Help / Cymorth
« Blaenorol|Hafan|Nesaf »

Rooney'n un o blant Thatcher

Glyn Griffiths|15:07, Dydd Mawrth, 26 Hydref 2010

Ar ôl yr holl heip, mae pawb yn hapus, a tydi Wayne Rooney wedi gwneud dim o'i le.

Heblaw hwyrach am ofyn am grocbris fel cyflog ar adeg pan mae llywodraeth y wlad yn torri budd-daliadau, lleihau gwariant cyhoeddus a sicrhau y bydd miloedd o bobl yn colli eu swyddi.

Syr Alex a Ferguson a Wayne Rooney

Ond Rooney a'i debyg ydi'r bai am hyn oll, petaech yn gwrando ar bobl o'ch cwmpas - nid y bancwyr, nac aelodau seneddol, na buddsoddwyr ariannol, nac hyd yn oed y llywodraeth flaenorol.

Rooney ydi'r drwg yn y caws.

Wrth gwrs, os caiff Wayne gyflog o ryw £200,000 yr wythnos, bydd y llywodraeth wrth eu bodd, yn tynnu allan 50% fel treth ac yn diolch yn fawr iddo am gyfraniad helaeth at gyllid y wlad yn wythnosol.

Ydi'n wir, tydi moesoldeb o unrhyw fath ddim yn cael unrhyw ystyriaeth? Waeth heb inni heb a digalonni am gyflog athro mewn ysgol galed ddinesig, neu wasanaethwyr yn y byd meddygol cyhoeddus, llawer haws lladd ar bêl-droedwyr a chwyno nad ydi pethau fel ag yr oeddynt.

O ble mae Rooney yn dod yn gofyn am y fath gyflog? Mae llawer o'r pêl-droedwyr cyfoes wedi cael eu geni yn y saithdegau neu'r wythdegau ac wedi cael eu magu mewn ardaloedd tlawd, gan amlaf, o dan ddylanwad athroniaeth Thatcher ar draul yr athroniaeth gymdeithasol a gafwyd gynt, anogai Wayne ac eraill i rodio ar ei feic (ac yna ei geir cyflym) er mwyn chwilio am ddyfodol newydd, cyfoethog, a manteisio ar eu doniau i wneud elw anferthol iddynt eu hunain.

Ydi mae Wayne Rooney wedi dod yn gyfoglyd o gyfoethog, yn anfoesol o gyfoglyd o gyfoethog ac yn blentyn i athroniaeth Thatcher.

Ond petai fy enw i ar gefn crys replica fy nghlwb, a bod fy nghlwb yn gwneud elw o ryw £150 miliwn am ei werthu, yna fe fyddwn innau hefyd yn gofyn am fy rhan o'r elw yna.
Ymddengys, pan aeth Cristiano Ronaldo i Real Madrid fod y gwerthiant o grysau'r clwb wedi creu elw i'r clwb o €100 milwn ym mlwyddyn gyntaf cytundeb y blaenwr!

Pwy feddyliwch sydd yn prynu'r crysau yma? Wel yr ateb, gan amlaf, ydi'r union bobl ag sydd yn gweiddi ei fod yn hollol anfoesol fod pêl-droedwyr yn cael cymaint o gyflog!

Ydi'n ormod talu £10miliwn i Rooney am bum mlynedd, os gall ei enw ar gefn crys ddod a £500miliwn o elw i Manchester United dros yr un cyfnod? Mae gan ddynion busnes a'u hegwyddorion a moesoldeb lawer i fod yn gyfrifol amdano.

Does gan Rooney ddim gradd, na chwaith yn dal swydd bwysig un o fanciau mawr y wlad, ond mae wedi dilyn cyngor Thatcher a manteisio ar ei alluoedd.

Yn wir fe fyddai Rooney wedi derbyn llai o feirniadaeth petai wedi ceisio ymuno ac un o fanciau mawr y ddinas yn Llundain yn hytrach na dangos diddordeb mewn ymuno â Manchester City!

Ond dyna chi, ewch ati i brynu'r crysau heb unrhyw gydwybod ar gyfer aelodau eich teuluoedd erbyn y Nadolig, a sicrhewch fod egwyddorion marchnad rydd yn parhau, a phwy a ŵyr, hwyrach fe fyddwch yn helpu rhyw blentyn o ardal dlawd arall wella ei stad o fyw! Bydd eich cydwybod yn glir!!

Roo-ney! Roo-ney! Roo-ney!

BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.