Criw C2Criw C2|02:03, Dydd Mercher, 16 Chwefror 2011

Sylwadau (0)



Diweddariad ar beth sy'n digwydd mor belled gan Ed Holden... gafodd ei ddal yn y gegin yn gwneud paned.

Fideo: Taith unigryw Huw Evans o amgylch Stiwdios Unnos (stiwdios y BBC ym Mangor)!

Categorïau:

Criw C2Criw C2|00:32, Dydd Mercher, 16 Chwefror 2011

Sylwadau (0)

Ar noson olaf yr ail-gyfres o Sesiwn Unnos ar C2, Huw Evans sydd yn eich tywys ar daith cwbl unigryw o adeilad y BBC ym Mangor. Mannau twristiaieth fel nas gwelwyd erioed o'r blaen - o'r difforddwyr tân, i'r sachau o bost gan ffans (ddim wir), i swydd arferol Gareth y cynhyrchydd, fel glanhawr toiledau...!

Unnos ola'r gyfres

Categorïau:

Criw C2Criw C2|22:43, Dydd Mawrth, 15 Chwefror 2011

Sylwadau (0)

Ymddiheuriadau am y diffyg blogs heno 'ma - mae hi wedi bod yn ddechrau anarferol o brysur i'r noson. Dyma drio rhoi ryw fath o hanes y noson hyd yma. Wel, mi wnaeth Gruff (MC Mabon) a Dave Wrench (stiwdio Bryn Derwen) gyrraedd toc wedi 6.30pm. Yr unig offer ganddyn nhw oedd laptop a cwpl o allweddellau. Bron iawn yn syth, fe wnaethon nhw benderfynnu ar drefn; mi fysa Dave, hefo cymorth Gruff, yn gosod "samples" a "loops" ar laptop Dave fel sail i ganeuon. Drwy osod, ail-osod ac ail-adrodd samplau, ma'n nhw'n medru creu synau dryms, bass a synths yn gefndir i'r caneuon.

Tua 9pm, fe gyrhaeddodd Tesni, Ceri (Pheena) ac Ed Holden (Diwygiad/Genod Droog/Pen-ta-gram) y stiwdio. Fe benderfynnwyd y bysa Tesni a Ceri yn trio sgwennu a gosod geiriau i drac cefndir Gruff a Dave, tra bo Ed yn mynd i stafell arall i weithio ar draciau cefndir i ganeuon eraill, ar ei laptop ei hun.

A dyna sut ma hi am 22.42pm

Cofion

Gar

Profiad Newydd.

Criw C2Criw C2|17:41, Dydd Mawrth, 15 Chwefror 2011

Sylwadau (0)

Helo Catrin Herbert yma!

Dwi di bod yn ffodus iawn i gael y cyfle i gyd-gyflwyno Dodd.Com am yr wythnos a hanner nesa, ac yn fwy ffodus fyth i gal cwmni Gruff Pritchard a gweddill criw C2 wrth weithio ar y raglen.

Gan bo Magi i ffwrdd am gwpwl o wythnosau, ma' Gruff wedi galw mewn y reinforcements ar ffurf fi a Steffan Dafydd. Dwi'n meddwl gath Steff a Gruff lot o hwyl wythnos dwetha' ond dwi'n siwr bydde Magi'n falch o glywed bo merch nôl yn y stiwdio hefyd yn ei habsenoldeb hi a bod y bois heb gymryd drosdo'n llwyr.

Neithiwr cefais i a Gruff 'Ddod i Adnabod' Helen Davies sy'n fyfyrwraig yn Leeds, odd hi bendant wedi codi chwant arnaf i i fynd am noson mas yn Leeds 'da nghefndryd i sy'n byw 'na, a nes i wir joio'i dewis cerddorol hi sef "Rolling in the Deep" gan Adele.



Nethon ni hefyd gael ymwelydd yn y stiwdio, da'th Rhydian o'r band Creision Hud fewn i gal sgwrs ac i hyrwyddo sengl newydd y grwp sef "Cyllell" sy'n wych rhaid gweud.

Dwi, Gruff a Siân yn gobeithio'n bod ni wedi cael maddeuant ganddo fe nawr ar ôl i ni roi sypreis iddo fe, drwy chware rhyw fath o gem Siôn a Siân 'da fe am ei gariad e Betsan gan ei bod hi'n Ddiwrnod Sant Ffolant ddoe. Dwi erioed 'di gweld unrhyw un yn cochi gyment druan, felly sori Rhydian am 'na!

Heno bydda' i a Gruff nôl yn y stiwdio, a gewch chi glywed y sgwrs 'y ni newydd gael gyda Rheon James sy'n chwaraewr rygbi o Fryniwan sydd wedi cael ei ddewis i chwarae rygbi dros Gymru yn y tim dan 20, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn mor belled ym mhencampwriaeth y chwe gwlad yn maeddu Lloegr a'r Alban!

Ac ar y thema o rygbi, byddwn ni'n dal lan gyda criw o fois o Bantycelyn a aeth i Gaeredin dros y penwythnos i wylio'r gêm rhwng Cymru a'r Alban.

Tan 7!

Hwyl

Catrin

Tatws Poeth yr Wythnos!

Categorïau:

Criw C2Criw C2|18:39, Dydd Gwener, 11 Chwefror 2011

Sylwadau (0)

Helo pawb!!

Mae hi wedi bod yn wythnos brysur iawn yng ngardd newyddion C2 gyda sawl taten boeth wedi eu darganfod! Gruff Pritchard a Steffan Dafydd fuodd yn palu'r pridd a dyma'r uchafbwyntiau:

Gruff Rhys yn rhyddhau ei albym Hotel Shampoo ac yn rhoi'r cyfle i chi wrando arni yn rhad ac yn ddim ar ei wefan. Os nath eich clustiau fwynhau y profiad yna mi allwch chi brynu copi o'r albym o'i wefan gyda'r 100 cyntaf yn cael 'fob' hotel Shark Ridden Waters.

Taten boeth arall! Oeddech chi'n gwybod fod gan rapiwr gora'r byd (mae popeth mae'n ddweud yn odli o hyd) gystadleuaeth? Gwylia dy hun Rapsgaliwn... mae Eminem yn ôl! Cyhoeddodd y rapiwr enwog ei fod e'n mynd i ddechrau teithio eto yn 2011. Mae si ei fod e'n mynd i chwarae ym Mrydain am y tro cyntaf ers 9 mlynedd.

Bu sawl taten yn ymwneud â gwyliau cerddoriaeth Cymru wythnos yma, gyda Gwyl y Dyn Gwyrdd a gwyl lenyddiaeth a cherddoriaeth Talacharn yn cyhoeddi fod eu tocynnau ar werth. Mae'r ddwy wyl yn boblogaidd iawn felly prynwch ei tocynnau nawr!

Dyna uchafbwyntiau wythnos a fu'n llawn tato poeth!

Hwyl am tro

Grandewch ar y sioe ar BBC iPlayer



Dodd Com

Categorïau:

Criw C2Criw C2|17:29, Dydd Gwener, 11 Chwefror 2011

Sylwadau (0)

Helo ddarllenwyr! Steffan (Breichiau Hir) yma.

Fi 'di cal y fraint o gael sgwennu ar flog hyfryd C2 heddiw, gan mai heno yw fy niwrnod ola' ar Dodd Com gyda Gruff. Ma' hi wedi bod yn wythnos dda! Ond dyw hi ddim ar ben eto, achos heno fyddai gyda Gruff unwaith eto am y tro ola', am awr!

Felly 'tiwniwch' fewn am 7pmar y we. (neu 12pm os ydi 7 yn rhy gynnar i chi)

Heno ar y rhaglen, fydd gennai fwy o datws poeth ar eich cyfer (sef newyddion poetha'r byd pop ar hyn o bryd), sgwrs gyda Aled o Radio 1, ac wrth gwrs tiwns hyfryd drwy gydol y sioe, a mi fyddwn ni hefyd yn chwarae sengl newydd Lady Gaga.

Diolch am wrando drwy'r wythnos a os hoffech chi glywed Gruff yn trio ymdopi hebddai, tiwniwch fewn Nos Lun nesa'.

Hwyl!

Steffan

Gwefr drydanol gan fand Gwyliwch y Gofod

Categorïau:

Robin Owain JonesRobin Owain Jones|17:03, Dydd Iau, 10 Chwefror 2011

Sylwadau (0)

Band Gwyliwch y Gofod yr wythnos yma yw Trydan - band ifanc 5 aelod o Abertawe (er fod y rhan fwyaf o'r aelodau yn wreiddiol o ardal Caerffili).

I glywed eu caneuon ewch draw i dudalen myspace Trydan.

Mi wnaethon nhw alw'r band yn 'Trydan' i adlewyrchu naws eu cerddoriaeth, ac mae eu swn ffresh, cyfoes, electroneg yn f'atgoffa o fandiau fel 'Y Promatics' neu hydnoed 'Y Violas' ar adegau.

Efallai, efallai y bydd y band i'w gweld yn perfformio ar un o brif lwyfannau Cymru yn ddiweddarach eleni - yn Maes B, Eisteddfod Wrecsam - dwi'n un sydd yn sicr yn edrych ymlaen i'w gweld.

O ystyried fod y band ond wedi ffurfio lai na blwyddyn nol, mae nhw'n swnio'n arbennig o dynn yn barod, ac fe fydd eu swn yn datblygu ymhellach wrth iddyn nhw aeddfedu fel band.

Cliciwch yma i weld manylion holl gyn-fandiau Gwyliwch y Gofod ar C2.

Unnos5 - 5.05am

Categorïau:

Criw C2Criw C2|05:04, Dydd Mercher, 9 Chwefror 2011

Sylwadau (0)

Mae hi'n 5.05am, ac mae na dal dipyn o amser cyn iddi wawrio, ond mae petha'n edrych tipyn goleuach o ran y sesiwn. Mae 3 can ac un darn offerynnol wedi eu recordio; mae un arall bron wedi ei orffen, ac mae'n berffaith bosib cawn ni chweched darn o gerddoriaeth cyn 8am. Gwyrthiol, o ystyried mai dim ond un gan oedd wedi ei recordio 3 awr yn ol

Gar

Unnos5 - y stori hyd yma!!

Categorïau:

Criw C2Criw C2|02:38, Dydd Mercher, 9 Chwefror 2011

Sylwadau (0)

Wel, mae hi'n 2.38am, a dim ond un gan sydd wedi ei recordio. Oherwydd hynny, dwi wedi awgrymu i Neil ac Idris recordio un gan acwstic, ar ol eu clywed yn ymarfer ar eu penau eu hunain, ac mae Gai a'r beirdd yn gweithio ar ganeuon rhif 3, ac os byddwn ni'n andros o lwcus, 4. Mae Neil ac Idris hefyd am drio recordio darn bach offerynnol - Neil ar y gitar ac Idris yn chwarae'r llif. Ia, y llif. Saw. Llif torri pren. Ond yn yr achos yma, llif gwneud swn spooky.

Hwyl

Gar

Unnos5: takeaway

Categorïau:

Criw C2Criw C2|02:09, Dydd Mercher, 9 Chwefror 2011

Sylwadau (0)

Da ni ar ei hol hi'n ofnadwy heno, felly take-away syml a brysiog:

Pizza 16 modfedd llysieuol

Pizza 16 modfedd sbeislyd

Pizza 16 modfedd "Gwledd O Gig"

Fideo: Gai Toms newydd orffen gitar y gan gyntaf

Categorïau:

Criw C2Criw C2|01:41, Dydd Mercher, 9 Chwefror 2011

Sylwadau (0)

Wedi sawl têc ar recordio trac gitâr y gân gyntaf, roedd hi yn y bag gan Gai. Daliodd Huw fo yn syth wedi iddo orffen ei recordio a'i holi sut mae'n mynd...!

Unnos5 - 11.35pm

Categorïau:

Criw C2Criw C2|23:31, Dydd Mawrth, 8 Chwefror 2011

Sylwadau (0)

Hyd yma, mae'r beirdd wedi sgwennu rap, mae'r cerddorion wedi trefnu'r gerddoriaeth, felly da ni ar fin recordio'r gan gyntaf. Ma na gerddoriaeth ffynci, rap eitha ymosodol, ac Idris yn gwneud synnau eitha brawychus ar y ffildil (fel cerddoriaeth Psycho, ond dim cweit mor ddrwg...)

Felly ma petha'n mynd yn weddol, ond ma gen i deimlad y bydda nhw'n lwcus iawn iawn i wneud 4 can...

Gar

C2

Fideo: Huw Evans a'r beirdd Nei Karadog ac Ifor ap Glyn

Categorïau:

Criw C2Criw C2|22:55, Dydd Mawrth, 8 Chwefror 2011

Sylwadau (0)

Huw Evans yn holi beirdd Unnos 11, Nei Karadog ac Ifor ap Glyn am y broses o ysgrifennu geiriau'r caneuon.

Fideo: Huw yn tarfu ar ymarfer y band

Categorïau:

Criw C2Criw C2|21:28, Dydd Mawrth, 8 Chwefror 2011

Sylwadau (0)



Aeth Huw mewn i'r stiwdio at Gai, Idris a gweddill y band i weld sut oedd pethau'n dod ymlaen efo'r gan gyntaf...

Unnos - Wythnos rhif 5.

Categorïau:

Huw EvansHuw Evans|20:41, Dydd Mawrth, 8 Chwefror 2011

Sylwadau (0)

Ma' diwedd y gyfres hon o fewn golwg; trist fydd gweld hi'n dod i ben ond, dwi hefyd yn edrych ymlaen at beidio gwario dydd Mercher Iau a Gwener bob wythnos yn meddwl fod y gath drws nesa yn trio ymyryd ar fy meddyliau trwy ddefnyddio hen set radio sy' di claddu

yn yr ardd.



NA PWSI, NA, DWI DDIM AM FFEINDIO GWEISION I WEITHIO YN DY OGOF TANDDAEAROL YN TYLLU AM GEMAU A CHRISIALAU PRIN I BWERU DY BEIRIANT COFFI EDIALAIDD.



Er, ma Maldwyn y gath yn gneud y soy milk macchiatos gore ochr yma'r Wirral (HAWLFRAINT B.W)



Wythnos yma ma gyno ni deciall stemiog ag ynddi casgliad o ddynion creadigol o bob lliw a llun.

Ifor Ap Glyn y prif fardd sy'n edrych fel gangstar; Aneirin Caradog y bardd sydd hefyd yn rapiwr yn gyn aelod o'r Diwigiad a'r prosiect cymynedol - Y Genod Droog; Neil Williams, basydd Maffia Mr Huws (sydd ar hyn o bryd yn cerdded rownd efo bocs pren gwallgof sy'n edrych fel Dougal o'r magic roundabout); Alexander Moller, y metronome dynol sydd hefo breichiau mor gyhyrog, nath o dorri peirianau bocsio mewn arcêd Rhyl i gyd ar ddiwrnod eu benblwydd llynnedd; Idris Morris Jones, yr actor ar cyflwynydd sydd hefyd yn chware'r pibau cwd Cymraeg (dwi'n gwbod, mae'n swnio'n afiach a chydig yn farbaraidd, pediwch a gofyn) a'r ffidil; a Gai Toms, un o gerddorion mwya' poblogaidd Cymru sy' yr un mor dda yn sgwennu tiwns hynod fachog a thlws ar ei gitar a mae o ar cit drymiau di neud allan o sbwriel, just peidiwch a'i alwo'n hipi.



Casgliad digon difyr felly, 'chydig o hip hop gwerinaidd hefo ymylon rock trwm, piano ballads bachog ag Idris Morris Jones yn lliwio'r holl beth efo'i pibau cwd.



Wythnos arferol arall yn y gwaith felly....



Latte arall plis, Maldwyn.



Huw.

Chwaraeon!

Ifan EvansIfan Evans|17:55, Dydd Mawrth, 8 Chwefror 2011

Sylwadau (0)

Wel nosweth dda i chi gyd. Pawb yn iawn a wedi dod dros y siom o weld Cymru yn colli yn y rygbi nos Wener?

Pidwch becso achos felna ma hi, a ma' pawb yn gwbod mae pel droed yw gem cenedlaethol Cymru ta beth. Pob lwc i dim bel droed Cymru heno allan yn Iwerddon gyda llaw?

Ges i benwythnos tawel ar y cyfan, yn enwedig gan bod ein gem pel droed ni wedi ei ohirio ddydd sadwrn achos y glaw trwm, felly dwi'n ffres heno ac yn barod i'ch diddanu chi rhwng 9.45 a 12. Ie dwi di cal cwarter awr fach ychwanegol heno gan bod sylwebaeth byw o'r gem ar Radio Cymru.

Fy ngwestai arbennig i heno yw cyflwynwraig newydd rhaglen Ffermio ar S4C- Meinir Jones. Edrych mla'n clywed shwt mae'n setlo fewn yn ei swydd newydd a dwi'n siwr bydd digon da ni'n gyffredin gan i bod hi'n ferch fferm. Heb anghofio am Owain Llyr wrth gwrs, fydd yn cadw cwmni i fi fel arfer ac yn edrych yn ôl ar chwaraeon y penwythnos yn ei ffordd arbennig e!

Cofiwch wrando felly am 9.45.

Dodd Com heno!

Categorïau:

Criw C2Criw C2|17:35, Dydd Mercher, 2 Chwefror 2011

Sylwadau (0)

Diolch yn fawr iawn i griw ysgol Rhydywaun, Hirwaun am y croeso heddiw. Am 7 o'r gloch heno ar raglen Dodd Com bydd cyfle i glywed eu dewisiadau cerddorol, barn y disgyblion am Justin Bieber, pwy fydd yn ennill y gem rygbi rhwng Cymru a Lloegr nos Wener a hanes sioe ysgol Rhydywaun sef Les Miserables.

Dyma ychydig o luniau o'r criw.

Mwy o luniau ar wefan C2 o fory ymlaen :

Unnos4 - Yoko Ono o Hwlffordd

Categorïau:

Huw EvansHuw Evans|04:52, Dydd Mercher, 2 Chwefror 2011

Sylwadau (0)

Iesu mawredd.



Newydd glywed can rhif 4.



ANHYGOEL.



Swnio fel Yoko Ono se hi'n dod o Hwlffordd a di priodi Meic Stevens yn lle Paul McCartney.



Neu pwy bynnag nath hi briodi...

Unnos4. er... clawr?!

Categorïau:

Huw EvansHuw Evans|04:47, Dydd Mercher, 2 Chwefror 2011

Sylwadau (0)

BLINO BLINO BLINO BLINO.



Ma nhw ar fin gneud can rhif 4 a wedyn....can acappella.



Da iawn nhw.



Dwi'm yn siwr os yw nawr yn amser da i weud wrtho nhw bo nhw angen gneud

clawr hefyd....



x

Unnos4 - 4.35am

Categorïau:

Criw C2Criw C2|04:35, Dydd Mercher, 2 Chwefror 2011

Sylwadau (0)

Erbyn hyn, mae'r criw wedi recordio a chymysgu tair can, felly gwych iawn nhw. Ma nhw'n gobeithio recordio un gan arall sy'n "disco gwyllt" ac un gan acapella.

Gawn ni weld...

x

Cerddoriaeth i gyd-fynd hefo Sesiwn Unnos

Categorïau:

Huw EvansHuw Evans|02:07, Dydd Mercher, 2 Chwefror 2011

Sylwadau (0)

Os yda chi'n mwynhau'r gerddoriaeth sy'n cael ei greu gan Eilir Pierce, Seiriol Cwyfan a Trwbador, dyma fwy o gerddoriaeth yn yr un ysbryd!

Excepter - Kill People

Band gwallgo o Brooklyn, Efrog Newydd, sy'n perfformio'n fyw hefo pump laptop, ac wedi cynhyrchu album gwych i fand o'r enw Fly Girls.

Datblygu - Can I Gymru

O bosib un o artistiaid mwyaf dylanwadol Cymru erioed. Yn debyg i'r Velvet Underground, nath o'm gwerthu lot ar y pryd, ond fe wnaeth pawb oedd yn ei glywed ffurfio grwp!

Basil Kirchin - The Stange Affair Theme

Roedd Basil yn ddrymiwr ac yn cyfansoddwr cerddoriaeth arbrofol; mae rhai yn dweud mai Basil oedd tad cerddoriaeth 'ambient'. Mae llawer o'i gerddoriaeth wedi ei ail rhyddhau gan y Label anhygoel Trunk Records.

The 5000 Fingers Of Dr.T - Ten Little FingersTrac sain o film story Dr.Zeus The 500 Fingers of Dr.T. Well na unrhywbeth wnaeth Jim Carrey.

Gorkys Zygotic Mynci - Gwallt Rhegi Pegi

Does ddim angen cyflwyniad i'r Gorkys gobeithio? Ewch mlaen a mwynhewch!

Suicide - Ghost RiderDeuawd o adeg Punk a New Wave Efrog Newydd, yn enwog am eu perfformiadau byw anodd. Cerddoriaeth di-faddeuant electro pync cynnar....

The Velvet Underground - Run Run Run

Mae John Cale yn ddyn blin medda nhw, ond mae'n bosib mai fo ydy'r Cymro mwyaf cool erioed. Roedd on aelod o'r Velvet Underground cyn cael ei daflu allan ddwy waith, yr ail waith trwy fax.

Serge Gainsbourg - La Decadanse

Mae La Decadanse yn swnio'n debyg i Degadawns dydi? Ella fod hynny'n rhywbeth i'w wneud a'r ffaith fod Eilir Pierce yn ffan ENFAWR

Nid yw'r BBC (yn enwedig fi a Dyl Mei) yn gyfrifol am unrhyw wefannau a restrir yma.

Unnos Eilir, Seiriol a Trwbador - hyd yma

Categorïau:

Criw C2Criw C2|01:01, Dydd Mercher, 2 Chwefror 2011

Sylwadau (0)

Ar ol y cyfarfod cyntaf, sydd wastad ychydig yn anghyfforddus, a'r sioc fod hyn am ddigwydd, a'u bod nhw am orfod cyd-weithio am gyfnod o 12 awr dros nos, mae petha yn mynd yn dda iawn yma yn Unnos HQ.

Mae'n nhw i weld yn cyd-weithio ar bob elfen o'r gerddoriaeth. O be wela i o'r broses o greu'r gan gyntaf, roedd Angharad (Trwbador) ac Eilir Pierce wedi datblygu syniad geiriol gan Eilir, ac wedi "jamio" cerddoriaeth o gwmpas y syniad yna. Mae un gan wedi ei chwblhau, ac mae hono'n hollol wych, gwallgo a gwahanol.

Mae'n nhw ar fin mynd am y "take" cyntaf ar yr ail gan, sydd, yn ol Eilir, am fod yn Travelling Wilburys v "trippy child programme", be bynnag goblyn ydy hynny

Hwyl

Criw Unnos

Takeaway Unnos

Categorïau:

Huw EvansHuw Evans|00:21, Dydd Mercher, 2 Chwefror 2011

Sylwadau (0)

Seiriol - satay cig eidion

Eilir Pierce - rhywbeth od hefo sinsir, cnau a chig (cyw iar?!)

Owain Gwilym; na, dim fo, un arall - asennau halen a phupur (salt'n'pepper ribs??)

Angharad - gor-gimwch melys a sur (dyna ydy sweet and sour?)

Fideo: Trwbador ac Eilir Pierce yn sgwennu geiriau!

Categorïau:

Criw C2Criw C2|00:19, Dydd Mercher, 2 Chwefror 2011

Sylwadau (0)

HTV? Ei di a fi lawr? Tarw? Huw fu'n holi'r artistiaid am eu proses ysgrifennu!



Huw Evans neu Kath Jones

Categorïau:

Huw EvansHuw Evans|23:02, Dydd Mawrth, 1 Chwefror 2011

Sylwadau (0)

Shgwlwch ma y twpsod, nid fi ddwgodd e, a nace fi

si gyde fe nawr felly gadwch fi fod reit.



SHWMAI?

Iawn gobs, ges i siwrne tren dymunol iawn yma i Fangor yr wythnos 'ma.

Digonedd o le a bwrdd llawn hen fenwod pert gyferbyn a fi i gadw'n llyged i'n brysur trwy gydol y daith.



'Fydd sesiwn wythnos yma yn wych, dwi'n gwbo, co pwy sy' 'da ni oddi tano'r frawddeg ma nawr...



Y ddeuawd soniarus o ochre Caerfyrddin Trwbador, grwp sy'n cymryd melodiau bachog a rythmau electroneg, plygu nhw, ymestyn nhw, peintio nhw mewn glud PVA a wedyn unweth ma hwna di sychu, gorchuddio nhw mewn sebon.



Yn ymuno ar ddau gerflunudd sonig yma mae'r gwallgofddyn gwyllt sydd wedi sgwennu mwy o ganeuon na Caryl Pari Jones, Burt Bacharach a Sbardyn Huws wedi'i rhoid at ei gilydd. Mr Eilir Piyrs, dyn sy'n mwynhau cymryd can, ei beintio'n ddu, rhoid hi yn yr oergell a wedyn ei defnyddio hi i roi clustan go dda i chi. Yma hefo Eilir mae dyn sy'n cael ei adnabod fel SEIRIOL. O bosib dyma'i enw iawn, falle ddim. Mae'i wallt yn gyrliog, mae'n chware'r soddgrwth a ma nhw'n dweud ei fod yn gallu cerdded ar ddwr. 'Does wbod sut ma heno'n mynd i swnio, un peth sy'n sicr, dwi'm yn rhagweld hi'n cael eu chware ar rhaglen John ag Alun yn fuan.



DEWCH NYMFFOD AWEN, DEWCH YNGHYD A GORCHUDDIWCH Y CERDDORION YMA EICH LLWCH CREADIGOL.



Mae'n mynd i fod y fath yna o noson 'win credu...

Radio Nan Gaidheal ac Unnos!

Categorïau:

Lisa GwilymLisa Gwilym|22:29, Dydd Mawrth, 1 Chwefror 2011

Sylwadau (0)

Mawr ddiolch am ein helpu ni a gorsaf radio BBC Radio Nan Gaidheal heno. Cofiwch gysylltu efo ni os da chi'sio awgrymu caneuon Cymraeg neu grwpie o Gymru i'w chware ar y radio yn yr Alban ar ddydd Gwyl Dewi.

Dwi'n mynd adre rwan, er bod fi di cael gwahoddiad i aros am 'beef satay' efo Huw Evans! Ond ie, dwi methu aros i glywed canlyniad Sesiwn Unnos heno... Angharad ac Owain o Trwbador mor addfwyn, swil a hoffus; Eilir Pierce a Seiriol Cwyfan efo'u gwalltie mawr a'u cymeriade creadigol! Pawb yn nerfus i ddechre achos nad oeddyn nhw'n 'nabod eu gilydd, ond mae gen i ryw deimlad y bydd pawb yn ffrindie gore erbyn 8 y bore!

Pob lwc i bawb, mi fyddai'n gwrando am ddeg nos fory! Lis x

Fideo: Huw Evans yn cyflwyno Trwbador ac Eilir Pierce

Categorïau:

Criw C2Criw C2|20:48, Dydd Mawrth, 1 Chwefror 2011

Sylwadau (0)

Huw yn cyflwyno artistiaid Sesiwn Unnos 10 (01 Chwefror 2011) - Trwbador (Owain Gwilym ac Angharad Van Rijswijk), Eilir Pierce a Seiriol Cwyfan.

Shane Williams yn westai arbennig

Categorïau:

Ifan EvansIfan Evans|18:14, Dydd Mawrth, 1 Chwefror 2011

Sylwadau (0)



Wel nosweth dda a gobitho bod pawb yn iawn?

Tawel iawn yw hi di bod arnai ers i fi neud y rhaglen wthnos dwetha. Ac er gwaetha y tywydd rhewllyd, mi fues i yn chware pel droed dydd sadwrn lan yn Abermiwl, ag enillo ni o 4 - 0, a pawb yng nghlwb pel droed yn hapus iawn!

Ond dyna ddigon am fi a fy mheldroed achos heno ma genai un o chwaraewyr rygbi gorau Cymru erioed yn westai arbennig ar y rhaglen, sef Shane Williams.

Ges i sgwrs da fe cwpwl o wythnose nol a heno gewch chi glywed e'n trafod pencampwriaeth y chwe gwlad sy'n dechre nos Wener, yn siarad am ei yrfa ddisglair ac wrth gwrs ei daith ar Ifan yr Injan!

Yn ogystal a hyn i gyd, mi fydd Owain Llyr i fewn yn y stiwdio y edrych yn ol ar chwaraeon y penwythnos.

Cofiwch wrando felly am 10. Fydde chi'n ddwl i beidio!

Dwy daten dwym

Categorïau:

Criw C2Criw C2|11:44, Dydd Mawrth, 1 Chwefror 2011

Sylwadau (0)

A ninnau ar drothwy mis Chwefror, dyma fi'n dod i weini tatws ola'r mis i chi. Tatws trosiadol yw'r rhain wrth gwrs, sef dau damaid blasus o newyddion cerddorol ar ffurf dwy daten dwym. Mwynhewch nhw tra'u bod yn gynnes!

Tatws tun yw'r tatws cyntaf ar y fwydlen wrth i'r bachfand Blue gyhoeddi mai nhw fydd yn cynrychioli Prydain yng Nghystadleuaeth yr Eurovision eleni.

Am y tro cyntaf ers dros ddegawd, bydd band cydnabyddedig yn cynrychioli Prydain, band sydd hefyd heb gael eu dewis gan y cyhoedd. Bydd rhaglen ddogfen yn cael ei darlledu ar BBC One ym mis Ebrill yn dilyn eu hynt a'u helynt wrth iddyn nhw baratoi at y gystadleuaeth a hwythau hefyd yn dathlu eu pen-blwydd yn ddeg oed eleni.

Hefyd yn gwneud eu gorau glas eleni fydd y ddeuawd melynwallt Jedward, sy'n gobeithio cynrychioli Iwerddon gyda chân o'r enw Lipstick. Dywedodd cyn rheolwr Blue, Daniel Glatman y bydd eu henw da'n ddarnau os na fyddan nhw'n ennill. Cofiwch wylio'r gystadleuaeth a fydd yn cael ei chynnal yn yr Almaen eleni ar nos Sadwrn, Mai 14.

Pam tatws mewn tun rwy'n eich clywed yn gofyn? Wel enw'r ymgais a gyfansoddwyd gan Antony, Duncan, Lee a Simon yw I can.

Hmmm... well i ni symud ymlaen at y daten nesaf a thatws tenau, seimllyd, hallt a hudol yw'r rhain- neb llai na'r Creision Hud.

Bydd holl gefnogwyr y band yn hynod hapus fod y pedwarawd mewn paced plastig wedi cadw at eu hadduned blwyddyn newydd sef i ryddhau cân bob mis am chwe mis cynta'r flwyddyn. Ar ddiwrnod olaf mis Ionawr, fe ryddhawyd y gân Cyllell ar i-Tunes, ac maen nhw eisoes wedi recordio'r trac She Said yn barod i'w rhyddhau ar Chwefror 28. Ewch i www.myspace.com/creisionhud er mwyn clywed rhagflas ohoni neu gwrandewch nôl ar Dodd Com neithiwr i glywed y trac yn ei gyfanrwydd.

Ac os yw hynny yn eich gadael yn ysu am ragor o'r Creision Hud, cofiwch fod cyfle i'w clywed yn chwarae'n fyw yn Gig yr Eisteddfod Ryng-golegol eleni yn Undeb y Myfyrwyr, Caerdydd ar nos Sadwrn Chwefror 19 gyda Derwyddon Dr Gonzo, Y Bandana a'r Ods.

Felly dyna ni am y tro. Ta- ta o fyd y tatws!

Cofiwch wrando ar raglen Dodd com heno ar wefan C2 am 7pm.