Unnos ola'r gyfres
Ymddiheuriadau am y diffyg blogs heno 'ma - mae hi wedi bod yn ddechrau anarferol o brysur i'r noson. Dyma drio rhoi ryw fath o hanes y noson hyd yma. Wel, mi wnaeth Gruff (MC Mabon) a Dave Wrench (stiwdio Bryn Derwen) gyrraedd toc wedi 6.30pm. Yr unig offer ganddyn nhw oedd laptop a cwpl o allweddellau. Bron iawn yn syth, fe wnaethon nhw benderfynnu ar drefn; mi fysa Dave, hefo cymorth Gruff, yn gosod "samples" a "loops" ar laptop Dave fel sail i ganeuon. Drwy osod, ail-osod ac ail-adrodd samplau, ma'n nhw'n medru creu synau dryms, bass a synths yn gefndir i'r caneuon.
Tua 9pm, fe gyrhaeddodd Tesni, Ceri (Pheena) ac Ed Holden (Diwygiad/Genod Droog/Pen-ta-gram) y stiwdio. Fe benderfynnwyd y bysa Tesni a Ceri yn trio sgwennu a gosod geiriau i drac cefndir Gruff a Dave, tra bo Ed yn mynd i stafell arall i weithio ar draciau cefndir i ganeuon eraill, ar ei laptop ei hun.
A dyna sut ma hi am 22.42pm
Cofion
Gar

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.