Archifau Ionawr 2010

Twin Town 2

Daniel Glyn|13:07, Dydd Iau, 28 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Glywsoch chi hwnna? Y sgwrs ges i 'da William Thomas (Bryn Cartrwright Twin Town). Na fi chwaith, oni mor 'star struck' sai'n cofio gair wedes i. Diolch byth felly am yr iplayer,

dwi wrthi yn gwrando 'nôl ar y seboni amlwg oedd yn dod o'n ngheg. Oni'n gwneud fy ngorau i osgoi y cwestiwn ystradebol am Twin Town 2. Ond odd ddim angen imi boeni, mi ganodd Mr Thomas fel canari. Script bron yn barod ar gyfer Twin Town 2? Fama glywsoch chi e gynta'.

Thema gerddorol yr wythnos hon yw pethau 'se chi'n gweld yn yr archfarchnad. Diolch o galon i'r person a awgrymodd 'Dale Winton' ar dudalen FB C2 BBC Radio Cymru. Doniol iawn, syth i'r LOLfa. Yn dechnegol, 'se chi'n medru gofyn am unrhyw gân, gan bod archfarchnadoedd nawr yn gwerthu cd's, ac maent i'w gweld yn glir, fel arfer wrth ymyl y gemau cyfrifiadurol. Unwaith eto, y corfforaethau mawr yn sbwylio ein hwyl. Ond wi'n siwr fedrwch chi neud yn well.

Cofiwch am y FB

Tair mil tair mil, ymlaen i'r fileniwm.

Dan

Brodyr

Categorïau:

Glyn WiseGlyn Wise|10:10, Dydd Iau, 28 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Dwi wedi cael fy ysgogi i ysgrifennu'r blog yma ar ôl gwylio'r film 'Brothers' yn y sinema. Mae'n ffilm anhygoel am filwr sy'n cyrraedd adref ar ôl profiad erchyll yn brwydro yn Afganistan.

Mae'n cyfleu dirywiad cyflwr meddyliol y milwr a sut fod ei frawd yn gorfod gofalu amdano. Mae'n dangos cryfder y milwyr sydd yn Afganistan sy'n byw mewn ofn drwy'r dydd a'r effaith mae'n cael ar eu teuluoedd.

Cefais i, Magi Dodd, Robin ac Owain sy'n gweithio ar C2 brofiad gyda'r TA a roeddwn wedi syfrdanu gyda faint o barch sydd gan y milwyr tuag at eu gilydd. Maent fel un teulu mawr, pawb yn frawd yn barod i helpu ei gilydd, rhywbeth yn fy marn i, sydd ar goll mewn cymdeithas heddiw.

Roedd fy nhad yn yr RAF, a mae o wedi dweud llawer o straeon wrthaf am y cyfnod, ond cefais ddarlun byw iawn o sut fywyd sydd gan filwyr wrth wylio'r film 'Brothers' yn y sinema.

Roedd yn ffilm anhygoel, a dwi'n argymell i bawb i fynd i'w wylio.

Hwyl am y tro,

Glyn xx

"Gwyllt" - EP Unnos newydd gan Mr Huw a Dilwyn Llwyd

Categorïau:

Criw C2Criw C2|07:57, Dydd Mercher, 27 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Clawr yr EP

Llwyddiant! Mae Mr Huw a Dilwyn o'r band Yucatan wedi recordio pedair cân gwreiddiol ar gyfer Sesiwn Unnos C2, sef:

  1. Anifeiliaid Gwyllt 'Da Ni
  2. Cefnigennus (ie - dyna'r sillafiad cywir!)
  3. Pawb di Trio
  4. Bore da, bore da, bore da, bore da, bore da, bore da, bore da, bore da, 'da ni'n mynd adra

Hwyliwch draw i safle Sesiwn Unnos i'w clywed nhw - gyda lluniau o'r noson, a fideo bach ciwt i gyd-fynd â'r gân 'Pawb di Trio' sy'n cynnwys fersiwn wedi animeiddio o'r clawr hyfryd a ddyluniwyd mewn 'fuzzy felt' gan Rhys, Al a Dilwyn o'r band rhwng sesiynau recordio!

Ac, wrth gwrs, bydd Huw Evans yn datgelu'r holl hwyl a sbri a gafwyd heno am 10pm ar Radio Cymru, ac yna ar yr iPlayer.

Reit, amser gwely nawr...

Unnos3: 4 cân!!

Categorïau:

Gareth Iwan|06:09, Dydd Mercher, 27 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Sgen i ddim lot o egni, felly dwi 'mond am ddeud y bydd na BEDAIR cân ar wefan Unnos C2 am 9am. Hwre.

Nos da

Gar

x

Unnos3: dwi'n gweld y gola...

Categorïau:

Gareth Iwan|05:05, Dydd Mercher, 27 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Helo na

5.05am, a dwi'n gweld goleuni. Nid y wawr, ond rywfaint o obaith y bydd na 4 cân wedi cael eu gorffen. Dwi hefyd wedi gweld y clawr, sy'n wych, ac ma na fideo fach ar ei ffordd hefyd felly dewch draw i wefan C2 am tua 9am i weld y cyfan. Mi fydd yn wych.

Gar

Unnos3 - Huw Evans wedi blino. Sioc....

Categorïau:

Huw EvansHuw Evans|04:22, Dydd Mercher, 27 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Huw Evans

Rhagor o luniau o'r noson

Wedi blino.

Wedi blino.

Blino wedi.

Huw wedi.

Blino Mr.

Huw Huw

Blino blino.

Blino.

Blin.

Blin Huw.

Huw Blin.

Huw spleen.

Tan Huw.

Huw Tan.

Llosgi.

Pawb.

Tan.

Sori.

Unnos3 - yn union fel Top Gear

Categorïau:

Gareth Iwan|04:10, Dydd Mercher, 27 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Os 'da chi erioed wedi gwylio Top Gear, ymddiheuriadau, wnewch chi ddim deallt hwn. I'r rhai ohonoch chi sydd wedi, wyddoch chi fel mae pob ras fawr Top Gear wastad yn gorffen hefo Clarkson, Hammond a James May yn cyrraedd diwedd y ras o fewn eiliadau i'w gilydd? Wel ma Sesiwn Unnos yn dechrau troi allan fel'na. Mae hi unwaith eto am fod yn ofnadwy, ofnadwy o agos o ran gorffen yr EP mewn pryd. Ma na un gân wedi ei gorffen, un wedi ei recordio ond heb ei chymysgu, ac un gân bron a gorffen ei recordio. Ma na un gân ar goll/heb ei chychwyn. Fydd na EP 4 cân erbyn 8am?! Dim syniad...

Gar

Llythrennau Unnos

Rhagor o luniau o'r noson

Clawr Unnos3 - tylliwr a beiro ddu

Categorïau:

Huw EvansHuw Evans|02:27, Dydd Mercher, 27 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Y band yn gweithio ar y clawr

Rhagor o luniau o'r noson

Mae'n debyg fod Al Dwlal sy'n chware drums i Mr Huw yn dipyn o Peter Saville. Mae di penderfyni cychwyn cynllunio clawr yr EP.

Dyma restr o'r deunyddiau celfyddydol mae wedi mynnu eu cael er mwyn cael cychwyn gwaith ar ddylunio'i gampwaith troedigaethol, aml-rhinweddol ag arall-ddeimensiynol...

1.Tylliwr

2.Beiro du

Arhoswch eiliad, ma' cylchgrawn 'Creative Review' ar y ffon...

Archeb Bwyd Tsieiniaidd Unnos3

Categorïau:

Criw C2Criw C2|01:13, Dydd Mercher, 27 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

2 chow mein arbennig

2 chow mein gor-gimwch

Bean curd hefo saws ffa du

Cyw iar sweet and sour

Prawn toast

Sglodion

Sechuan gor-gimwch

Nwdls

Rhagor o luniau o'r noson

Unnos3 - dylanwad ar Diwygiad...

Categorïau:

Huw EvansHuw Evans|23:17, Dydd Mawrth, 26 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Dwi newydd glywed trac newydd Y Diwygiad ar raglen C2 Huw Stephens, ac yn ddigon rhyfedd ma nhw 'di ddefnyddio sampl nes i chware iddyn nhw bythefnos yn ôl - mae'r trac yn swnio'n wych, trueni bo nhw ddim 'di defnyddio hi yn y gyfres.

Os 'da chi awydd clywed y gân wreiddiol mae hi oddi ar y soundtrack i'r ffilm After The Fox, ac wedi'w chyfansoddi gan neb llai na Byrt (sic) Bacharach o Aberbanc, sir Ceredigion, uffar o hen foi clên a dipyn o dinclar ar yr hen ivories wyddoch chi ddim...

Mr Huw a Dilwyn ar fin recordio esgyrn yr ail gân a ma hi'n swnio fel cân twmpath gwersyll yr Urdd o ganol y bydysawd, hymdingar o stomp fawr cosmig glam.

Ma Dyl Mei a fi di bod yn edrych ar lunie Zoe Deschanel ar y we. Ydi hi'n erbyn y gyfraith i ffeindio allan lle mae hi'n byw, mynd yna, a dilyn hi o gwmpas trwy'r dydd a'r nos ond cadw digon pell i ffwrdd fel bod hi ddim yn gwbo bo fi yna, ond wedyn ar ôl 'chydig ymddangos yn ei gardd gefn hi mewn gwn nos a chrys-tî Meat Loaf (dim byd arall) yn byta bwyd ci o'r tin? Ma Dyl yn gweud bod e'n iawn neud ond mae gen i fy amheuon...

Huw Evans

Rhagor o luniau o'r noson

Pethe'n dawel iawn yma heno sy'n neud i fi boeni, dwi'm yn siŵr os di'r band di gadel y stafell recordio eto a ma nhw di dechre gofyn i ni nôl pethe rhyfedd iddyn nhw, 6 slinky, bocs wyau gwag...

Grêt.

Ma nhw am neud y recordio'n wahanol i'r ddau sesiwn arall da ni di gal - yn lle gorffen cân a symud ymlaen i'r nesa ma nhw am recordio'r gerddoriaeth i gyd a wedyn gwneud y canu i gyd wedyn. Ddim bod hyn yn unrhywbeth chwildroadol sy'n mynd i newid y ffordd da ni'n recordio cerddoriaeth o hyn allan, just meddwl 'swn i'n gadel chi gwybod likes innit.

Unnos: mae pawb yn wahanol...

Categorïau:

Gareth Iwan|21:22, Dydd Mawrth, 26 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Difyr gweld sut ma pob band yn recordio yn wahanol.

I ddechrau - Pen-ta-gram. Mi oedde nhw'n dod o hyd i samples o gerddoriaeth, yna creu cerddoriaeth fyw (bass a dryms) o gwmpas y samples, ac yn olaf mi oedd Ed Holden a Hoax yn rapio dros y cyfan.

Mi oedd Geraint Lovgreen yn recordio yn wahanol; recordio dryms, bass, gitar a piano, yna'r llais ar hael arall, ac yna'r cyrn ar haen wahanol eto, cyn symyd ymlaen i gân arall a gwneud yr un adeiladu eto.

Ma Mr Huw am wneud petha ychydig yn wahanol - mae o isho recordio dryms, gitar, bass ac addweddellau POB cân yn gyntaf - a hynny gan na fydd Huw yn sgwennu y geiriau tan AR OL i'r gerddoriaeth gael ei recordio. Felly mi fydd gandom ni gerddoriaeth pedair can cyn y clywn ni air yn cael ei ganu gan Huw. Difyr... (gobeithio)

Gar

Henffych bobol hyfryd Cymru a chroeso i fyd hudol Unnos

Categorïau:

Huw EvansHuw Evans|20:09, Dydd Mawrth, 26 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Dwi'n trio canolbwyntio ar sgwennu blog ond ma Dyl Mei yn gweud jôcs yn y cefndir sa'n codi ofn ar Angharad Mair.

Mr Huw yw ein artist arbennig yr wythnos yma a ma' na gymorth yn dod o gyfeiriad mabwys-fab Gwlad yr Iâ Dilwyn Llwyd o'r grŵp Yucatan.

Ar hyn o bryd ma na guriad glam anferthol yn dod o'r stiwdio, ac yn crynu 'mhedwerydd coffi a la Jurassic Park. Wythnos yma cafodd y gwesteion ddewis thema, a ma nhw wedi dewis y thema Natur Wyllt, sy'n weddol agored i wahanol ddehongliadau. Dwi wedi ymgymryd mewn gwledd o siwgwr mewn sawl gwahanol ffurf ac yn ffeindio hi'n anodd sgwennu efo unrhyw fath o lif naturiol.

Ma pob dim yn dod allan fel rhestr o frawddegau di-gyswllt. Nes i gofio troi'r ffwrn i ffwrdd? Odd y siwrne trên braidd yn ddiflas. Nes i gofio bwydo'r ci?

Dwi am fentro i'r stiwdio mewn 5 munud i glywed sut siâp sydd ar bethau, dymunwch lwc i mi...

Unnos3: Yn Y Dechreuad

Categorïau:

Gareth Iwan|19:41, Dydd Mawrth, 26 Ionawr 2010

Sylwadau (1)

Helo bawb

Mae hi'n 7.45pm ar nos Fawrth, felly mi yda ni ar fin cychwyn recordio rhaglen Unnos! Y syniad, os nad yda chi wedi gwrando o'r blaen, ydy fod band yn cyfansoddi, recordio a rhyddhau EP mewn noson. Yr wythnos yma, Mr Huw sydd wedi derbyn yr her, a'i westai arbennig o ydy Dilwyn Llwyd o'r band Yucatan. Cadwch olwg ar y blog i weld sut hwyl ma nhw'n gael arni; mi fydd yna luniau yn cael eu cyhoeddi yn ystod y nos, ac mae yna we gamera yn fama.

Dilwyn, Rhys a Huw yn y stiwdio

Mae'r band wedi cyrraedd, ac wrthi'n ymarfer, felly edrych ymlaen.

Hwyl

Gar

Ymateb Bethan Elfyn i Sesiwn Unnos

Categorïau:

Criw C2Criw C2|10:24, Dydd Mawrth, 26 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Diolch i Bethan am ei blog! A cofiwch am sesiwn Unnos heno ar y we ac ar C2 (blogs, lluniau ayyb), a'r rhaglen nos fory am 10pm!

Diolch

Gar

Unnos2: Rhyddhau EP Geraint Lovgreen a Lisa Jen

Categorïau:

Criw C2Criw C2|08:36, Dydd Mercher, 20 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Clawr yr EP

Wedi noson hir o gyfansoddi a recordio, allwch chi nawr wrando ar y pedair cân o Sesiwn Unnos rhif dau ar wefan C2, gan Geraint Lovgreen a'r Enw Da gyda Lisa Jen o 9Bach.

Enwau'r caneuon ydi:

1. Calennig

2. Tŷ Unnos

3. Waltz Sara

4. Ffarwel

Crewyd y clawr trawiadol gan yr arlunydd Iwan Bala dros nos neithiwr hefyd - fersiwn mwy.

Cofiwch bydd modd clywed holl hanes y noson mewn rhaglen arbennig gyda Huw Evans heno ar Radio Cymru am 10pm ac ar BBC iPlayer.

Unnos2: Wedi Gorffen!

Categorïau:

Gareth Iwan|07:32, Dydd Mercher, 20 Ionawr 2010

Sylwadau (1)

7.32am - a da ni wedi recordio pedair cân; tair wreiddiol ac un "cover version". Dwi'n hapus. Cofiwch wrando heno am 10pm i glywed holl hanes y recordio, ac mi fydd yr "EP" ar safle we C2 am 9am bore 'ma. Reit. Cysgu. Nos da

Gar

zzzzzzzzzzzzzzzzzzzzzzzzzzzzzzzzzzzzzzzzzzzzzzzzzzzzzzzzzz

Y band a'r criw i gyd

Rhagor o luniau o'r noson

Unnos2: Mi fydd hi'n agos eto...

Categorïau:

Gareth Iwan|05:59, Dydd Mercher, 20 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Ar ddechrau'r noson, dwi'n credu ein bod ni i gyd yn eitha hyderus y bysa ni wedi gorffen popeth yn hawdd heno - mi oedd Geraint Lovgreen ac Iwan Llwyd yn cyfansoddi'n rhwydd, a'r recordio yn mynd yn llyfn. Ond, rywsut, mae hi'n 6am, ac mae na dal un gân i'w recordio, hefo ryw hanner awr i fynd. Wedyn, mae angen cymysgu'r ddwy gân olaf. Ar biga braidd...

Cofion

Gar

Unnos2: Ganol Nos

Categorïau:

Gareth Iwan|04:32, Dydd Mercher, 20 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Wel, ma hi'n 4.30am ac ma criw Richard Rees i mewn ers ryw hanner awr, sy'n gwneud i mi sylweddoli pa mor hwyr/cynnar ydy hi. Ma na ddwy gân wedi eu gorffen, un arall tua hanner ffordd, ac un heb ei dechra. Wedi blino. Lot. A ma Geraint yn recordio cân sy'n swnio fel ryw fath o thema i ffair wallgo feddw. Fel Magic Roundabout yn y Black Boy, Caernarfon. Felly cân syrcas a chân y ffair. Am 4.30am.

Gar

Unnos - syrcas hippies troednoeth

Categorïau:

Huw EvansHuw Evans|03:15, Dydd Mercher, 20 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Wel gyfeillion, ma na gyrn yn byrlymu drwy bob twll a chornel o fy nghorff i... falle fod na ffordd well o eirio hynna...

Ma adran cyrn yr "Enw Da" wrthi'n lliwio 8 canol yr ail gân efo cyffyrddiadau oompah lliwgar tra bod Dyl Mei yn ffeindio cân gan Charles Mingus o'r enw 'Moanin' i chware yn y rhaglen fel enghraifft o ddylanwadau'r adran gyrn.

Ma hyn yn golygu bod na lot o gyrn ym mhob mam.

'Man' odd hyna fod ond dwi'n teimlo fod y camsillafiad lot fwy difyr.

Ma Lovgreen a'i lygaid gwallgof hypnotig newydd gerdded mewn i'r swyddfa a gofyn i Lisa Jen chware 'chydig bach o glock ar yr adran yma fyd.

Am ryw reswm mae'r holl sôn am gyrn a glock Lisa Jen di dechre neud i mi deimlo chydig yn ben ysgafn. Falle hyd yn oed twtsh yn euog - am be, dwi ddim yn gwbod, ond dwi'n cal y teimlad fod na rhyw fath o sioe 'vaudeville' yn cael ei berfformio'n ddyfn yn fy isymwybod efo'r cymeriadau direudus yn fy arwain i at ryw foment chwyldroadol yn fy mywyd yn ymwneud â fi'n troi'n vegan ac yn gwynebu'r teimladau cymhleth yn fy mhen am bobol sydd methu gweud eu "R's".

Mae'n anhygoel yr effaith ma cerddoriaeth yn cal arno chi yn dydi? Amser neud mwy o press-ups dwi'n meddwl.

Yr ail gân yn swnio fel sioe gerdd yn cael eu perfformio mewn pabell syrcas gan griw o neo-hippies troednoeth. Gwych o beth.

DA IAWN PAWB.

Unnos2 / Dwy gân

Categorïau:

Gareth Iwan|01:59, Dydd Mercher, 20 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Mae hi'n 2am, ac ar hyn o bryd mae na un gân wedi ei gorffen, ac mae'r ail bron yna. Mae'r drymia, bass a'r gitar wedi eu recordio, dim ond angen gorffen lleisiau Geraint a Lisa Jen ac mi fydd hi yna! Mae lleisiau'r ddau yn gweithio'n dda iawn hefo'i gilydd. O, a ma angen ychwanegu'r offeryna pres wedyn. Nes i anghofio amdanyn nhw...

Gar

Archeb Pizza Unnos2

Categorïau:

Huw EvansHuw Evans|00:59, Dydd Mercher, 20 Ionawr 2010

Sylwadau (1)

1 anferth lysieuol

1 anferth "meat feast"

1 anferth sbeislyd iawn iawn (i Geraint)

Pizza Unnos

Categorïau:

Huw EvansHuw Evans|23:54, Dydd Mawrth, 19 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Trac rhif un o sesiwn Unnos heno ar fin cael ei orffen ac yn swnio'n hyfryd: ma'r chwarewyr corn yn y stiwdio fel dwi'n teipio yn gollwng plu aur soniarus ar ben y gân. Lot llai o eistedd o gwmpas wythnos yma, pawb yn gwbod yn union be ma nhw'n neud efo Lovgreen yn rheoli pawb fel unben cadarn (boed yn un efo dwylo sidan).

Ma rhywyn newydd weiddi rhywbeth am pizza, dwi'n trio siarad am y gerddoriaeth a'r broses recordio, ond madarch ar hyn cyw iâr o bryd tomato yr unig beth sy'n garlleg mynd trwy'n nionyn mhen yw gwahanol caws cynhwysion i fynd ar ben fy swper.

Dwi'n hyderus yn amcangyfrif ein bod ni oll yn mynd i fod o 'ma erbyn 4am ar yr hwyraf (pren gyffwrdd). Dwi methu dod dros pa mor epig ma gwyneb Lovegreen, mae e fel cyfuniad o Rembrandt cynnar a chroes-air cryptig, dwi ishio dringo mewn i'w ben a chodi pwysau efo hanner ei ymenydd ym mhob llaw.

Recordio yn y stiwdio

Rhagor o luniau o'r noson

Drws y stiwdio newydd agor a ma 'na glamp o solo newydd hedfan mewn i'r swyddfa a toddi hanner y 'ngwyneb i, bob tro mae'r drws yn agor ma 'na haen newydd wedi'w ychwanegu, edrych mlaen i glywed y cynnyrch gorffenedig.

Unnos2: press-ups a bechdan menyn a siwgr

Categorïau:

Huw EvansHuw Evans|21:03, Dydd Mawrth, 19 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Unnos 2 ar fin cychwyn a dwi'n barod i fynd.

Huw Evans

Rhagor o luniau o'r noson

Dwi di gwneud 3 press-up a byta bechdan menyn a siwgwr a dwi'n ysu i fynd o dan drwyn Geraint Lovgreen a'i alw o'n Steve Eaves trwy'r nos.

Geraint a Iwan Llwyd 'di bod yma ers rhyw ddwy awr bellach; ma gynon nhw ddarn o bapur sy'n llawn englynion a ma gan Lovgreen glamp o biano mawr trydanol efo'r nodau di sgwennu ar yr allweddellau a phob dim. Ma Lisa Jên newydd gyrraedd efo'i harmonium, glockenspiel a llygaid llo mawr brown sy'n sugno chi fewn i waelodion ei henaid.

Rhaglen wythnos yma'n mynd i fod yn hollol wahanol i un wythnos ddiwethaf ym mhob ffordd posib, yn un peth dwi'n amau'n fawr newn ni glywed Iwan Llwyd am 5 y bore'n gweud "O man, ma pen fi'n hollol mashed".

O.N. Ma gwyneb Geraint Lovgreen fel castell.

Hwyl

Huw Evans

Unnos - dyma fel ma hi erbyn hyn!

Categorïau:

Gareth Iwan|20:35, Dydd Mawrth, 19 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Mae Iwan Llwyd a Geraint Lovgreen wedi dechra fel lladd nadrodd!! Ma nhw wedi bod yn cyfansoddi o'r eiliad gyntaf iddyn nhw gyrraedd, ac o be glywa i, mae na un gân mwy neu lai wedi ei chyfansoddi yn barod. Mae Lisa Jen newydd gyrraedd, felly gawn ni weld sut aiff y cyd-weithio o hyn ymlaen!

Cofion

Gar

Geiriau caneuon

Rhagor o luniau o'r noson

Dilynwch ni dros nos...

Categorïau:

Criw C2Criw C2|20:21, Dydd Mawrth, 19 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Mae'r ail Sesiwn Unnos eisoes wedi cychwyn, gyda Geraint Lovgreen ac Iwan Llwyd yn bwrw iddi'n syth i gyfansoddi yn y stiwdio.

Allwch chi gadw golwg arnyn nhw efo'n gwegamera a bydd 'na lwyth o luniau a blogs yn cael eu postio drwy'r nos.

A dyma Huw Evans i'ch croesawu i Sesiwn Unnos #2!

Canu Beatles hefo Lovgreen a Iwan Llwyd

Categorïau:

Gareth Iwan|19:35, Dydd Mawrth, 19 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Unnos2: dwi newydd fod yn canu The End gan y Beatles hefo Iwan Llwyd a Geraint Lovgreen fel rhan o'r prosiect Unnos - gewch chi ffindio allan pam nes ymlaen, ond mae'r cyfan yn rhan o ymgais Geraint Lovgreen a'r Enw Da i gyfansoddi, recordio a rhydhhau EP mewn noson. Dwi'n ama bydd hon yn noson gofiadwy iawn....

Cofion

Gar

Iwan Llwyd a Geraint Lovgreen

Rhagor o luniau o'r noson

Unnos: 2!

Categorïau:

Criw C2Criw C2|17:31, Dydd Llun, 18 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Helo bawb

Nos fory mi fydda ni yma yn y BBC ym Mangor am tua 7pm wrth i grwp o artistiaid geisio cyfansoddi, recordio a rhyddhau EP mewn un noson. Dewch draw i'r wefan am tua 7pm i gael darllen y diweddaraf ac i weld lluniau - mi ddylai fod yn ddifyr oherwydd Geraint Lovgreen fydd yn cyd-weithio hefo Lisa Jen ar yr EP. Edrych ymlaen.

Hwyl

Gar

Rhyddhau'r EP Sesiwn Unnos gyntaf

Categorïau:

Criw C2Criw C2|09:13, Dydd Mercher, 13 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Mae'r Sesiwn Unnos gyntaf wedi dod i ben! Mae Ed, Toni, Alex a Rob wedi diflannu i lenwi eu boliau efo brecwast llawn, ac yna dal i fyny efo'u cwsg.

Mae traciau'r sesiwn, a'r clawr gorffenedig, bellach wedi eu rhyddhau ar wefan C2 - ewch draw i wrando arnyn nhw. Beth ych chi'n feddwl? Postiwch eich ymateb yn y blwch sylwadau isod!

A chofiwch wrando ar y rhaglen arbennig gyda holl hanes y noson heno am 10pm ar Radio Cymru ac ar iPlayer.

Darn o'r clawr

Rhagor o luniau o'r noson

Nos da gan Huw Evans

Categorïau:

Huw EvansHuw Evans|07:19, Dydd Mercher, 13 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

M a e' r n........os....on wedi >>>>>>>> doooooood i b e n erbyn h y n.

D w i w e di bl i n o.

Reit, digon o hyne. Newydd gwpla ein Unnos cyntaf ag wedi 'joio mas draw'. Yn anffodus mae rhai o'r cerddorion wedi colli'u meddylie nhw'n llwyr. Mae Ed Holden wedi newid ei enw i Wedi Bin a mae Toni Hoax mor flinedig mae'i lygad chwith wedi troi mewn i glustog; tydi Robbie Gwibdaeth ddim i'w weld yn rhy ddrwg ac ma Alex Moller yn cysgu ar lygad Toni Hoax.

Ma nhw wedi llwyddo recordio 3 cân sydd yn swnio'n gyffrous os efallai ychydig yn gracellog (tud 323 o eiriadur yr Academi) ac wedi gorfod rhoi'r gore i'r bedwerydd yn dilyn dadl dros pwy yw gwir berchennog y bensil hud nath Alex ffeindio ar y llawr - hynny a blinder cyffredinol.

Dwi'n mynd i'r gwely nawr.

Unnos da.

Huw

Boddi Unnos wrth y lan...

Categorïau:

Gareth Iwan|07:08, Dydd Mercher, 13 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Dwi nôl, ychydig yn gynt na'r disgwyl oherwydd mae'r criw wedi rhoi'r ffidil yn y to. Gewch chi glywed pam am 10pm heno ar C2 Radio Cymru!!

Tara

Gar

Gorffwys ar lawr y swyddfa

Rhagor o luniau o'r noson

Unnos - 6.41am

Categorïau:

Gareth Iwan|06:41, Dydd Mercher, 13 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Wel, da ni'n agos iawn iawn at y diwedd. Ma na 3 trac allan o'r 4 wedi eu gorffen, a ma Ed a Hoax yn rapio ar yr ola rwan. Croesi bysedd, mi fydda ni wedi cymysgu erbyn 7.30am, ac mi fydd y cwbl ar wefan C2 erbyn 9am. Gobeithio...

Nos da/bore da

Gar

Gorffen Unnos - ma hyn am fod yn agos iawn...

Categorïau:

Gareth Iwan|05:45, Dydd Mercher, 13 Ionawr 2010

Sylwadau (1)

... achos da ni di gorffen 2 gân - wedi eu cymysgu, llosgi ar CD. Mae'r gwaith recordio wedi ei wneud ar y drydydd, ond mae angen cymysgu. Mae'r tracia rhythm (dryms a bâs) i lawr ar y bedwaredd, ond dim rapio. Ma na lai na dwy awr i fynd, a ma pawb di blino.

Gar

Dilynwch ni i'r gwacter...

Categorïau:

Huw EvansHuw Evans|03:44, Dydd Mercher, 13 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Cân gyntaf y sesiwn wedi'w gwbwlhau ac mae'n swnio'n soniarus tu hwnt. Mae hi bellach yn 3:19 a dwi'n dioddef rhyw fath o grash siwgwr difrifol. Ma 'nwylo fi'n ysgwyd mwy na hanner cynulleidfa Noson Lawen a dwi di dechre gweld synnau. Bob tro dwi'n taro botwm ar yr allweddell ma ffrwydriadau amryliw o belydrau wybrennol yn tasgu i bob man, man.

Difyr oedd gweld agweddau'r ddau MC gwahanol at sgwennu gyda Mr Phormula yn sgwennu am y foment ac yn gneud fwy o 'freestyle' tra bo Toni Hoax yn eistedd ac yn pendroni am bron i awr am beth i ganu. Mae esgyrn y ddwy gân arall wedi'w recordio felly tra bod pawb yn penderfynu pa fath o gig i ychwanegu dwi di dod nôl i'r swyddfa i sgwennu blog / gwrando ar Meic Stevens / cal rhithweledigaethau brawychus.

Mwy o siwgwr yw'r ateb, fel nath sawl sgwâr pesimistig ddeud ar ddiwedd 1969, "what goes up..." - gorfod mynd yn uwch i osgoi ddod lawr yndife gw boi.

Llaeth, 4 siwgwr plîs...

Diolch yn fawr

Huw Evans

Unnos - un gân wedi ei chwblhau

Categorïau:

Gareth Iwan|02:24, Dydd Mercher, 13 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Phew, dwi chydig hapusach erbyn hyn. Mae un gân wedi ei gorffen - am 2.20yb. Mae Alex a Robbie wedi rhoi tracia rhythm i lawr ar ddwy arall, felly dwi chydig mwy gobeithiol nag o'n i awr yn ôl.

Da

Gar

Argyfwng Unnos ar ben

Categorïau:

Huw EvansHuw Evans|02:11, Dydd Mercher, 13 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Wedi ffeindio'r record, odd hi yn y bag o dan y mag! Sori Ed...siwpar LOL!!!

Amheuon Unnos...

Categorïau:

Huw EvansHuw Evans|01:43, Dydd Mercher, 13 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

GWIR YN FY AMHEUON...

Dwi ddim yn bod yn paranoid, ma rhywun wedi dwyn un o'n records i, dwi'n siŵr bo nhw wedi, na - dwi'n gwbod bod nhw wedi. Ers dechrau amau Ed am oddeutu 10:09pm dwi wedi bod yn cadw cofnod bob hyn a hyn o ddigwyddiadau mewn-fagiol i neud yn siŵr bod y record dal yn fy mag. Dyma'r 5 cofnod diwethaf:

1:15 - Y record yn fy mag

1:20 - Y record yn fy mag

1:30 - Y record yn fy mag

1:42 - Dim record yn fy mag

1:42 - Mag yn fy mag

Fel allwch chi weld mae rwbeth mawr wedi digwydd rhwng 1:30 a 1:42; y rwbeth dan sylw yw fod record 7" Los Pasos wedi diflannu o'r bag a ma 'na gopi o gylchgrawn Golwg yna yn ei le. Dwi ar hyn o bryd yn ystyried beth yw'r peth gorau i neud, gwynebu Ed a mynnu gwbod y gwir neu aros tan y bore - er bo fi'n poeni am y record dwi hefyd yn amau fod y 6 cwpan o goffi, 2 Kitkat, candy floss a photel o Irn-Bru o bosib yn neud fi ychydig yn afresymol.

O ran y gerddoriaeth ma pethau'n mynd yn dda, y trac cyntaf wedi'w gwbwlhau ac yn swnio'n wych. Gath Toni Hoax chydig o drafferth yn sgwennu geiriau ond mae bellach wedi sgwennu rhai a rhoi nhw ar dâp, a thra bod hyn yn digwydd ma Alex a Robbie di bod yn brysur yn cyfansoddi cân rhif dau. Cyffrous.

Hwn yw'r tro cyntaf i mi gwrdd â Toni Hoax a ma rhaid i mi gyfaddef dwi di cymryd dipyn o shein i'r boi, yn enwedig ei enw... TONI HOAX. Dwi'n meddwl ddylse fe ailystyried ei yrfa fel MC Cymraeg, ymuno â'r Cylch Hud, a dod yn gonsuriwr teledu i S4C. Mae'n hen bryd i ni cal fersiwn dyn tlawd Cymraeg o Darren Brown a dwi'n meddwl mai TONI HOAX di'r boi.



I fynd yn ôl at y gerddoriaeth am eiliad, heb glywed esgyrn yr ail gân ond ma'r gân gyntaf yn swnio fel A Tribe Called Quest ar gwrs Wlpan yn Sbaen yn ymlacio i gerddoriaeth Gabor Szabo tra bod Robbie Gwibdaith yn canu yn y cawod.

Llachar.

Huw

Problem Unnos1

Categorïau:

Gareth Iwan|00:45, Dydd Mercher, 13 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Mae hi'n tynnu at un o'r gloch y bore, a ma petha braidd yn araf ar hyn o bryd. Tydi lwpio'r samplau ddim wedi bod mor hawdd â'r gobaith, felly ar hyn o bryd dim ond samplau + drymia + bâs sydd i lawr ar y gân gyntaf. Mae dal angen rapio + synths. Poeni braidd. Ed yn meddwl bydd rhaid newid y ffordd o weithio a recordio mwy o Robbie ac Alex yn fyw, a dibynnu llai ar samplau. Cawn weld.

Gar

Archeb Chinese Unnos

Categorïau:

Huw EvansHuw Evans|23:13, Dydd Mawrth, 12 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Robbie - king prawn hefo garlleg

Alex - beef curry hefo noodles

Ed - cyw iawr sechuan hefo noodles

Dyl - sweet and sour hefo reis

Tony - king prawn hefo reis

Gareth - curry cyw iar hefo reis

Huw E - cyw iar sechuan hefo reis

Gweddillion y bwyd

Rhagor o luniau o'r noson

Sesiwn Coffi Unnos

Categorïau:

Huw EvansHuw Evans|22:10, Dydd Mawrth, 12 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

"Ie, pot arall o goffi mlaen plîs, a ma Ed angen 100 Freddo bar efo'r caramel di tynnu allan cyn iddo fynd yn agos i'r stiwdio."

Ma pethe'n symyd ymlaen yn reit llyfn yma ym Mangor, fel milgi di lapio mewn sidan yn yfed siocled poeth. Mae'r grŵp wedi rhannu'n ddau efo Robbie ag Alex yn y stiwdio yn paratoi'r offerynnau tra bod Ed a Toni Hoax di bod yn pori trwy 'nghasgliad recordiau yn dewis gwahanol gerddoriaeth i samplo.

Dwi'n rhagweld sŵn rhyngwladol yn datblygu efo'r 'ogia yn cymryd synnau o Ffrainc, Twrci, Siapan, Awstralia, Sbaen ag America. Dwi 'di clywed termau fel 'jump on it', 'slammer', 'fierce' a 'flow' yn cael eu sibrwd rhwng Ed a Toni Hoax, ac er bod gen i ddim syniad am be ma nhw'n siarad mae'r holl beth yn swnio'n gyffrous iawn - yn 'TEW' hyd yn oed.

Well i fi fynd, ma Robbie a Dyl Mei yn dadle dros y scotch egg ola a ma gynnai deimlad fod Ed yn trio dwyn fy records i gyd, er falle bo fi'n bod yn paranoid ar ôl yfed gormod o goffi, ond dwi'm yn meddwl bo fi, ma pawb yn edrych arno fi'n rhyfedd a dwi'n siwr bo fi'n gweld negeseuon mewn teitlau rhai o'r albyms Cymraeg ar y wal yn y llyfrgell sain. Dwi ddim di clywed albwm Delwyn Sion "Ma nhw gyd yn trio dwyn records ti, cer i guddio a bydda'n barod i amddiffyn dy hun mewn unrhyw ffordd posib" ond dwi'n siŵr fod na ambell i gân da arno fe.

Faint or gloch yw e?

...

Huw

Unnos hyd yma

Categorïau:

Gareth Iwan|21:19, Dydd Mawrth, 12 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Wel, ma hi'n 21:19. Be sy di digwydd hyd yma? Wel, fel glywsoch chi gobeithio ar raglen Magi, da ni wedi dechrau!!

Erbyn hyn, mae'r criw wedi torri yn ddau grwp. Mae Ed Holden a Hoax yn y stiwdio fach hefo Huw Evans yn gwrando ar samples - dyna fydd "asgwrn cefn" y traciau. Ar ôl dewis pa samples ma nhw am eu defnyddio, mi fydda nhw yn mynd â'r rheini a'u defnyddio nhw fel "backing tracks" i'r caneuon, ac mi fydd Ed a Hoax yn rapio dros y caneuon, ac Alex yn chwarae'r drymia a Robbie yn chwarae'r bâs. Dyna lle mae Alex a Robbie rwan - yn ymarfer a gwneud profion sain.

Gobeithio fod hynny'n gwneud ryw fath o synnwyr...

Gar

Y criw yn y stiwdio yn siarad gyda Magi

Rhagor o luniau o'r noson

Croeso i Sesiwn Unnos

Categorïau:

Criw C2Criw C2|20:42, Dydd Mawrth, 12 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Mae'r artistiaid wedi cyrraedd ac ar eu ffordd i'r stiwdio...

Dyma Huw Evans yn eu croesawu i'r Sesiwn Unnos gynta - ymgais i gyfansoddi a recordio EP mewn un noson!

Mwy o ddiweddariadau i ddod yn ystod y nos, a chadwch lygad ar y gwegamera yn y stiwdio.

Sesiwn Unnos ar fin cychwyn!!

Categorïau:

Huw EvansHuw Evans|17:45, Dydd Mawrth, 12 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Wedi cyrraedd Bangor ar ôl siwrne unig ar y trên yn darllen Crash gan J G Ballard. O'n i'n falch iawn i gyrraedd ar ôl teimlo'n hun yn ymgolli yn y nofel a dechre dychmygu'r trên yn cal damwain erchyll a fi a'r hen fenyw o 'mlaen i yn cael ein taflu i'r llawr ac yn gorwedd mewn pwll o smoothie, mwg a gwydr di smasho...



Dwi yma i gychwyn gwaith ar gyfres newydd sbon or enw 'Sesiwn Unnos'; da ni'n recordio'r rhaglen gyntaf heno efo Mr Phormula (Ed Holden) a Hoax (Anthony Robinson) o Pentagram a Robbie Buckley (sy ddim yn berthyn i Tim na Jeff) o Gwibdaith Hen Fran.

Cyn i fi egluro be yn union sy'n digwydd yn y gyfres, dyma mae Wikipedia, y ffynhonnell ddwfn o wybodaeth sydd wastad efo un neu ddau o newyddiadurwyr Golwg o'i amgylch yn trio ffeindio allan os mai Mari Lovgreen yw merch Ian Mcshane, i ddeud am dai Unnos...

"It was believed by some, that if a person could build a house on common land in one night, that the land then belonged to them as a freehold. There are other variations on this tradition: that the test was to have a fire burning in the hearth by the following morning; and that the squatter could then extend the land around by the distance they could throw an axe from the four corners of the house."

Felly, yn syml, y syniad yw adeiladu tŷ cerddorol yn y BBC ym Mangor, rhoi'r lle ar dân, taflu bwyell o ddrysau'r prif fynedfa a gweddio i Dduw fod e ddim yn diweddu ym mron un o fyfyrwyr prif ysgol Bangor... neu rwbeth fe'lna.

Mae'r cerddorion yn cyrraedd am 7yh a ma gyno nhw tan 9 y bore i recordio EP o gerddoriaeth gwreiddiol wedi cyfansoddi yma yn HQ darlledu Cymraeg gogleddol y genedl. Syml... falle. Tra bod hyn yn digwydd mi fydd yna rywun hefyd yn creu gwaith celf gwreiddiol i'r EP tra bo fi yn rhedeg ogwmpas yn yfed coffi ag yn gneud cyfweliadau difyr am 4 o'r gloch y bore. Syml eto... falle.

Bob wythnos fe fydd yna gasgliad o gerddorion yma yn cydweithio'n frwd ag yn trio creu EP gwreiddiol fydd yn galluogi nhw i hawlio darn o dir yng ngwlad gwyrdd a ffrwythlon cerddoriaeth cyfoes Gymraeg.

Dwi'n edrych ymlaen yn arw at gychwyn a gweld sut ma pobol yn ymateb i fi'n rhoi meicroffon yn eu gwynebau nhw am 4 o'r gloch y bore tra bo nhw'n trio recordio solo allweddellau am y 43fed take gydag un o'r cerddorion eraill yn gweiddi yn eu gwynebau nhw "JUST PLAY THE NOTE!!!"

Reit, dwi'n mynd i weld sut fath o fwyd sydd yng nghantîn y BBC, os dwi methu cal soya milk decaf machiato ma na fwyellau yn mynd i ddechre hedfan.

Huw Evans, gyferbyn â desg Jonsi, BBC Bangor, Bangor.

Yr Hen a Wyr, Llwybr Llaethog a Dybia.

Daniel Glyn|17:45, Dydd Mawrth, 12 Ionawr 2010

Sylwadau (0)



Felly, 'na lle 'ma pawb yn Nghymru yn penderfynu bod yn gall yn mis Ionawr a chadw'n glir o alcohol, a be sy'n digwydd? I e, dyna ni, thema gerddorol c2 yr wythnos hon yw diodydd. Dwi ar hyn o bryd yn ceisio canolbwyntio ar Ddwr Huw Jones ( ychwangewch bunchline lle bo'r angen). Ond faint fydd hi nes imi ddechrau obsesio am Gwin, Mwg a Merched Drwg Meic Stevens? (gweler y parenthesis uchod)? Byddwch yn gryf Gymru, pwyll pia hi ac yn y blaen. Ar nodyn ysgafnach, fydd hyn yn golygu ein bod yn cael wythnos o'r pop gorau ar c2? Dwi am newid paragraff er mwyn pellhau fy hun o'r gag dwetha.

Phew, na welliant, sori am hyna. Am bump awr o nos Lun i nos Wener mae c2 yn darlledu 23 awr o fwythad clywedol bob wythnos. A dwi ar yr awyr rhwng 11-1 bob Nos Fercher. Ond neb i grio, achos bob wythnos mae 'na westeon arbennig yn dod ag urddas i'r sioe. A'r wythnos hon, mae aelod o'r teulu brenhinol am ddod i'r stiwdio. (Sai'n son am un o'r rhai o Blas Bwcingham, ond yn hytrach 'old skool brenhinol', fel y bachan Llywelyn gath ei killo gan Mary). Mae Tywysog Cynta' cerddoriaeth ddawns a dub , John 'Llwybr Llaethog' Gedru yn galw acw. Llwybr Llaethog oedd y band cynta i doddi fy ymenydd gyda synnau electronig, a dwi wedi bod yn gaeth i synnau gwirion ers hynny. I ddyfynnu y ravers oedd yn dod lawr o'r Cymoedd yn 1991 i ddawnsio i techno "No Vocal, Less Piano, More Bass! (Roedd hyn cyn ffrwydriad yr iaith Gymraeg yn y Cymoedd. 'Dyddiau 'ma 'se nhw'n defnyddio geiriau Cymraeg. 'Dim Focals, Llai o Biano, a Mwy o Fas !).



Felly gwrandewch, 'da chi, a wedyn gwrandewch eto ar yr Iplayer. Fydd e'n sbort.

Dizzee Rascal

Categorïau:

Huw StephensHuw Stephens|17:37, Dydd Mawrth, 12 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Gan obeithio fod y ddegawd newydd wedi bod yn iawn i chi hyd yn hyn. Er bo' fi wedi cwmpo ar fy mhen ôl tra'n dal potel o win (gwyn, diolch byth) ar y ia, mae'n iawn pen yma. Nes i droi yn lysieuwr wthnos dwytha mewn camgymeriad. Nes i anghofio byta cig, ac roedd y profiad yn un pleserus. Nes i ddathlu troi yn lysieuwr drwy fyta ribs eitha anhygoel.

Fi wedi bod yn sefyll mewn i gyflwynwyr sâl ar Radio 1 eitha tipyn eleni, a wedi bod yn gneud rhaglen Zane Lowe yn y nos. Roedd cyd-gyflwyno gyda Dizzee Rascal yn brofiad anhygoel; do'n i erioed yn meddwl fydden i'n dj i Dizzee, un o'r rapwyr gore yn y byd. Ond fi oedd yn chware'r caneuon mewn iddo ac yn 'gollwng y boms' (hei, fi lawr gyda'r lingo hip hop a dim 'whare).

Yn ddiweddar mae dwy fersiwn o ganeuon Super Furry Animals wedi cyrraedd palas C2.

Mae modd clywed fersiwn hyfryd Dileu o Gwreiddiau Dwfn ar fy rhaglen nos Lun wythnos yma, a dyma fersiwn Ysgol Pendalar o Rings Around the World; Cylchoedd Rownd y Byd. Fideo da hefyd!

Adduned Blwyddyn Newydd!

Daniel Glyn|22:11, Dydd Mercher, 6 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Blwyddyn newydd dda! Fy adduned blwyddyn newydd? Blogio'n amlach. Er, wi wastad yn ffindo hwn yn anodd. Se chi'n meddwl 'se arch-falwr fel fi yn ffindo fe'n hawdd,ond os oes un peth sy'n garantid i neud i fy meddwl gymylu, y geiriau 'sgwenna blog' yw hynny.

Fi'n cofio unwaith eistedd mewn stafell llawn comediwyr, y 5 ohonom yn gweithio ar rhaglen sgetsus, y syniadau yn byrlymu, y sgript yn llifo. Daeth dynes mewn i'r stafell, a gofyn i ni arwyddo carden ffarwel ar gyfer aelod o staff oedd yn gadael y cwmni, ac efallai gadael neges bach difyr arni. Oni'n styc am oriau, a'r cyfan lwyddon ni neud oedd gag llipa tu hwnt am y ffaith fod modd odli 'pob lwc' gyda gair amheus.



Ond, wi wedi bod yn meddwl am be i weud yn y blog 'ma, a ma'r ateb yn syml ! Bob wythnos, fel y chi'n gwbod, ma gan C2 thema gerddorol. A hwnna fydd thema fy mlog wythnosol. Y tro 'ma, y thema yw amser. Yn anffodus, sdim amser 'da fi i drafod y peth ymhellach, achos rhaid i mi baratoi ar gyfer sioe heno . Fy ngwestai arbennig yw Ywain Gwynedd, gynt o Frizbee (ma hwnna'n sowndio'n rwd 'fyd). Pidwch poeni os na fedrwch chi aros lan yn hwyr i wrando, gewch chi wrando ar y sioe unrhwybryd chi moen am yr wythnos nesa ar yr Iplayer. Chi'n gweld, ma modd teithio nôl a mlaen trwy amser gyda c2!

hwyl am y tro, a chofiwch, amser a ddengys y mengys.

Jogel.

Dan

Big Brother

Glyn WiseGlyn Wise|19:10, Dydd Mercher, 6 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Blwyddyn newydd dda pawb, mae 2010 yma, felly mae'n amser ar gyfer addunedau blwyddyn newydd. Yn gyntaf - mae rhaid i mi fod yn fwy trefnus felly dwi wedi prynu geiriadur a bob bore rwy'n ei ddarllen - wow mae rhaid i mi gofio ei ddarllen cyn mynd i'r gwely heno.

Adduned arall ydi ceisio cael corff fel Alex Reid neu Bari Goliath o'r Gladiators - 'dio ddim yn mynd i ddigwydd nachdi?! Ond mi gefais 'spikes' rhedeg fel anrheg Nadolig sydd yn fy rhoi ar y trywydd iawn.



Sôn am Alex Reid, mae o yn un o'r 11 ymgeisydd yng nghystadleuaeth Celebrity Big Brother ,sydd am fy niddori am y 27 diwrnod nesaf.

Mae'r themâu 'uffern' yn wych, ar tŷ yn isel ac yn gul. Y seren mwyaf adnabyddus yw'r actor a chyn bêl-droediwr Vinnie Jones, sy'n gwneud i mi gwestiynu pam ei fod o yno?

Yn fy marn i, mae pawb arall bron yn 'Has-been' fel Sisqo, Lady Sovereign, Dane Bowers ar actores Stephanie Beecham. Hefyd yn eu mysg mae merch o'r enw Katia cyn-gariad Ronnie Woods - ydi hyn yn gwneud ti'n seleb? Na, er hyn mae'r ferch yn gwneud i mi chwerthin, ond fydd rhaid iddi wneud rhywbeth mawr i ddenu sylw'r gynulleidfa oherwydd does neb yn hoff o rhywun sy'n achosi tor- priodas.

Cofiwch mae'r Big Brother olaf eleni, a mi fyddaf yn helpu'r cynhyrchwyr i ddewis cymeriadau gwyllt a gwirion i gymryd rhan. Felly, os ydych chi awydd ymddangos yn BB11, dewch lawr i'r CIA yng Nghaerdydd ar y 22ain.



Dyna ni am rwan, edrych ymlaen i wneud y rhaglen heno gyda Magi Dodd. Hwyl am y tro.

Glyn xx

Gohirio Rhaglen Unnos

Categorïau:

Criw C2Criw C2|13:04, Dydd Mawrth, 5 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Helo bawb

Dwi'n sgwennu'r blog yma o adre, yn hytrach nac o'r swyddfa, gan ein bod wedi gorfod gohirio y gyntaf yn y gyfres Sesiynau Unnos oherwydd yr eira mawr yma yn y gogledd. Mae'n dipyn o siom, ond hefo Cowbois a Twm Morus yn dod o Ben Llyn, a'r criw sain yn dod o Bethesda, a finna yn Sir Fon, mi oedd hi'n ormod o risg. Felly, mi fydd y gyntaf yn y gyfres yn mynd allan wythnos nesa hefo dipyn o lwc.

Ymddiheuriadau

Gar

ps yn lle Sesiynau Unnos, mi fydd na Hen Bethe Crwn arbennig - a'r thema fydd y Gaeaf!!!

Nôl yn y stiwdio - am wythnos!

Hefin ThomasHefin Thomas|12:21, Dydd Mawrth, 5 Ionawr 2010

Sylwadau (1)

Blwyddyn newydd dda! Gobeithio gawsoch chi Nadolig wrth eich bodd a'ch bod chi heb dorri eich addunedau yn barod (dwi'n nabod sawl un sydd wedi!).



Odd hi'n od bod nôl yn y stwidio wedi'r Nadolig yn enwedig o glywed y newyddion trist am farwolaeth un o fawrion y genedl, Hywel Teifi Edwards ar nos Lun. Pob cydymdeimlad i'w deulu a'i ffrindiau - mawr fydd y golled ar ei ôl yn sicr.

Cerddoriaeth newydd gafodd sylw ar fy rhaglen cyntaf o'r Arddegau (fy enw di ddychymyg i ar gyfer y ddegawd newydd). Roedd yn braf i groesawu Iwan England ac Esyllt Williams i'r stiwdio i adolygu EP newydd gan un o fandiau newydd mwya cyffrous Cymru, Masters in France (Nagazaki) ac albym gysyniadol, amlgyfrannog, hir-ddisgwyliedig ac uchelgeieiol Docfeistr. Gallwch chi wrando nôl ar yr adolygiadau ar yr IPlayer yma.

Dylan Ebeneser sydd i fewn heno - noson chwaraeon ar C2 fel arfer ar nos Fawrth. Edrych mlaen i glywed Sgorgasms o gemau'r wyl ac i weld sut nath Ebzi wneud wrth ddarogan y gemau dros y Dolig.



Mi fyddai i i ffwrdd am bythefnos wedi heno ond wnai'ch gadael chi yn nwylo saff Owen Powell tra bo fi bant. Welai chi cyn hir!

Hef

xxx

Rhaglen newydd dros nos ar C2

Categorïau:

Criw C2Criw C2|09:11, Dydd Llun, 4 Ionawr 2010

Sylwadau (0)

Blwyddyn newydd dda bobol!

'Nol yn y gwaith, ac yn ol yn ei chanol hi yn syth... Nos Fercher yma ma na gyfres newydd yn dechrau ar C2, sef "Sesiynau Unnos C2". Y syniad ydy y bydd rhai o artistiaid amlycaf Cymru yn cyfansoddi, recordio a rhyddhau EP mewn noson! Mi fydd y grwpiau yn cyrraedd am 6pm nos Fawrth, a'r gobaith ydy y bydda nhw wedi sgwennu a recordio pedair can erbyn 8am y bore wedyn. Ar y nos Fercher am 10pm, mi fydd Huw Evans yn cyflwyno rhaglen yn rhoi hanes y noson...

Y grwp fydd wrthi ar gyfer y rhaglen gyntaf fydd Cowbois Rhos Botwnnog, yn cyd-weithio hefo Twm Morus. Mi fedrwch chi glywed sut hwyl ma nhw'n ei gael ar raglenni Magi a Hefin nos fory, a cofiwch wrth gwrs am y rhaglen fydd yn rhoi hanes y noson am 10pm nos Fercher. Mi fydda ni fel criw, a'r bandia, hefyd yn blogio yn fama, ac mi fydd na we-gamera yn y stiwdio i chi gael gweld y bandia wrthi!

Cofion

Gar