Unnos - Wythnos rhif 5.
Ma' diwedd y gyfres hon o fewn golwg; trist fydd gweld hi'n dod i ben ond, dwi hefyd yn edrych ymlaen at beidio gwario dydd Mercher Iau a Gwener bob wythnos yn meddwl fod y gath drws nesa yn trio ymyryd ar fy meddyliau trwy ddefnyddio hen set radio sy' di claddu
yn yr ardd.
NA PWSI, NA, DWI DDIM AM FFEINDIO GWEISION I WEITHIO YN DY OGOF TANDDAEAROL YN TYLLU AM GEMAU A CHRISIALAU PRIN I BWERU DY BEIRIANT COFFI EDIALAIDD.
Er, ma Maldwyn y gath yn gneud y soy milk macchiatos gore ochr yma'r Wirral (HAWLFRAINT B.W)
Wythnos yma ma gyno ni deciall stemiog ag ynddi casgliad o ddynion creadigol o bob lliw a llun.
Ifor Ap Glyn y prif fardd sy'n edrych fel gangstar; Aneirin Caradog y bardd sydd hefyd yn rapiwr yn gyn aelod o'r Diwigiad a'r prosiect cymynedol - Y Genod Droog; Neil Williams, basydd Maffia Mr Huws (sydd ar hyn o bryd yn cerdded rownd efo bocs pren gwallgof sy'n edrych fel Dougal o'r magic roundabout); Alexander Moller, y metronome dynol sydd hefo breichiau mor gyhyrog, nath o dorri peirianau bocsio mewn arcêd Rhyl i gyd ar ddiwrnod eu benblwydd llynnedd; Idris Morris Jones, yr actor ar cyflwynydd sydd hefyd yn chware'r pibau cwd Cymraeg (dwi'n gwbod, mae'n swnio'n afiach a chydig yn farbaraidd, pediwch a gofyn) a'r ffidil; a Gai Toms, un o gerddorion mwya' poblogaidd Cymru sy' yr un mor dda yn sgwennu tiwns hynod fachog a thlws ar ei gitar a mae o ar cit drymiau di neud allan o sbwriel, just peidiwch a'i alwo'n hipi.
Casgliad digon difyr felly, 'chydig o hip hop gwerinaidd hefo ymylon rock trwm, piano ballads bachog ag Idris Morris Jones yn lliwio'r holl beth efo'i pibau cwd.
Wythnos arferol arall yn y gwaith felly....
Latte arall plis, Maldwyn.
Huw.

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.