Adduned Blwyddyn Newydd!
Blwyddyn newydd dda! Fy adduned blwyddyn newydd? Blogio'n amlach. Er, wi wastad yn ffindo hwn yn anodd. Se chi'n meddwl 'se arch-falwr fel fi yn ffindo fe'n hawdd,ond os oes un peth sy'n garantid i neud i fy meddwl gymylu, y geiriau 'sgwenna blog' yw hynny.
Fi'n cofio unwaith eistedd mewn stafell llawn comediwyr, y 5 ohonom yn gweithio ar rhaglen sgetsus, y syniadau yn byrlymu, y sgript yn llifo. Daeth dynes mewn i'r stafell, a gofyn i ni arwyddo carden ffarwel ar gyfer aelod o staff oedd yn gadael y cwmni, ac efallai gadael neges bach difyr arni. Oni'n styc am oriau, a'r cyfan lwyddon ni neud oedd gag llipa tu hwnt am y ffaith fod modd odli 'pob lwc' gyda gair amheus.
Ond, wi wedi bod yn meddwl am be i weud yn y blog 'ma, a ma'r ateb yn syml ! Bob wythnos, fel y chi'n gwbod, ma gan C2 thema gerddorol. A hwnna fydd thema fy mlog wythnosol. Y tro 'ma, y thema yw amser. Yn anffodus, sdim amser 'da fi i drafod y peth ymhellach, achos rhaid i mi baratoi ar gyfer sioe heno . Fy ngwestai arbennig yw Ywain Gwynedd, gynt o Frizbee (ma hwnna'n sowndio'n rwd 'fyd). Pidwch poeni os na fedrwch chi aros lan yn hwyr i wrando, gewch chi wrando ar y sioe unrhwybryd chi moen am yr wythnos nesa ar yr Iplayer. Chi'n gweld, ma modd teithio nôl a mlaen trwy amser gyda c2!
hwyl am y tro, a chofiwch, amser a ddengys y mengys.
Jogel.
Dan
Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.