« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Big Brother

Glyn WiseGlyn Wise|19:10, Dydd Mercher, 6 Ionawr 2010

Blwyddyn newydd dda pawb, mae 2010 yma, felly mae'n amser ar gyfer addunedau blwyddyn newydd. Yn gyntaf - mae rhaid i mi fod yn fwy trefnus felly dwi wedi prynu geiriadur a bob bore rwy'n ei ddarllen - wow mae rhaid i mi gofio ei ddarllen cyn mynd i'r gwely heno.

Adduned arall ydi ceisio cael corff fel Alex Reid neu Bari Goliath o'r Gladiators - 'dio ddim yn mynd i ddigwydd nachdi?! Ond mi gefais 'spikes' rhedeg fel anrheg Nadolig sydd yn fy rhoi ar y trywydd iawn.



Sôn am Alex Reid, mae o yn un o'r 11 ymgeisydd yng nghystadleuaeth Celebrity Big Brother ,sydd am fy niddori am y 27 diwrnod nesaf.

Mae'r themâu 'uffern' yn wych, ar tŷ yn isel ac yn gul. Y seren mwyaf adnabyddus yw'r actor a chyn bêl-droediwr Vinnie Jones, sy'n gwneud i mi gwestiynu pam ei fod o yno?

Yn fy marn i, mae pawb arall bron yn 'Has-been' fel Sisqo, Lady Sovereign, Dane Bowers ar actores Stephanie Beecham. Hefyd yn eu mysg mae merch o'r enw Katia cyn-gariad Ronnie Woods - ydi hyn yn gwneud ti'n seleb? Na, er hyn mae'r ferch yn gwneud i mi chwerthin, ond fydd rhaid iddi wneud rhywbeth mawr i ddenu sylw'r gynulleidfa oherwydd does neb yn hoff o rhywun sy'n achosi tor- priodas.

Cofiwch mae'r Big Brother olaf eleni, a mi fyddaf yn helpu'r cynhyrchwyr i ddewis cymeriadau gwyllt a gwirion i gymryd rhan. Felly, os ydych chi awydd ymddangos yn BB11, dewch lawr i'r CIA yng Nghaerdydd ar y 22ain.



Dyna ni am rwan, edrych ymlaen i wneud y rhaglen heno gyda Magi Dodd. Hwyl am y tro.

Glyn xx