Profiad Newydd.
Helo Catrin Herbert yma!
Dwi di bod yn ffodus iawn i gael y cyfle i gyd-gyflwyno Dodd.Com am yr wythnos a hanner nesa, ac yn fwy ffodus fyth i gal cwmni Gruff Pritchard a gweddill criw C2 wrth weithio ar y raglen.
Gan bo Magi i ffwrdd am gwpwl o wythnosau, ma' Gruff wedi galw mewn y reinforcements ar ffurf fi a Steffan Dafydd. Dwi'n meddwl gath Steff a Gruff lot o hwyl wythnos dwetha' ond dwi'n siwr bydde Magi'n falch o glywed bo merch nôl yn y stiwdio hefyd yn ei habsenoldeb hi a bod y bois heb gymryd drosdo'n llwyr.
Neithiwr cefais i a Gruff 'Ddod i Adnabod' Helen Davies sy'n fyfyrwraig yn Leeds, odd hi bendant wedi codi chwant arnaf i i fynd am noson mas yn Leeds 'da nghefndryd i sy'n byw 'na, a nes i wir joio'i dewis cerddorol hi sef "Rolling in the Deep" gan Adele.
Nethon ni hefyd gael ymwelydd yn y stiwdio, da'th Rhydian o'r band Creision Hud fewn i gal sgwrs ac i hyrwyddo sengl newydd y grwp sef "Cyllell" sy'n wych rhaid gweud.
Dwi, Gruff a Siân yn gobeithio'n bod ni wedi cael maddeuant ganddo fe nawr ar ôl i ni roi sypreis iddo fe, drwy chware rhyw fath o gem Siôn a Siân 'da fe am ei gariad e Betsan gan ei bod hi'n Ddiwrnod Sant Ffolant ddoe. Dwi erioed 'di gweld unrhyw un yn cochi gyment druan, felly sori Rhydian am 'na!
Heno bydda' i a Gruff nôl yn y stiwdio, a gewch chi glywed y sgwrs 'y ni newydd gael gyda Rheon James sy'n chwaraewr rygbi o Fryniwan sydd wedi cael ei ddewis i chwarae rygbi dros Gymru yn y tim dan 20, sydd wedi bod yn llwyddiannus iawn mor belled ym mhencampwriaeth y chwe gwlad yn maeddu Lloegr a'r Alban!
Ac ar y thema o rygbi, byddwn ni'n dal lan gyda criw o fois o Bantycelyn a aeth i Gaeredin dros y penwythnos i wylio'r gêm rhwng Cymru a'r Alban.
Tan 7!
Hwyl
Catrin

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.