« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Dizzee Rascal

Categorïau:

Huw StephensHuw Stephens|17:37, Dydd Mawrth, 12 Ionawr 2010

Gan obeithio fod y ddegawd newydd wedi bod yn iawn i chi hyd yn hyn. Er bo' fi wedi cwmpo ar fy mhen ôl tra'n dal potel o win (gwyn, diolch byth) ar y ia, mae'n iawn pen yma. Nes i droi yn lysieuwr wthnos dwytha mewn camgymeriad. Nes i anghofio byta cig, ac roedd y profiad yn un pleserus. Nes i ddathlu troi yn lysieuwr drwy fyta ribs eitha anhygoel.

Fi wedi bod yn sefyll mewn i gyflwynwyr sâl ar Radio 1 eitha tipyn eleni, a wedi bod yn gneud rhaglen Zane Lowe yn y nos. Roedd cyd-gyflwyno gyda Dizzee Rascal yn brofiad anhygoel; do'n i erioed yn meddwl fydden i'n dj i Dizzee, un o'r rapwyr gore yn y byd. Ond fi oedd yn chware'r caneuon mewn iddo ac yn 'gollwng y boms' (hei, fi lawr gyda'r lingo hip hop a dim 'whare).

Yn ddiweddar mae dwy fersiwn o ganeuon Super Furry Animals wedi cyrraedd palas C2.

Mae modd clywed fersiwn hyfryd Dileu o Gwreiddiau Dwfn ar fy rhaglen nos Lun wythnos yma, a dyma fersiwn Ysgol Pendalar o Rings Around the World; Cylchoedd Rownd y Byd. Fideo da hefyd!