« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Unnos2: press-ups a bechdan menyn a siwgr

Categorïau:

Huw EvansHuw Evans|21:03, Dydd Mawrth, 19 Ionawr 2010

Unnos 2 ar fin cychwyn a dwi'n barod i fynd.

Huw Evans

Rhagor o luniau o'r noson

Dwi di gwneud 3 press-up a byta bechdan menyn a siwgwr a dwi'n ysu i fynd o dan drwyn Geraint Lovgreen a'i alw o'n Steve Eaves trwy'r nos.

Geraint a Iwan Llwyd 'di bod yma ers rhyw ddwy awr bellach; ma gynon nhw ddarn o bapur sy'n llawn englynion a ma gan Lovgreen glamp o biano mawr trydanol efo'r nodau di sgwennu ar yr allweddellau a phob dim. Ma Lisa Jên newydd gyrraedd efo'i harmonium, glockenspiel a llygaid llo mawr brown sy'n sugno chi fewn i waelodion ei henaid.

Rhaglen wythnos yma'n mynd i fod yn hollol wahanol i un wythnos ddiwethaf ym mhob ffordd posib, yn un peth dwi'n amau'n fawr newn ni glywed Iwan Llwyd am 5 y bore'n gweud "O man, ma pen fi'n hollol mashed".

O.N. Ma gwyneb Geraint Lovgreen fel castell.

Hwyl

Huw Evans