Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Wythnos ryfedd i Gaerdydd ac Abertawe

Categorïau:

Glyn Griffiths|14:55, Dydd Gwener, 12 Tachwedd 2010

Roedd 'na ddigon o heip bnawn Sul wrth i'r Elyrch godi gobeithion eu cefnogwyr a dangos eu bod hwythau, fel clwb y brifddinas, yn ddigon da i gael eu hystyried fel tîm sydd yn brwydro am le yn Uwchgynghrair Lloegr.

Ond och a gwae! Daeth nos Fercher, ac wrth imi eistedd yn Stadiwm Liberty yn gweld Abertawe yn cwympo yn erbyn Bristol City, anodd oedd credu mai dyma oedd y tîm a chwalodd eu cymdogion dridiau yn gynt ag sydd yn meddu ar un o amddiffynfeydd gorau'r Bencampwriaeth.

Doedd pethau fawr gwell yn Reading - gyda gôl Jay Bothroyd yn achub y dydd i Gaerdydd, ond honno yn cael ei hamau o fod yn un ddilys.

Ond dyna ni, penderfyniad y dyfarnwr sydd yn cyfrif, ac os bydd y gôl yma yn allweddol wrth sicrhau y bydd Caerdydd yn dyrchafu, pwy sydd angen technoleg mewn gemau onid e?!

Dim ond pam mae rheolwr yn cael ei enwi fel rheolwr y mis, a blaenwr - Bothroyd - yn derbyn y clod fel chwaraewr y mis mae canlyniadau annisgwyl yn digwydd!

Ond mae Dave Jones wedi gosod sylfeini cadarn a gobeithiol ar gyfer gweddill y tymor a tybed a fydd y clwb yn gallu ac yn barod i'w gefnogi ym mis Ionawr pan gaiff gyfle i gryfhau'r garfan?

Ond ar ddiwedd wythnos o anghysondeb, ydi'r ddau dîm o Dde Cymru yn wir ymgeiswyr i gael dyrchafiad eleni, neu rith o fawredd cam arweiniol sydd ar y gweill?

Wedi dweud hynny,' un wennol na wna wanwyn' medda nhw, os felly, ai gwennol annisgwyl oedd perfformiadau siomedig ganol wythnos?

Bydd y gemau sydd i ddod yn gallu ein harwain yn fuan tua'r ateb!

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.