Gwahodd hen ffrindiau?
Penwythnos Cwpan Cymru, ac fe fydd y deiliaid Bangor yn deisio cadw gafael ar y gwpan am y bedwaredd tymor yn olynol.
Mae'n debyg mai'r gêm fwyaf diddorol ydi honno ar y Gnoll, ble mae Castell-nedd yn wynebu'r Rhyl.
Siom oedd sylweddoli nad oedd y Rhyl yn gymwys i chwarae yn Uwchgynghrair Cymru eleni, ond mae eu canlyniadau hyd yn hyn, yn y Gynghrair Undebol yn awgrymu eu bod ar y trywydd iawn i ddychwelyd.
Siom hefyd ydi tymor Castell Nedd wedi bod yn yr Uwchgynghrair hyd yn hyn o ystyried eu gobeithion dros yr Haf.
Pan gafodd Lee Trundle ei arwyddo roedd llawer yn meddwl fod hyn am esgor ar dymor fythgofiadwy iddynt. Nid felly mae wedi bod, ac mae Cwpan Cymru, o bosib, yn cynnig gwell llwybr i Ewrop iddynt nac yw'r Uwchgynghrair ar hyn o bryd.
A son am lwybrau i Ewrop, does yr un ffordd y gall unrhyw un o brif dimau Cymru ddarganfod taith i'r cyfandir drwy gyfundrefn pêl-droed eu gwlad.
Tra mae'r sylw yn troi at y gêm ddarbi fawr rhwng Caerdydd ac Abertawe y Sul yma, gyda gobaith am ddyrchafiad i Uwchgynghrair Lloegr yn bodoli i'r dau dîm, serch hynny, er y byddai cyfoeth yr Uwchgynghrair ar gael iddynt petai llwyddiant ar ddiwedd y tymor, 'dwi ddim yn rhy siwr os y byddant yn gymwys i gynrychioli Lloegr yn Ewrop petai'r llwyddiant yn parhau i'r dyfodol.
Mae'n hen gŵyn gen i ond alla'i ddim ddeall o gwbwl pam na all pob tîm yng Nghymru gystadlu yng Ngwpan Cymru. A oes yna unrhyw wlad arall yn Ewrop sydd yn rhwystro timau o fewn eu gwlad eu hunain rhag cystadlu ar lwyfan cyfandirol?
Oni fyddai delwedd pêl-droed Cymru yn llawer mwy positif petai Caerdydd neu Abertawe yn cystadlu yng Nghynghrair Europa ?
Mae'n hen bryd i'r drefn gael ei ail-strwythuro gan groesawu cynhwysiant Caerdydd, Abertawe, Casnewydd, Wrecsam a hefyd Bae Colwyn i'r Gwpan, ac ymestyn iddynt yr un hawl ac sydd yn cael ei gynnig i bob clwb o fewn awdurdod Cymdeithas Bêl Droed Cymru.
Wn i ddim beth ydi barn a sefyllfa swyddogol y Gymdeithas Bêl Droed - diddorol fyddai cael gwybod. Wedi'r cwbwl, fe gafwyd tîm o Loegr, sef Y Seintiau Newydd yn cynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Cynghrair Pencampwyr Ewrop ar ddechrau'r tymor!
Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 