« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Huw Evans neu Kath Jones

Categorïau:

Huw EvansHuw Evans|23:02, Dydd Mawrth, 1 Chwefror 2011

Shgwlwch ma y twpsod, nid fi ddwgodd e, a nace fi

si gyde fe nawr felly gadwch fi fod reit.



SHWMAI?

Iawn gobs, ges i siwrne tren dymunol iawn yma i Fangor yr wythnos 'ma.

Digonedd o le a bwrdd llawn hen fenwod pert gyferbyn a fi i gadw'n llyged i'n brysur trwy gydol y daith.



'Fydd sesiwn wythnos yma yn wych, dwi'n gwbo, co pwy sy' 'da ni oddi tano'r frawddeg ma nawr...



Y ddeuawd soniarus o ochre Caerfyrddin Trwbador, grwp sy'n cymryd melodiau bachog a rythmau electroneg, plygu nhw, ymestyn nhw, peintio nhw mewn glud PVA a wedyn unweth ma hwna di sychu, gorchuddio nhw mewn sebon.



Yn ymuno ar ddau gerflunudd sonig yma mae'r gwallgofddyn gwyllt sydd wedi sgwennu mwy o ganeuon na Caryl Pari Jones, Burt Bacharach a Sbardyn Huws wedi'i rhoid at ei gilydd. Mr Eilir Piyrs, dyn sy'n mwynhau cymryd can, ei beintio'n ddu, rhoid hi yn yr oergell a wedyn ei defnyddio hi i roi clustan go dda i chi. Yma hefo Eilir mae dyn sy'n cael ei adnabod fel SEIRIOL. O bosib dyma'i enw iawn, falle ddim. Mae'i wallt yn gyrliog, mae'n chware'r soddgrwth a ma nhw'n dweud ei fod yn gallu cerdded ar ddwr. 'Does wbod sut ma heno'n mynd i swnio, un peth sy'n sicr, dwi'm yn rhagweld hi'n cael eu chware ar rhaglen John ag Alun yn fuan.



DEWCH NYMFFOD AWEN, DEWCH YNGHYD A GORCHUDDIWCH Y CERDDORION YMA EICH LLWCH CREADIGOL.



Mae'n mynd i fod y fath yna o noson 'win credu...