« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Cerddoriaeth i gyd-fynd hefo Sesiwn Unnos

Categorïau:

Huw EvansHuw Evans|02:07, Dydd Mercher, 2 Chwefror 2011

Os yda chi'n mwynhau'r gerddoriaeth sy'n cael ei greu gan Eilir Pierce, Seiriol Cwyfan a Trwbador, dyma fwy o gerddoriaeth yn yr un ysbryd!

Excepter - Kill People

Band gwallgo o Brooklyn, Efrog Newydd, sy'n perfformio'n fyw hefo pump laptop, ac wedi cynhyrchu album gwych i fand o'r enw Fly Girls.

Datblygu - Can I Gymru

O bosib un o artistiaid mwyaf dylanwadol Cymru erioed. Yn debyg i'r Velvet Underground, nath o'm gwerthu lot ar y pryd, ond fe wnaeth pawb oedd yn ei glywed ffurfio grwp!

Basil Kirchin - The Stange Affair Theme

Roedd Basil yn ddrymiwr ac yn cyfansoddwr cerddoriaeth arbrofol; mae rhai yn dweud mai Basil oedd tad cerddoriaeth 'ambient'. Mae llawer o'i gerddoriaeth wedi ei ail rhyddhau gan y Label anhygoel Trunk Records.

The 5000 Fingers Of Dr.T - Ten Little FingersTrac sain o film story Dr.Zeus The 500 Fingers of Dr.T. Well na unrhywbeth wnaeth Jim Carrey.

Gorkys Zygotic Mynci - Gwallt Rhegi Pegi

Does ddim angen cyflwyniad i'r Gorkys gobeithio? Ewch mlaen a mwynhewch!

Suicide - Ghost RiderDeuawd o adeg Punk a New Wave Efrog Newydd, yn enwog am eu perfformiadau byw anodd. Cerddoriaeth di-faddeuant electro pync cynnar....

The Velvet Underground - Run Run Run

Mae John Cale yn ddyn blin medda nhw, ond mae'n bosib mai fo ydy'r Cymro mwyaf cool erioed. Roedd on aelod o'r Velvet Underground cyn cael ei daflu allan ddwy waith, yr ail waith trwy fax.

Serge Gainsbourg - La Decadanse

Mae La Decadanse yn swnio'n debyg i Degadawns dydi? Ella fod hynny'n rhywbeth i'w wneud a'r ffaith fod Eilir Pierce yn ffan ENFAWR

Nid yw'r BBC (yn enwedig fi a Dyl Mei) yn gyfrifol am unrhyw wefannau a restrir yma.