Dwy daten dwym
A ninnau ar drothwy mis Chwefror, dyma fi'n dod i weini tatws ola'r mis i chi. Tatws trosiadol yw'r rhain wrth gwrs, sef dau damaid blasus o newyddion cerddorol ar ffurf dwy daten dwym. Mwynhewch nhw tra'u bod yn gynnes!
Tatws tun yw'r tatws cyntaf ar y fwydlen wrth i'r bachfand Blue gyhoeddi mai nhw fydd yn cynrychioli Prydain yng Nghystadleuaeth yr Eurovision eleni.
Am y tro cyntaf ers dros ddegawd, bydd band cydnabyddedig yn cynrychioli Prydain, band sydd hefyd heb gael eu dewis gan y cyhoedd. Bydd rhaglen ddogfen yn cael ei darlledu ar BBC One ym mis Ebrill yn dilyn eu hynt a'u helynt wrth iddyn nhw baratoi at y gystadleuaeth a hwythau hefyd yn dathlu eu pen-blwydd yn ddeg oed eleni.
Hefyd yn gwneud eu gorau glas eleni fydd y ddeuawd melynwallt Jedward, sy'n gobeithio cynrychioli Iwerddon gyda chân o'r enw Lipstick. Dywedodd cyn rheolwr Blue, Daniel Glatman y bydd eu henw da'n ddarnau os na fyddan nhw'n ennill. Cofiwch wylio'r gystadleuaeth a fydd yn cael ei chynnal yn yr Almaen eleni ar nos Sadwrn, Mai 14.
Pam tatws mewn tun rwy'n eich clywed yn gofyn? Wel enw'r ymgais a gyfansoddwyd gan Antony, Duncan, Lee a Simon yw I can.
Hmmm... well i ni symud ymlaen at y daten nesaf a thatws tenau, seimllyd, hallt a hudol yw'r rhain- neb llai na'r Creision Hud.
Bydd holl gefnogwyr y band yn hynod hapus fod y pedwarawd mewn paced plastig wedi cadw at eu hadduned blwyddyn newydd sef i ryddhau cân bob mis am chwe mis cynta'r flwyddyn. Ar ddiwrnod olaf mis Ionawr, fe ryddhawyd y gân Cyllell ar i-Tunes, ac maen nhw eisoes wedi recordio'r trac She Said yn barod i'w rhyddhau ar Chwefror 28. Ewch i www.myspace.com/creisionhud er mwyn clywed rhagflas ohoni neu gwrandewch nôl ar Dodd Com neithiwr i glywed y trac yn ei gyfanrwydd.
Ac os yw hynny yn eich gadael yn ysu am ragor o'r Creision Hud, cofiwch fod cyfle i'w clywed yn chwarae'n fyw yn Gig yr Eisteddfod Ryng-golegol eleni yn Undeb y Myfyrwyr, Caerdydd ar nos Sadwrn Chwefror 19 gyda Derwyddon Dr Gonzo, Y Bandana a'r Ods.
Felly dyna ni am y tro. Ta- ta o fyd y tatws!
Cofiwch wrando ar raglen Dodd com heno ar wefan C2 am 7pm.

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.