Edrych dramor?
Does dim terfyn ar bynciau trafod yn ymwneud â Chymru'r dyddiau yma.
Ar ôl y stŵr o drafod ble i chwarae'r gêm yn erbyn Lloegr, bydd penodiad rheolwr newydd ar ein tîm cenedlaethol hefyd yn sicr o fod yn bwnc llosg.
Y diweddaraf i gael ei gysylltu gyda'r swydd ydi Lars Lagerback, cyn rheolwr Sweden a Nigeria.
Mae ganddo brofiad o arwain Sweden i rowndiau terfynol Ewro 2000, 2004 a 2008, yn ogystal â mynd â nhw i rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn 2002 a 2006.
Fe hefyd oedd rheolwr Nigeria yng Nghwpan y Byd a gafwyd eu cynnal yn Ne Affrica'r Haf diwethaf.
Mae yna farn y dylid penodi rhywun sydd ag adnabyddiaeth dda o bêl-droed rhyngwladol, ac un sydd wedi cael profiad o reoli ar y lefel yma yn barod.
Roedd John Toshack yn brofiadol fel rheolwr ar y cyfandir, ond fel rheolwr clybiau yn Sbaen.
Ai dyma'r amser i symud gam ymhellach a defnyddio profiad rhywun sydd eisoes wedi rheoli tramor, ar lefel rhyngwladol, er mwyn ceisio cyflawni'r nod o gyrraedd rowndiau terfynol Pencampwriaethau Ewrop neu Gwpan y Byd yn y dyfodol?
Ar y llaw arall, a ddylid penodi rhywun sydd yn Gymro ac sydd yn adnabod ac yn gyfarwydd ag anghenion pêl-droed Cymru ?
Beth yw eich barn?
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 
SylwadauAnfon sylw
Mae angen Cymro yn sicr ac mae digon o ddewis safonol.
Beth am Speed, Coleman, neu Pulis?
Does gan Speed a Pulis dim diddordeb, Coleman bosib, Glyn, buaswn wrth fy modd cael Cymro yn ein harwain, rwyf wedi mynd mor negyddol dyddiau yma, dim ots genai pa wlad maen dod.