Henffych bobol hyfryd Cymru a chroeso i fyd hudol Unnos
Dwi'n trio canolbwyntio ar sgwennu blog ond ma Dyl Mei yn gweud jôcs yn y cefndir sa'n codi ofn ar Angharad Mair.
Mr Huw yw ein artist arbennig yr wythnos yma a ma' na gymorth yn dod o gyfeiriad mabwys-fab Gwlad yr Iâ Dilwyn Llwyd o'r grŵp Yucatan.
Ar hyn o bryd ma na guriad glam anferthol yn dod o'r stiwdio, ac yn crynu 'mhedwerydd coffi a la Jurassic Park. Wythnos yma cafodd y gwesteion ddewis thema, a ma nhw wedi dewis y thema Natur Wyllt, sy'n weddol agored i wahanol ddehongliadau. Dwi wedi ymgymryd mewn gwledd o siwgwr mewn sawl gwahanol ffurf ac yn ffeindio hi'n anodd sgwennu efo unrhyw fath o lif naturiol.
Ma pob dim yn dod allan fel rhestr o frawddegau di-gyswllt. Nes i gofio troi'r ffwrn i ffwrdd? Odd y siwrne trên braidd yn ddiflas. Nes i gofio bwydo'r ci?
Dwi am fentro i'r stiwdio mewn 5 munud i glywed sut siâp sydd ar bethau, dymunwch lwc i mi...

Y newyddion diweddaraf am gerddoriaeth, gigs, artistiaid a mwy gan griw C2.