Tatws Poeth yr Wythnos!
Helo pawb!!
Mae hi wedi bod yn wythnos brysur iawn yng ngardd newyddion C2 gyda sawl taten boeth wedi eu darganfod! Gruff Pritchard a Steffan Dafydd fuodd yn palu'r pridd a dyma'r uchafbwyntiau:
Gruff Rhys yn rhyddhau ei albym Hotel Shampoo ac yn rhoi'r cyfle i chi wrando arni yn rhad ac yn ddim ar ei wefan. Os nath eich clustiau fwynhau y profiad yna mi allwch chi brynu copi o'r albym o'i wefan gyda'r 100 cyntaf yn cael 'fob' hotel Shark Ridden Waters.
Taten boeth arall! Oeddech chi'n gwybod fod gan rapiwr gora'r byd (mae popeth mae'n ddweud yn odli o hyd) gystadleuaeth? Gwylia dy hun Rapsgaliwn... mae Eminem yn ôl! Cyhoeddodd y rapiwr enwog ei fod e'n mynd i ddechrau teithio eto yn 2011. Mae si ei fod e'n mynd i chwarae ym Mrydain am y tro cyntaf ers 9 mlynedd.
Bu sawl taten yn ymwneud â gwyliau cerddoriaeth Cymru wythnos yma, gyda Gwyl y Dyn Gwyrdd a gwyl lenyddiaeth a cherddoriaeth Talacharn yn cyhoeddi fod eu tocynnau ar werth. Mae'r ddwy wyl yn boblogaidd iawn felly prynwch ei tocynnau nawr!
Dyna uchafbwyntiau wythnos a fu'n llawn tato poeth!
Hwyl am tro
Grandewch ar y sioe ar BBC iPlayer

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.