Yr Hen a Wyr, Llwybr Llaethog a Dybia.
Felly, 'na lle 'ma pawb yn Nghymru yn penderfynu bod yn gall yn mis Ionawr a chadw'n glir o alcohol, a be sy'n digwydd? I e, dyna ni, thema gerddorol c2 yr wythnos hon yw diodydd. Dwi ar hyn o bryd yn ceisio canolbwyntio ar Ddwr Huw Jones ( ychwangewch bunchline lle bo'r angen). Ond faint fydd hi nes imi ddechrau obsesio am Gwin, Mwg a Merched Drwg Meic Stevens? (gweler y parenthesis uchod)? Byddwch yn gryf Gymru, pwyll pia hi ac yn y blaen. Ar nodyn ysgafnach, fydd hyn yn golygu ein bod yn cael wythnos o'r pop gorau ar c2? Dwi am newid paragraff er mwyn pellhau fy hun o'r gag dwetha.
Phew, na welliant, sori am hyna. Am bump awr o nos Lun i nos Wener mae c2 yn darlledu 23 awr o fwythad clywedol bob wythnos. A dwi ar yr awyr rhwng 11-1 bob Nos Fercher. Ond neb i grio, achos bob wythnos mae 'na westeon arbennig yn dod ag urddas i'r sioe. A'r wythnos hon, mae aelod o'r teulu brenhinol am ddod i'r stiwdio. (Sai'n son am un o'r rhai o Blas Bwcingham, ond yn hytrach 'old skool brenhinol', fel y bachan Llywelyn gath ei killo gan Mary). Mae Tywysog Cynta' cerddoriaeth ddawns a dub , John 'Llwybr Llaethog' Gedru yn galw acw. Llwybr Llaethog oedd y band cynta i doddi fy ymenydd gyda synnau electronig, a dwi wedi bod yn gaeth i synnau gwirion ers hynny. I ddyfynnu y ravers oedd yn dod lawr o'r Cymoedd yn 1991 i ddawnsio i techno "No Vocal, Less Piano, More Bass! (Roedd hyn cyn ffrwydriad yr iaith Gymraeg yn y Cymoedd. 'Dyddiau 'ma 'se nhw'n defnyddio geiriau Cymraeg. 'Dim Focals, Llai o Biano, a Mwy o Fas !).
Felly gwrandewch, 'da chi, a wedyn gwrandewch eto ar yr Iplayer. Fydd e'n sbort.
Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.