Gwerthu medalau Best
Profiad newydd oedd mynd i arwerthiant memorabilia pêl-droed yn ocsiwn Bonhams yng Nghaer, lle gwelais medal enillydd Cwpan Ewrop (1968) George Best yn cael ei werthu am £156,000.
Roeddwn yn ofn chwythu'n nhrwyn na chrafu fy nghlust yno, rhag ofn i mi ymddangos fel fy mod yn awyddus i roi cynnig!
Gwerthwyd tlysau eraill a enillwyd gan, neu a roddwyd i Best, gan ddod a thua £200,000 o elw i gronfa ei eiddo.
Ond y tu ôl i'r cynnwrf, roedd tristwch o feddwl fod sefyllfa teulu Best yn golygu fod angen gwerthu eiddo unigryw, er mwyn talu dyledion a ddaeth i'w rhan yn sgil y gost am driniaeth feddygol George yn Ysbyty Cromwell, Llundain a dyledion ariannol i gyn wraig Best.
Tydi'r sefyllfa yma o werthu medalau a enillwyd ar lefel rhyngwladol, fodd bynnag, ddim yn un unigryw. Ymddengys mai'r brodyr Charlton - Bobby a Jack - a Roger Hunt fydd yr unig aelodau o dîm llwyddiannus Cwpan y Byd Lloegr a fydd bellach yn parhau i fod yn berchnogion o'r medalau a enillwyd yn ôl yn Wembley ym 1966.
Yr wythnos nesaf bydd Nobby Stiles yn gwerthu ei fedal o mewn arwerthiant yn y Royal Highland Centre yng Nghaeredin a disgwylir rhwng £100,000 a £150,000 amdani.
Roedd y crys a wisgwyd gan Pele, yn ei gêm ryngwladol olaf yn erbyn Iwgoslafia ym mis Gorffennaf 1971 hefyd ar werth yng Nghaer ac fe'i prynwyd am £7,200.
I roi pwysigrwydd arwyr cyfoes mewn persbectif, gwerthwyd pâr o sgidiau pêl-droed a arwyddwyd gan Wayne Rooney am £160!
Ie, deud dim ydi'r gorau, er roedd rhan ohonof yn rhyw ddisgwyl gweld Rooney yn troi i fyny yn yr ocsiwn ac yn cael ei gynnig ar werth fel rhywbeth ail-law, wedi gweld dyddiau gwell, er mwyn creu elw sydyn a fyddai'n lleihau dyledion teulu'r Glazers!
Ond tybed a ydych chi wedi prynu, neu werthu rhywbeth unigryw yn y byd pêl-droed, a faint a fyddech yn fodlon talu am rywbeth sydd yn golygu llawer i chi?
Diddorol fyddai cael clywed a chasglu eich barn.

Trin a thrafod y byd pêl-droed yn ffordd unigryw criw 