Cefnogi Cymru
Unwaith eto - penderfyniad yn ymwneud a pheldroed, ffrae ac anghytuno, a'r hyn sydd wedi codi gwrychyn llawer o gefnogwyr Cymru y tro yma ydi lleoliad y gem ryngwladol rhwng Cymru a Lloegr mis Mawrth nesaf.
Cafwyd cyhoeddiad swyddogol gan Gymdeithas Beldroed Cymru yr wythnos diwethaf yn cadarnhau mai ar Stadiwm y Mileniwm fydd y gem, ond daeth hyn ond i esgor ar gwyno gan griw o gefnogwyr yn credu mai, yn eu barn hwy, ar Stadiwm Dinas Caerdydd y dylid cynnal y gem. Pam ar wyneb y ddaeaer sydd angen chwarae'r gem yma mewn stadiwm cyfyngiedig ei maint, pan mae cymaint o Gymry yn edrych ymlaen am gael cyfle i gefnogi eu gwlad mewn gem a allasai fod yn enedigaeth ar ddyfol newydd?
Mae'n wir nad yw gobeithio Cymru o orffen yn ail, ( heb son am fod ar frig y grwp) yn un realistig erbyn hyn, ond erbyn mis Mawrth nesaf, bydd rheolwr newydd yn ein harwain, ac os bydd pob chwaraewr yn holliach, fe ddylid cael carfan eithaf cryf ac a fyddai yn rhoi arwydd o'r hyn y gellir ei ddisgwyl o dan ofal olynydd John Toshack.
Yn anffodus, ymddengys fod gan Cymru rhyw garfan o gefnogwyr sydd yn ymddangos fel petaent yny styried eu hunain fel rhyw grachach elitaidd,- y math o berson a gafwyd ei bortreadu yn un o sgets Harry Enfield ers talwm - ' Allai ddim helpu sylweddoli fy mod i yn llawer pwysicach na chi!', ie, rhyw freintiedig rai sydd wedi cael eu hunan- eneinio ( neu gan Dewi Sant o bosib) i gefnogi Cymru, ac yn sgil hynny, yn ymddangos fel pe baent yn edrych i lawr eu trwynau ar y gweddilkl ohonom, sydd ddim mor ffodus o gael y cyfle i ddilyn Cymru i bob gwlad, ac ar gyfer pob gem.
Tydy'r crach yn ffodus eu bod mewn sefyllfa o allu gwneud hyn! Mi fyddai llawer un arall yn hoffi gwneud yr un peth petae eu sefyllfa yn wahanol! Gorau Cymro, Cymro oddi cartref efallai, yn enwedig y rhieni sydd yn barod i deithio i Azerbajan , Albania neu hyd yn oed Abu Dhabi petae rhaid!
Mae'n hen bryd inni sylweddoli fod cefnogwyr yn dod o wahanol gefndiroedd cymdeithasol ao o wahanol diwylliant - gan gynnwys y rhai sydd yn ddigon ffodus i allu teithio, a'r rhai sydd yn gallu gweld Cymru adref, ond na all deithio i Gaerdydd ar nos Wener neu ganol wythnos chwaith.
Y peth pwysicaf ydi sicrhau fod cefnogwyr yn troi i fyny i'r gemau, ble bynnag y byddant yn cael eu chwarae ac yn dangos undod fel Cymry, a rhoi gorau i'r clegar hurt a hunanol, gan wneud yr un peth yr ydym wedi dysgu ei wneud dros y blynyddoedd, - byw mewn gobaith!
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 
SylwadauAnfon sylw
Glyn, Rwyt yn nabod rwy’n sydd yn meddwl hyn? Rwyf yn gwylio Cymru adre a dramor ers blynyddoedd a buaswn wrth fy modd bod yn Stadiwm y Mileniwm efo 70000 mil o bobl, sydd yn wirioneddol angen Cymru ennill, dim dod i weld Lloegr,
Mae llawer o gefnogwyr Pêl droed yn teithio i Lerpwl, Manceinion, Leeds a hyd yn oed Lundain unrhyw ddiwrnod o’r wythnos. Ond teithio i wylio Cymru na, hawdd eistedd adre.
Pan fydd gêm fawr yng Nghaerdydd fydd ffôn fi ddim yn stopio, pawb yn holi am docyn.
Ti gwybod beth wnâi helpu nhw, ond yndi mai o wneud fi feddwl pam y gêm yma. Mae croeso i rwy’n gwylio Cymru ac mae pawb yn dechrau rhywle, ond cyntaf mae canlyniadau yn sâl , yn nol wnânt nhw i wylio eu clybiau
Angen y gêm mewn stadiwm lai roeddwn, am fod fi ddiniwed wyrech yn meddwl buasai cyfle gwell i ennill y gêm.
Fodd bynnag Glyn pa wlad bydd angen chi ennill, achos uchafbwynt y degawd diwethaf chi roedd Lloegr a Groeg.
glyn, mae dy stori di llawn materion anghywir, fydd na ond chwarter or 70 mil yn dod i gefnogi cymru,bydd y gweddil yn dod i wylio lloewgr,beth am y 70 mil am bwlgaria,neu swistir,dwi m yn meddwl,well ti ail gysidro ,mae y cefnogwyr wir yn dod i wylio y rhain,,felly mae r hawl iddyn nhw dweud eu barn !!