« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Twin Town 2

Daniel Glyn|13:07, Dydd Iau, 28 Ionawr 2010

Glywsoch chi hwnna? Y sgwrs ges i 'da William Thomas (Bryn Cartrwright Twin Town). Na fi chwaith, oni mor 'star struck' sai'n cofio gair wedes i. Diolch byth felly am yr iplayer,

dwi wrthi yn gwrando 'nôl ar y seboni amlwg oedd yn dod o'n ngheg. Oni'n gwneud fy ngorau i osgoi y cwestiwn ystradebol am Twin Town 2. Ond odd ddim angen imi boeni, mi ganodd Mr Thomas fel canari. Script bron yn barod ar gyfer Twin Town 2? Fama glywsoch chi e gynta'.

Thema gerddorol yr wythnos hon yw pethau 'se chi'n gweld yn yr archfarchnad. Diolch o galon i'r person a awgrymodd 'Dale Winton' ar dudalen FB C2 BBC Radio Cymru. Doniol iawn, syth i'r LOLfa. Yn dechnegol, 'se chi'n medru gofyn am unrhyw gân, gan bod archfarchnadoedd nawr yn gwerthu cd's, ac maent i'w gweld yn glir, fel arfer wrth ymyl y gemau cyfrifiadurol. Unwaith eto, y corfforaethau mawr yn sbwylio ein hwyl. Ond wi'n siwr fedrwch chi neud yn well.

Cofiwch am y FB

Tair mil tair mil, ymlaen i'r fileniwm.

Dan