Helpu eraill
Mae cryn sylw wedi cael ei roi yn ddiweddar i weithgareddau clybiau a chefnogwyr pêl-droed i godi arian neu i wella cyfleusterau yn eu cymunedau.
Aeth clwb pêl-droed Blackpool ati i ymateb i gais gan ddisgybl ysgol gynradd leol a oedd yn awyddus i helpu rheolwr tîm ieuenctid y clwb, Gary Parkinson, sydd yn wael yn yr ysbyty.
Derbyniwyd cefnogaeth fawr gan y rheolwr Ian Holloway ac aelodau o'r tîm wrth iddynt ymweld â'r ysgol i helpu yn yr achos yma.
Mae gwaith Craig Bellamy, wrth sefydlu mudiad y 'Craig Bellamy Foundation', ynghyd â mudiad 'Right to Dream' i helpu a gwella cyfleusterau ar gyfer yr ifanc yn Sierra Leone hefyd yn enghraifft o'r hyn mae sêr y gêm yn ei wneud dramor.
Ond nid clybiau a chwaraewyr ydi'r unig rai i fynd ati i helpu eraill.
Cafodd mudiad Gôl ei sefydlu gan grŵp o gefnogwyr pêl-droed Cymru a oedd yn awyddus i wneud gwahaniaeth i'r gymuned leol yn Baku, Azerbaijan wrth iddynt ddilyn y tîm cenedlaethol yno beth amser yn ôl.
Ymwelwyd â nifer o gartrefi plant yn Baku gan roi anrhegion, yn ogystal â rhoddion ariannol iddynt a gafodd eu casglu gan gefnogwyr Cymru.
Mae Gôl wedi ehangu o'r cychwyn yn Azerbaijan gan geisio cynorthwyo pobl ifanc - o wahanol gefndiroedd a sefyllfa gymdeithasol a meddygol -mewn gwledydd eraill sydd â chysylltiad â phêl-droed Cymru.
Maent yn cynnig cymorth ariannol a threfnu gweithgareddau fydd yn eu helpu i ddatblygu eu sgiliau ac yn eu galluogi i gymryd rhan mewn cymdeithas fel unigolion annibynnol, aeddfed a chyfrifol.
Mae Cwpan y Byd wedi ei drefnu gan fudiad y digartref er mwyn cyfleodd i'r rhai sydd heb gartref ar draws y byd.
Sefydlwyd elusen gan Tottenham Hotspur i wella ansawdd bywyd yr ardal leol yn Haringey yn Llundain yn ogystal â chyllido cartref i blant amddifad ym mhentref Rustenberg yn Ne Affrica, gyda'r chwaraewyr yn cyfrannu yn uniongyrchol wrth dalu dirwyon pêl-droed yn syth i gronfa'r elusen yma.
Yma yng Nghymru fe aeth tîm pêl-droed Y Seintiau Newydd i agor canolfan chwaraeon newydd yn ysgol uwchradd Llanfyllin yn ddiweddar tra mae clybiau Dinas Caerdydd a Bae Colwyn hefyd yn amlwg o fewn eu cymuned yn trefnu gweithgareddau ar gyfer y gwahanol grwpiau o bobl ifanc yr ardal.
Mae cefnogwyr tîm cenedlaethol Cymru, yn eu teithiau ar hyd a lled Ewrop a chlybiau megis Dinas Caerdydd, Y Seintiau Newydd a Bae Colwyn, yn lleol, eisoes wedi gosod marc safon a dangos beth sydd yn bosibl.
Os oes yna weithgareddau sydd yn gwella ansawdd eich cymuned yn digwydd yn eich ardal chi, yna cysylltwch, a gadewch inni wybod amdanynt.

Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 